Dyddiad
Mae pennaeth heddlu wedi datgelu cynlluniau ar gyfer cynnydd o 38c yr wythnos yng nghost plismona yng Ngogledd Cymru - llai na phris pecyn o gwm cnoi.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn dweud bod angen y cynnydd o 7.74 y cant er mwyn recriwtio 34 o swyddogion heddlu ychwanegol a chwe aelod o staff i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â bygythiadau newydd sy’n dod i’r amlwg, fel troseddau difrifol a threfnedig, camfanteisio’n rhywiol ar blant, seiber-droseddu, caethwasiaeth fodern, cam-drin yn y cartref a gangiau cyffuriau sy’n manteisio ar blant ac oedolion ifanc.
Mae Mr Jones yn gobeithio cael cefnogaeth Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i’r cynnydd arfaethedig yng nghyfarfod y Panel ddydd Llun nesaf (Ionawr 28).
Bydd y 40 recriwt newydd yn ychwanegol at y 90 o heddweision a staff a gyflogwyd ers 2016 pan etholwyd Mr Jones, sydd yn gyn-arolygydd heddlu ei hun, yn Gomisiynydd.
Ar yr un pryd, mae’r heddlu newydd ddechrau ail-leoli swyddogion a staff fel rhan o ad-drefnu mawr.
O ganlyniad i’r Cynllun Gwella Gweithredol, bydd yna 30 o ymchwilwyr rheng flaen ychwanegol.
Dangosodd arolwg ar-lein a gynhaliwyd gan y Comisiynydd bod 51 y cant o’r 1,877 o drethdalwyr y dreth gyngor a gymerodd ran, o blaid cynnydd o 37c neu fwy yn y praesept - gyda thraean ohonynt yn cefnogi cynnydd llawer uwch o 50c neu fwy yr wythnos.
Roedd yr arolwg hefyd yn dangos “cefnogaeth lethol” ar gyfer y blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd Mr Jones sy’n gosod allan y strategaeth ar gyfer plismona gogledd Cymru.
Daw’r cyfan yn wyneb arbedion o £31 miliwn a orfodwyd ar Heddlu Gogledd Cymru ers 2011, a thoriad mewn termau gwirioneddol o £2.8 miliwn yn y grant blynyddol gan y Swyddfa Gartref am y flwyddyn i ddod.
Eleni, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi caniatâd arbennig i heddluoedd godi £24 y flwyddyn ychwanegol ar gyfer eiddo Band D i ymladd ergyd ddwbl llymder a’r angen i heddluoedd chwistrellu mwy o arian i bensiynau’r heddlu oherwydd yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â Brexit.
Mae’r cynnydd arfaethedig yn elfen praesept yr heddlu o’r dreth gyngor yng Ngogledd Cymru yn dod i £19.98 am y flwyddyn, a fyddai ymysg yr isaf o’r 43 gwasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr. Deallir bod y rhan fwyaf o gomisiynwyr yn bwriadu dewis y cynnydd llawn o £24.
Yn ôl Mr Jones, cynlluniwyd y gyllideb gyffredinol o £154 miliwn ar gyfer 2019/20 i gyflawni blaenoriaethau ei Gynllun Heddlu a Throsedd.
Dywedodd: “Wrth lunio fy nghynllun, cefais fy nghalonogi bod fy ngweledigaeth ar gyfer gwella’r ffordd y mae’r rhanbarth yn cael ei phlismona yn cael cefnogaeth lethol gan bobl gogledd Cymru.
Dangosodd yr arolwg ar-lein bod 92 y cant o drethdalwyr y dreth gyngor am i mi roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â throseddau trefnedig ac roedd 91 y cant yn cytuno bod cadw cymdogaethau’n ddiogel yn bwysig, tra bod 67 y cant eisiau i mi barhau i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern.
Yn ogystal ag ymgynghori â’r cyhoedd, rwyf hefyd wedi cynnal trafodaethau manwl efo’r Prif Gwnstabl a’i uwch dîm a wnaeth gadarnhau bod cynnydd o 7.74 y cant yn y dreth gyngor yn darparu digon o gyllideb ar gyfer cyflenwi gweithredol y gwasanaeth heddlu yng Ngogledd Cymru.
Rwy’n hyderus bod y cynnydd arfaethedig yn taro’r cydbwysedd cywir a priodol rhwng fforddadwyedd i drethdalwyr y dreth gyngor a sicrhau bod gan Heddlu Gogledd Cymru ddigon o arian i barhau i fod yn wasanaeth effeithlon ac effeithiol.
Mae angen pedair a hanner y cant o gynnydd ar gyfer cyllideb digyfnewid yn unig a fyddai’n golygu na allai’r heddlu ymdopi â’r galw cynyddol a achosir gan droseddau newydd a throseddau sy’n dod i’r amlwg.
Mae natur y plismona wedi newid yn fawr ac rydym yn wynebu heriau newydd a chynyddol felly mae’n rhaid i’r heddlu esblygu ac addasu yn unol â hynny.
Er gwaethaf gorfod ymdopi efo’r toriadau cyson rydym wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn buddsoddi yn ein rheng flaen, yn proffesiynoli ein rheng flaen ac yn ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: “Mae gennym uchelgais i fod y lle mwyaf diogel yn y DU a bydd y gyllideb arfaethedig yn sicrhau ein bod yn gallu bodloni’r heriau niferus sydd o’n blaenau, yn arbennig yn wyneb y troseddau newydd sy’n dod i’r amlwg y mae angen i ni roi sylw arbennig iddynt.
Mae ein cymunedau’n dal i ddymuno gweld swyddogion heddlu gweladwy a rhagweithiol, ac am y sicrwydd y byddwn ni yno pan fydd pobl yn gofyn am help.
Ond mae yna droseddau cudd, fel seiber-droseddu a cham-fanteisio ar-lein, yn ogystal â bygythiadau mawr o Linellau Sirol, sef gangiau cyffuriau sy’n gweithredu ar draws ffiniau, gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu gorfodi, eu paratoi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgarwch anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.
Mae’r materion hyn, ynghyd â heriau cyllidebol parhaus, wedi ein gorfodi i wneud toriadau o tua £30 miliwn ers 2011, sy’n golygu ein bod yn gorfod edrych ar bob agwedd o’n gwasanaeth, a bod hyd yn oed yn fwy call yn y ffordd rydym yn gweithredu.”