Skip to main content

Crimestoppers yn helpu taclo Llinellau Sirol

Dyddiad

Crimestoppers Logo - new

Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio er mwyn mynd i’r afael â’r gangiau cyffuriau sy’n manteisio ar blant a phobl ifanc agored i niwed yng ngogledd Cymru.

Mae gangiau troseddol o ddinasoedd mawr fel Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain wedi ymestyn eu rhwydweithiau cyffuriau i’r rhanbarth fel rhan o fygythiad cynyddol “Llinellau Sirol”.

Daeth yr elusen Crimestoppers a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones at ei gilydd i lansio’r ymgyrch ym Mhrosiect Kaleidoscope yn Wrecsam.

Mae’r ymgyrch yn cyd-fynd gydag Wythnos Genedlaethol Diogelu (12-16 Tachwedd), gyda thema eleni yn canolbwyntio ar gamfanteisio.

Maent yn dweud bod pobl ifanc yn cael eu gorfodi, eu paratoi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgaredd anghyfreithlon ar draws y rhanbarth. Mae llawer ohonynt yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis ac yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ffordd o ddianc rhag y loes a’r niwed y maent yn ei ddioddef yn ddyddiol.

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am Linellau Sirol, cefnogi pobl ifanc trwy ystod o bartneriaid yn y gymuned ac annog y cyhoedd i godi llais os oes ganddynt unrhyw amheuon neu wybodaeth am Linellau Sirol.

Tra bydd yr elusen Crimestoppers yn trin gwybodaeth a roddir iddynt yn gwbl gyfrinachol, bydd yr heddlu hefyd yn gweithredu ar draws y rhanbarth i amharu ar y rhai sy’n ymwneud â throseddu fel hyn.

Dywedodd Arfon Jones: “Rwy’n falch o gefnogi’r ymgyrch newydd bwysig hon i dynnu sylw at fygythiad y gangiau troseddol sy’n ceisio camfanteisio ar blant yn eu gweithgareddau gwarthus wrth iddynt geisio ennill tiriogaethau newydd ar gyfer eu rhwydweithiau cyffuriau.

Maent yn manteisio ar blant a phobl ifanc trwy eu gorfodi i redeg cyffuriau Dosbarth A, arian parod neu arfau, nid dim ond yma yng ngogledd Cymru ond ar draws y Deyrnas Unedig. Mae mynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol hwn yn un o’m prif flaenoriaethau.”

Dywedodd Gary Murray, Rheolwr Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr yr elusen Crimestoppers: “Mae camfanteisio ar blant a phobl ifanc gan y gangiau hyn yn fater sy’n achosi pryder gwirioneddol. Mae’r dioddefwyr yn aml yn rhy ifanc ac efo gormod o broblemau i allu sylweddoli beth sy’n digwydd iddynt.

Cred Crimestoppers bod gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel rhag trosedd ac rydym angen eich help i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu hecsbloetio. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw. Ni fyddwn yn barnu. Dim ond gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei wybod. Pan fyddwch yn rhoi’r ffôn i lawr neu glicio ‘anfon’, rydych chi wedi gorffen. Dros 30 mlynedd, mae ein helusen bob amser wedi cadw ei addewid bod pawb sy’n cysylltu â ni yn aros yn 100% anhysbys. Bob amser.”

Dywedodd Martin Blakebrough, Prif Weithredwr Canolfan Trin Dibyniaeth ar Gyffuriau Kaleidoscope:

“Mae Llinellau Sirol yn bygwth lles ein plant, ac mae gennym ddyletswydd i wneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu. Hefyd, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod y cyffuriau y maent yn cael eu gorfodi i’w dosbarthu yn achosi niwed mawr i oedolion bregus a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y rhai sy’n camfanteisio ar blant a phobl ifanc, mae elusen Crimestoppers yma i helpu. Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt y DU yn ddienw ar 0800 555 111 neu defnyddiwch ein ffurflen ar-lein cwbl gyfrinachol yn www.crimestoppers-uk.org.