Dyddiad
Bydd côr meibion sydd newydd recordio cân gyda’r enwog Damon Albarn o'r grŵp Blur, yn cymryd rhan mewn cyngerdd mawreddog er budd pobl sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol.
Bydd Côr y Penrhyn yn perfformio yn y cyngerdd a gynhelir gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yng Nghadeirlan Bangor ar ddydd Gwener, Mawrth 8.
Bydd yr holl elw o’r noson yn mynd i Ganolfan Cefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) sy'n darparu gwasanaeth ar draws pob un o chwe sir gogledd Cymru.
Ymysg artistiaid nodedig eraill ar y noson bydd y gantores Elin Fflur, y band gwerin merched, Tant, ac Only Boys Aloud, un o rwydwaith o 14 côr ar draws Cymru i fechgyn rhwng 11 a 19 oed.
Sefydlwyd Elusen Aloud yn 2010 gan y cyfarwyddwr corawl Tim Rhys-Evans ac aelodau Only Men Aloud, gyda'r côr bechgyn yn dod yn drydydd yng nghystadleuaeth Britain's Got Talent ym mis Mai 2012.
Ddwy flynedd yn ôl fe enillodd yr elusen grant o £5,000 gan y gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis sy'n defnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr i ariannu mentrau ymladd troseddau ledled y Gogledd.
Mae'r arian yn cael ei ddosbarthu gan y comisiynydd heddlu a throsedd, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned (PACT).
Canodd Côr y Penrhyn y lleisiau cefndir ar gyfer Lady Boston, trac ar albwm ddiweddaraf Damon Albarn.
Dywedodd cadeirydd y côr, Dafydd Jones-Morris: "Roedd yn rhywbeth gwahanol iawn a bydd perfformio yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn y cyngerdd i gefnogi RASASC yn rhywbeth rydym yn fwy cyfarwydd ag o.
"Fe wnaeth asiant Damon Albarn gysylltu efo ni ar ôl i Gruff Rhys o'r Super Furry Animals awgrymu y byddem yn ddewis da i'r dasg.
Roedd yn chwilio am gôr Cymreig i recordio lleisiau cefndir ar gyfer cân. Mi wnaethon ni recordio pedwar trac mewn gwirionedd ac mi wnaethon nhw ddefnyddio un ar gân o'r enw Lady Boston.
Cafodd y recordiad ei wneud yng Nghastell Penrhyn ac ysgrifennwyd Lady Boston ar ôl i Damon Albarn weld hen lun Fictoraidd o griw hela sy'n hongian yn y castell."
Ychwanegodd: "Mae gwreiddiau’r côr yn chwarel lechi Bethesda a gallwn olrhain tarddiad y côr yn ôl i'r 1880au pan ffurfiwyd côr unedig o'r holl grwpiau llai a oedd yn bodoli ar orielau amrywiol y chwarel lechi.
Erbyn hyn mae gennym aelodau sy'n athrawon ysgol, ffermwyr, dynion busnes a llu o broffesiynau eraill."
Rydym eisiau cefnogi’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Arfon Jones, ac rydym yn croesawu’r ffaith ei fod yn trefnu'r gyngerdd yma i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gfyer RASASC sy'n elusen mor bwysig.
Rydym yn gweithio ar ein rhaglen ar gyfer y noson ond rwy'n siŵr y bydd y gynulleidfa yn cael clywed llawer o hen ffefrynnau ochr yn ochr â rhai caneuon newydd. Rydym i gyd wrth ein boddau yn canu. "
Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n mynd i berfformio ar y noson am gefnogi'r sefydliad gwych hwn sy'n gwneud gwaith mor bwysig.
Y llynedd, cefais y fraint o gael fy ngwahodd i agor eu swyddfeydd newydd yn swyddogol ym Mangor.
Mae mynd i'r afael â cham-drin rhywiol yn rhan allweddol o’m Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru.
Mae'r galw am wasanaethau'r ganolfan wedi ffrwydro yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar ôl y datgeliadau am Jimmy Savile ac, yn fwy diweddar, y rhai o academïau pêl-droed, ac mae hynny wedi helpu i annog mwy o oroeswyr i ddod ymlaen i ofyn am gymorth."
Ychwanegodd: "Bydd y cyngerdd yn noson ardderchog, yn llawn hiwmor da a cherddoriaeth arbennig. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i gael Dilwyn Morgan fel arweinydd y noson - mae'n hen gyfaill ac yn ddigrifwr doniol iawn.
Mae'n arbennig o briodol y bydd Only Boys Aloud yn cael lle amlwg ar y noson.
Mae'n brosiect unigryw sy'n helpu ac o fudd i lawer o fechgyn yn eu harddegau o rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y Gogledd.
Rwy'n falch iawn bod y cyllid rydym wedi gallu ei ddyfarnu i Only Boys Aloud yn cael ei ddefnyddio i helpu'r bobl ifanc ymrwymedig hyn i wireddu eu potensial.
Beth am ymuno â ni am yr hyn sy'n addo i fod yn noson anhygoel o gerddoriaeth wych a hiwmor iach a’r cyfan dros achos da?"
I archebu tocynnau sy’n costio £15 i oedolion a £10 i blant dan 12 oed, ewch i: www.ticketsource.co.uk/north-wales-police-and-crime-commissioner ac i gael mwy o wybodaeth am RASASC ewch i www.rasawales.org.uk