Skip to main content

CPD Prestatyn Sports yn sgorio, diolch i fuddsoddiad cymunedol

Dyddiad

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin â Chlwb PêlDroed Prestatyn Sports yn ddiweddar, i weld  effaith cadarnhaol  eu cais llwyddiannus am fuddsoddiad drwy Eich Cymuned, Eich Dewis. Yn ystod yr ymweliad, gwelodd y CHTh gyfleusterau’r clwb a’r cynnydd a wnaed yn ehangu eu cynigion pêldroed i bobl ifanc.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ledled Gogledd Cymru,  gyda chymorth Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a Heddlu Gogledd Cymru. Mae arian cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod o arian a atafaelwyd gan y llysoedd o dan y Ddeddf Enillion Troseddau, efo’r gweddill yn dod o gronfa’r CHTh.

Diolch i  gefnogaeth Eich Cymuned, Eich Dewis, mae CPD Prestatyn Sports wedi prynu pyst gôl newydd, fel rhan o’u prosiect i greu dau gae penodol  ar gyfer  grwpiau o oedran gwahanol ymhlith eu timau. Mae’r offer newydd yma yn galluogi i’r clwb gymryd rhagor o chwaraewyr ifanc mewn mannau pwrpasol, er mwyn magu datblygiad sgiliau, gwaith tîm a theimlad cymunedol.

Wrth fynd i’r tymor pêl droed nesaf, bydd gan CPD Prestatyn Sports dîm cyntaf yn cystadlu yn Haen 5 o’r gynghrair, chwaraewyr profiadol hŷn yn gobeithio rhoi tîm yn y gynghrair am y tro cyntaf, ac adran iau, efo chwaraewyr oed 8 i 16, yn cystadlu yng nghynghreiriau Rhyl a’r Ardal, sy’n amlygu ymroddiad y clwb i fagu talent pobl o bob oed. Mae eu timau 5-pob-ochr yn cyfarfod yn rheolaidd, ac mae  gwersylloedd pêl-droed yn cael eu trefnu yn ystod y gwyliau ysgol, yn sicrhau eu bod ar gael drwy’r flwyddyn, yn hybu ffordd o fyw iach a bywiog.

Yng nghwmni Ashley Rogers, Cadeirydd PACT, Ysgrifenydd Iau CPD Prestatyn Sports Barbara Smith, Hyfforddwr CPD Prestatyn Sports, Sion Williams, a’r  SCCH James Jones, gwelodd Mr Dunbobbin sut oedd CPD Prestatyn Sports yn cynnig amgylchedd gyflawn ar gyfer pobl o bob oed sy’n mwynhau pêl-droed, a gweld sut y byddai’r arian yn cael ei wario i hyrwyddo eu gwaith.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Mae mentrau fel Eich Cymuned, Eich Dewis yn chwarae rôl hanfodol yn cynorthwyo prosiectau cymunedol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ein pobl ifanc. Mae ymroddiad CPD Prestatyn Sports, drwy ddarparu llefydd diogel i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, i’w gymeradwyo.

“Mae eu gwaith yn ategu ein blaenoriaethau plismona, dryw gynnig gweithgareddau ymarferol sy’n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn magu teimlad o fod yn rhan o gymuned ymysg y genhedlaeth iau.”

Dywedodd Hyfforddwr CPD Prestatyn Sports, Sion Williams: “’Da ni’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad ‘rydym wedi ei gael drwy fenter Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae’r clwb yn cydnabod pwysigrwydd darparu gweithgareddau hwyliog i blant lleol, ac yn credu bydd y cyfleusterau ychwanegol yn darparu allfeydd pwrpasol, cymdeithasol a chorfforol i bobl ifanc fedru ffynnu tra’n trosglwyddo sgiliau gwerthfawr.

“Bydd y buddsoddiad yn ein caniatáu i ehangu ein gweithgareddau pêl-droed i bobl ifanc, yn rhoi rhagor o gyfleodd i dalent ifanc ddatblygu eu sgiliau a’u hangerdd tuag at y gêm. Efo caeau a chyfleusterau pwrpasol, gallwn fagu cenhedlaeth newydd o chwaraewyr tra’n maethu teimlad cymunedol cryf.”

Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “’Da ni wrth ein boddau ein bod wedi medru buddsoddi arian yn CPD Prestatyn Sports drwy gynllun Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae gweld effaith ein cynorthwyaeth yng nghreu llefydd pwrpasol i ddatblygu pobl ifanc ac ymgysylltiad cymunedol yn rhoi boddhad mawr. Mae prosiectau fel hyn yn cyd-fynd efo’n cenhadaeth o gyfnerthu mentrau lleol sy’n maethu newid cadarnhaol o fewn ein cymunedau.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Chris Allsop: “’Dwi’n hapus gweld y brosiect gwerth chweil yma’n cael  cefnogaeth. Drwy rhoi allfa bwrpasol i bobl ifanc drwy bêldroed, nid yn unig dan ni’n hybu ffordd o fyw yn iach ond hefyd yn taclo’r broblem o ymddieithrio ymysg pobl ifanc. Mae’n ffordd ardderchog o gadw plant oddi ar y strydoedd ac ar y trywydd iawn,  er mwyn iddynt lwyddo yn y dyfodol.”