Skip to main content

Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymweld â gwasanaeth yng Ngogledd Cymru sy'n cynorthwyo i leihau trosedd a rhoi dechrau newydd i bobl

Dyddiad

Dechrau Newydd image 2

Mae'r gwasanaeth, o'r enw Dechrau Newydd yn digwydd bod, yn gweithio gyda phobl sydd â chysylltiad gyda'r system cyfiawnder troseddol a'u cynorthwyo nhw i leihau troseddu a gwneud newidiadau cynaliadwy i'w ffordd o fyw

Gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, a'r Dirprwy CHTh Wayne Jones, ymweld â Dechrau Newydd ar Ffordd Rhosddu, Wrecsam ddydd Mawrth 12 Ebrill i ddysgu mwy am ei waith hanfodol yn y gymuned. Bu iddynt hefyd gyfarfod â'i dim sy'n gweithio'n galed i leihau aildroseddu ledled Gogledd Cymru. 

Fel rhan o waith y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gynorthwyo cymunedau a lleihau trosedd yng Ngogledd Cymru, mae'n comisiynu gwasanaethau sefydliadau sy'n rhoi cymorth i grwpiau. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys cynorthwyo merched sydd wedi dioddef trais, cymorth i bobl fregus neu sydd mewn perygl o gael eu camfanteisio, neu brosiectau sy'n cynorthwyo i lywio pobl ifanc i ffwrdd o drosedd. Mae Dechrau Newydd yn un o'r gwasanaethau mae wedi'i gomisiynu mewn partneriaeth gyda'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf er mwyn cyflwyno rhaglen ymyrraeth cyffuriau ledled y rhanbarth.

Mae Dechrau Newydd yn gweithredu ledled chwe sir Gogledd Cymru gyda'r gred fod pawb yn haeddu'r cyfle i wella eu bywydau. Mae'n gweithio gyda throseddwyr sy'n defnyddio sylweddau a'u cynorthwyo nhw i leihau troseddu, gwella iechyd a llesiant cymdeithasol, a gwneud newidiadau cynaliadwy i'w ffordd o fyw. Cyflawnir hyn drwy fesurau gan gynnwys asesiad ac ymyriadau ymroddedig, cydlynu gofal, cynllunio gofal adferiad, gwasanaethau lleihau niwed, a gweithgareddau grŵp a chymorth cilyddol er mwyn cynyddu iechyd a llesiant. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Dechrau Newydd er mwyn cyfarfod â'r tîm a gweld y gwaith hanfodol maent yn ei wneud i leihau troseddau a rhoi dechrau newydd i'r rhai hynny sy'n gadael y system cyfiawnder troseddol. Mae comisiynu gwasanaethau fel Dechrau Newydd yn rhan allweddol o waith fy nhîm ac mae'n cynorthwyo i sicrhau cymorth a newid real a pharhaol yn y gymuned. Mae ariannu'r gwasanaethau hyn hefyd yn arwydd amlwg o sut mae'r trethi rydym i gyd yn eu talu yn cyfrannu'n fawr tuag at brosiectau gwerth chweil yn ein cymunedau.

"Mae canlyniadau Dechrau Newydd yn siarad dros eu hunain, gyda thros 90% o bobl sydd wedi ymgysylltu gyda'r prosiect yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy mewn rheolaeth o'u bywyd a gwell ymdeimlad o ddiben. Mae system cyfiawnder troseddol sy'n deg ac effeithiol yn rhan allweddol o'm Cynllun Heddlu a Throsedd er mwyn sicrhau Gogledd Cymru mwy diogel i ni gyd ac mae adsefydlu pobl yn gonglfaen y nod hwnnw."

Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth y Comisiynydd gyfarfod ag aelodau o'r tîm sydd wedi'u lleoli ledled Gogledd Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys Tony Ormond (Rheolwr Adsefydlu a Gwytnwch Rhanbarthol Gogledd Cymru), Adam Richardson (Uwch Weithiwr Gwytnwch), Danielle Entwistle (Arweinydd Clinigol Kaleidoscope), a Ruby McGilloway (Gweithiwr Cymorth Symudol Tai).

Dywedodd Tony Ormond: "Mae'n fraint arwain a rheoli'r Gwasanaeth Rhanbarthol hwn. I rai, mae grym temtasiwn tuag at gyffuriau a throsedd yn fawr. Fodd bynnag, rwyf yn hoffi meddwl fod gan staff Dechrau Newydd y sgiliau a'r arbenigedd i greu darlun gwahanol i demtio unigolion i ffwrdd o gyffuriau a throsedd. Gall pobl newid, ac maen nhw'n gwneud. Mae ein hymateb cyflym i ansefydlogi patrymau negyddol yn galluogi'r newid hwnnw."

Mae Dechrau Newydd yn rhan o sefydliad Kaleidoscope68, a ddechreuodd yn Kingston upon Thames yn 1968. Mae bellach yn ddarparwr gwasanaeth camddefnyddio sylweddau mawr ac mae'n rhedeg prosiectau ledled y wlad, ynghyd ag uned dadwenwyno cleifion mewnol sydd ag 20 o welyau yng Nghilgwri. Mae'n cynorthwyo dros 10,000 o bobl y flwyddyn ledled y wlad.