Skip to main content

Cydnabod partneriaeth sgrinio'r brostad hefo'r heddlu mewn digwyddiad yn yr Wyddgrug

Dyddiad

Ar 30 Mai yng Ngorsaf Heddlu'r Wyddgrug, dathlwyd partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford ("yr Ymddiriedolaeth"), sef sefydliad codi ymwybyddiaeth am ganser y brostad, er mwyn hyrwyddo sgrinio canser y brostad.

Mae'r gydnabyddiaeth yn dangos y cyfleoedd sy'n bodoli er mwyn diogelu iechyd a lles dynion yn eu gweithle. Fe wnaeth hefyd helpu dangos pwysigrwydd canfod problemau'r brostad yn gynnar. Mae hwn yn fater sydd wedi gweld cynnydd diweddar mewn ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd yn dilyn triniaeth ddiweddar y Brenin ar gyfer prostad wedi gordyfu.

Yn 2019, dechreuodd yr Ymddiriedolaeth bartneriaeth hefo Heddlu Gogledd Cymru er mwyn cynnig sgrinio profion PSA mewn swyddfeydd a gorsafoedd ar draws stad yr heddlu i swyddogion a staff gwrywaidd dros 40 oed. Prawf gwaed ydy prawf PSA sy'n gallu canfod arwyddion cynnar canser y brostad. Mae'r prawf yn mesur lefel PSA (antigen benodol i'r brostad) yng ngwaed rhywun. Mae PSA yn cael ei wneud gan chwarren y brostad. Bydd rhywfaint ohono'n gollwng i'r gwaed, ac mae faint yn dibynnu ar oedran y dyn ac iechyd eu prostad.

Mae'r bartneriaeth arloesol hon rhwng Heddlu Gogledd Cymru a'r Ymddiriedolaeth wedi'i hefelychu mewn heddluoedd eraill ledled y wlad. Fe'i hystyrir yn fodel sut i ddod â sgrinio i weithle'r gwasanaethau brys.  

Ar ôl cyfarfod hefo Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Gogledd Cymru, er mwyn trafod y prosiect, gwelodd Susan Hart o Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford a'r CHTh sesiwn sgrinio yn cael ei chynnal. Gwelon nhw sut mae'r driniaeth yn cael ei chynnal mewn lleoliad gwaith a sut mae cyngor a chymorth yn cael eu rhoi i'r dynion sy'n dod. Yn dilyn gweld y sesiwn sgrinio, cyflwynwyd tystysgrif i Susan Hart a lofnodwyd ar y cyd gan y CHTh ac Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru er mwyn nodi'r bartneriaeth sgrinio rhwng yr Ymddiriedolaeth a'r Heddlu.

Heddlu Gogledd Cymru oedd y cyntaf yn y DU i gyflwyno'r cynllun achub bywyd hwn a hynny diolch i Maria Hughes, cyn-Bennaeth Gwasanaethau Meddygol a Lles Heddlu Gogledd Cymru. Dywedodd: "Fel sefydliad, mae Heddlu Gogledd Cymru yn hynod awyddus cynorthwyo'r gweithlu mewn ffordd ragweithiol.

"Mae gweithio hefo'r elusen wedi arwain at achub 12 o fywydau yn Heddlu Gogledd Cymru drwy staff nad oeddent yn arddangos unrhyw symptomau mewn gwirionedd. Fel y gwyddom, mae'r PSA yn ddangosydd ac nid offeryn diagnostig. Ond mae'n galluogi sgwrs ehangach hefo meddyg teulu aelod o staff.

"'Da ni hefyd yn hynod falch o fod yr heddlu cyntaf yn y DU i ddatblygu'r prosiect hwn."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae'n bwysig fod pob sefydliad yn gwerthfawrogi iechyd a lles eu staff ac nid ydy'r heddlu'n wahanol. Yn ogystal â sicrhau bod swyddogion a staff yn teimlo'n iach ac mewn hwyliau da, mae sesiynau sgrinio fel hyn hefyd yn golygu eu bod hefyd yn gallu gwasanaethu pobl y rhanbarth yn fwy effeithiol a chanfod unrhyw broblemau'n gynnar.

"Dwi'n falch iawn fod y bartneriaeth uchel ei pharch hon hefo Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford er mwyn sgrinio'r gweithlu'n cael ei efelychu mewn mannau eraill yn y wlad. Mae'n dangos sut mae ein gwaith arloesol yma yng Ngogledd Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer plismona ledled y wlad."

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford gan Graham a Sue Fulford er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o Ganser y Brostad yn dilyn diagnosis ffrind agos a fu farw yn 58 oed ac aelod agos o'r teulu a fu farw yn 2007 o ganser y brostad ar ôl brwydr ddewr. Ers 2004, ynghyd â phartneriaid, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn ymwneud â phrofi dros 138,557 o ddynion a chynnal 283,114 o brofion (ffigurau ar 28 Mai 2024). O ganlyniad, nodwyd dros 3,027 o ganserau nad ydynt wedi cael eu darganfod fel arall.

Er mwyn cael gwybod mwy am Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford a sgrinio PSA, ewch ar: www.psatests.org.uk/