Skip to main content

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn ymweld â Bryncir i glywed pryderon y gymuned amaethyddol leol

Dyddiad

Bryncir Auction Centre - Dec 2022

Yn ddiweddar, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin â Chanolfan Arwerthu Lloyd Williams & Hughes ym Mryncir, Garndolbenmaen, er mwyn sgwrsio gyda'r gymuned wledig leol a gweld sut mae'r ganolfan yn fforwm gwerthfawr i'r gymuned yn yr ardal.

Cyflwynwyd y Comisiynydd i ffigyrau allweddol yn y ganolfan, ynghyd a'r bobl sy'n mynd yno, gan Gwynedd Watkin, Uwch Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru dros Sir Gaernarfon. 

Yn ystod yr ymweliad, clywodd y Comisiynydd farn ffermwyr ac amaethwyr yn yr ardal a thrafodwyd eu pryderon o ran trosedd a phatrymau sy'n dod i'r amlwg roeddent wedi'u profi. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i'r Comisiynydd ymgynghori'n uniongyrchol gyda'r bobl sy'n mynd i'r Ganolfan Arwerthu a thrafod ei brif flaenoriaeth o ymdrin ac atal troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt. 

Roedd y Rhingyll Peter Evans o dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn y digwyddiad hefyd ac wrth law i gynnig cyngor ymarferol i bobl ar sut y gallent ddiogelu eu hunain yn y frwydr yn erbyn trosedd. Rhoddodd y Rhingyll Evans ddiweddariad i'r bobl oedd yno ar broblemau trosedd lleol. Trafododd sut y gallent warchod offer amaethyddol yn well rhag lladrad posibl a sut y gall technoleg gynorthwyo gydag offer 'tagio' ar gyfer cael rhywbeth yn ôl pan mae byrgleriaeth wedi bod.

Mae Canolfan Arwerthu Bryncir yn farchnad gwerthu da byw amaethyddol ac ar waith ddeuddydd yr wythnos. Gydag oddeutu 300 o bobl yn dod bob wythnos, mae'r Ganolfan Arwerthu hefyd yn ganolfan gymdeithasol i'r gymuned, gan ganiatáu i ffermwyr a gweithwyr ffermydd gyfarfod ei gilydd a thrafod y pynciau llosg mewn amaethyddiaeth. Yn ystod yr ymweliad, dywedwyd wrth y Comisiynydd sut yr achubwyd y Ganolfan Arwerthu gan y gymuned amaethyddol leol, gyda chymorth yr Undeb Amaethwyr Cenedlaethol ac Undeb Amaethwyr Cymru yn 2001, yn dilyn Clwyf Traed a'r Genau, yn dilyn pryderon na fyddai marchnad fel hyn yn Sir Gaernarfon. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn deall yr heriau y mae trigolion mewn cymunedau gwledig yn eu hwynebu, sy'n aml yn teimlo'n hynod fregus oherwydd lleoliad eu cartrefi, ymhell o gymdogion agos.

"Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn dweud sut rwyf yn cynllunio cadw ffermwyr a busnesau gwledig yn ddiogel a sut rwyf yn benderfynol o weithio hyd yn oed yn agosach gyda Thîm Troseddau Cefn Gwlad yr Heddlu er mwyn sicrhau ein bod yn atal troseddau fel lladrad ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Rwyf yn parhau'n ymroddedig i dorri troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt. Roeddwn yn gwerthfawrogi'n cyfle i glywed am y pynciau llosg sy'n pryderu ein cymuned amaethyddol a gwledig o lygad y ffynnon, a'u profiad gyda phlismona hyd yma.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned amaethyddol ym Mryncir am eu croeso cynnes a'u hamser wrth leisio eu barn a'u pryderon a rhannu'r hanes anhygoel tu ôl i lwyddiant y Ganolfan Arwerthu gyda mi.  Hoffwn hefyd ddiolch i'r Rhingyll Evans am ymuno â mi er mwyn dangos ymrwymiad ehangach Heddlu Gogledd Cymru wrth wasanaethu'r gymuned wledig."

Dywedodd Gwynedd Watkin, Uwch Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru: "Roeddem yn falch o gael y Comisiynydd yn ymweld â Chanolfan Arwerthu Bryncir ac addo ei gymorth wrth ddiogelu ein cymuned.

"Rhoddodd yr ymweliad gyfle gwych i'r gymuned amaethyddol yn yr ardal roi 'wyneb i'r enw' ac iddynt allu lleisio'u pryderon a'u barn wrth y Comisiynydd.

"O fewn fy rôl broffesiynol, rwyf yn deall pa mor bwysig ydy hi hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol. Dyna pam rwyf yn gwerthfawrogi Andy yn dod i Ganolfan Arwerthu Bryncir yn y cnawd er mwyn creu ymddiriedaeth gyda'n cymuned wledig a datblygu cysylltiad ymarferol da rhwng amaethwyr a'r heddlu.