Skip to main content

Creu Rôl er mwyn helpu dioddefwyr ffyrdd a theuluoedd pobl sydd wedi'u lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd

Dyddiad

ew role created to help road victims and families of people killed and seriously injured on roads in North Wales

Bydd teuluoedd pobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd Gogledd Cymru, ynghyd â phobl sydd wedi anafu'n ddifrifol eu hunain, yn cael help o'r safon uchaf gan Eiriolwr Annibynnol Dioddefwyr Ffyrdd. Mae hwn yn rhan o wasanaeth newydd a ariennir gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) sef Andy Dunbobbin.

Bydd John Hughes-Jones o Ogledd Cymru, sy'n derbyn rôl yr Eiriolwr, yn cael eu cyflogi gan Brake, yr elusen diogelwch ffyrdd. Mae eu rôl nhw’n cael ei hariannu gan swyddfa'r CHTh, sy'n rhoi cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaeth ffôn gan Brake sy'n cael ei gynnig i bob dioddefwr ffordd yng Nghymru a Lloegr. 

Gwasanaeth Cenedlaethol Dioddefwyr Ffyrdd gan Brake ydy'r unig wasanaeth  gweithwyr achos arbenigol, llawn gwybodaeth glinigol ac am drawma, o'r dechrau i'r diwedd ac yn y cnawd sy'n helpu dioddefwyr ffyrdd ym mhob heddlu yn y DU. Ei nod ydy gofalu am ddioddefwyr ffyrdd pan mae'r gwaethaf yn digwydd, eu nhw ymdopi a dod at eu hunain a gweithio tuag at les. 

Yn 2022, bu farw 34 o bobl ar ffyrdd yng Ngogledd Cymru, gan adael teuluoedd wedi'u llorio ac angen help arbenigol. Mae dioddefwyr ffyrdd yn wynebu nifer o weithdrefnau ymarferol cymhleth ar ol gwrthdrawiad. Mae hyn yn cynnwys adnabod corff anwylyn, mynd i wrandawiad troseddol neu gwest, casglu eiddo a dillad anwylyn, deall sut ddigwyddodd gwrthdrawiad, a rhoi Datganiad Effaith Dioddefwr yn y llys. Mae Gwasanaeth Cenedlaethol Dioddefwyr Ffyrdd Brake yn darparu gwasanaethu wedi'i deilwra er mwyn bodloni eu hanghenion unigol ac yn rhoi dioddefwyr ffyrdd yn y canol. Bydd yr Eiriolwr yn rhoi help wyneb yn wyneb drwy lwybr atgyfeirio gwell gan Swyddogion Cyswllt Teuluoedd Heddlu Gogledd Cymru, sydd yn cysylltu gyntaf hefo dioddefwyr ffyrdd. 

Gall yr Eiriolwr helpu hefo:

  • Help emosiynol
  • Help ymarferol
  • Deall gweithdrefnau, fel erlyniadau troseddol neu achosion llys
  • Ceisio a defnyddio cyfreithwyr
  • Help hefo'r teulu, er enghraifft hefo plant neu'r henoed
  • Gwella o anaf.

Wrth i’r Nadolig nesáu, mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi rhyddhau ffigyrau o’i ymgyrch atal yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau. Hyd at 20 Rhagfyr, roedd 55 o arestiadau gyrru ar gyffuriau a 42 o arestiadau yfed a gyrru wedi bod ar draws y rhanbarth. Mae’r ymgyrch yn ceisio amlygu effeithiau dinistriol posibl gyrru o dan ddylanwad a stopio’r rhai hynny sy’n peryglu bywydau drwy yrru ar ôl cael alcohol neu gymryd cyffuriau.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu ariannu Eiriolwr Annibynnol Dioddefwyr Ffyrdd yng Ngogledd Cymru. Dwi'n hyderus y bydd John yn gallu cynnig help ac arweiniad angenrheidiol i deuluoedd mewn galar a phobl sydd wedi anafu'n ddifrifol yng nghyfnodau mwyaf bregus a gofidus eu bywydau nhw. 

"Fel CHTh, dwi wedi cynnwys gwella diogelwch ffyrdd fel rhan allweddol o'm cynllun plismona a throsedd i yng Ngogledd Cymru. Fi ydy'r Comisiynydd cyntaf i wneud hynny yn y rhanbarth. Ein nod ni ydy atal trasiedïau cyn iddyn nhw ddigwydd. 'Da ni'n gwneud hynny drwy addysg, mesurau diogelwch a phlismona. Ond mae'r rôl hon yn dangos y pwyslais 'da ni'n ei roi ar helpu dioddefwyr, a'u galluogi nhw ddod i delerau hefo'r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw. Gyda’r Nadolig wrth y drws, dwi hefyd yn cefnogi Heddlu Gogledd Cymru yn ei ymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau a’r canlyniadau trasig gall y gweithrediadau hyn ei wneud yn ein cymdeithas ni.”

Dywedodd Jami Blythe, pennaeth datblygu Brake, yr elusen diogelwch ffyrdd:: "'Da ni'n falch o weithio hefo swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru er mwyn gwneud yn siŵr fod mwy o ddioddefwyr ffyrdd yn cael yr help maen nhw ei angen yn dilyn colled sydyn mewn gwrthdrawiad ar y ffordd. Mae'n hollbwysig fod unrhyw un mewn galar oherwydd gwrthdrawiad ffordd yn gallu cael mynediad at help yn y cnawd sy'n llawn gwybodaeth am drawma gan weithiwr achos arbenigol yma yng Ngwasanaeth Cenedlaethol Dioddefwyr Ffyrdd Brake. 'Da ni'n falch fod Mr Dunbobbin wedi cydnabod yr angen hwn ar gyfer ei gymunedau o."

Dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Mae bob marwolaeth neu anaf difrifol ar ein ffyrdd yn cael effaith sylweddol a thymor hir ar y gymuned leol. Felly mae hi'n hanfodol fod y rhai hynny sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol yn derbyn help arbenigol a thymor hir.  Yn anffodus, rhwng mis Ionawr a mis Hydref eleni, mae 23 o bobl wedi marw a 236 wedi dioddef anafiadau difrifol ar ffyrdd Gogledd Cymru. Tra mae llawer o waith ar y gweill er mwyn lleihau'r ystadegau hyn yn sylweddol, mae llawer o deuluoedd ac unigolion o hyd wedi'u gadael hefo colled ddinistriol neu anaf sydd wedi newid bywyd yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd.

"Mae ein Swyddogion Cyswllt Teuluoedd neilltuol eisoes yn rhoi help mawr i deuluoedd ac anwyliaid. Dwi'n falch y byddan nhw'n gallu gweithio hefo Eiriolwr Brake er mwyn gwella'r help sydd ar gael i'w helpu nhw."