Dyddiad
Ar nos Wener, 25 Tachwedd cyfarfu Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Cyngor Sir Wrecsam ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts â phobl leol sy'n helpu cadw trigolion ac ymwelwyr yn Wrecsam yn ddiogel yn ystod cyfnod y Nadolig. Roedd dyddiad yr ymweliad hefyd yn bwysig gan mai Diwrnod y Rhuban Gwyn oedd hi, diwrnod rhyngwladol sy'n anelu at ddod â thrais gan ddynion yn erbyn merched a genethod i ben.
Wrth i'r Nadolig nesáu, mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a thafarnwyr canol y ddinas yn gweithio gyda'i gilydd i helpu cadw pawb yn ddiogel yn ystod y cyfnod mwyaf prysur ac mi wnaeth yr ymweliad danlinellu'r ymrwymiad hwn.
Mi wnaeth y grŵp gyfarfod yn Hafan y Dref, sydd mewn adeilad ar Ffordd St Giles ar waelod Town Hill yng nghanol y ddinas. Yn yr adeilad mae'r Ganolfan Ddiogel sydd ag adnoddau i helpu pobl sydd efallai wedi yfed gormod, wedi colli ffrindiau neu sydd yn sâl. Mae'r gwaith yn Hafan y Dref wedi bod yn bosib drwy arian gan 'Strydoedd Diogelach' Swyddfa Gartref y DU a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2022. Gall pobl dderbyn gofal meddygol, cyngor ar sut i gadw'n ddiogel a dyfeisiadau i'w helpu i aros yn ddiogel fel gorchudd ar ddiodydd er mwyn atal diodydd rhag cael eu sbeicio a 'flip flops'.
Roedd yr ymweliad yn cyd-fynd â gem Cymru v Iran a chwaraewyd yn gynharach yn y dydd gyda nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed allan yn cefnogi Cymru mewn niferoedd da mewn 'fanzones' ar draws y ddinas, gan roi hwb cynnar i economi nos y dref.
Yn dilyn taith o amgylch yr adnodau yn Hafan y Dref, cyfarfu Andy Dunbobbin
a Chynghorydd Roberts â Colin McGivern, Perchennog Events Medical Team, sy'n roi gofal meddygol i'r rhai mewn angen; Laurie Searle, Cydlynydd Bugeiliaid y Stryd, a Sandra Owens; Mel Pengelly, Cyfarwyddwr Masnachol, Francis Johnson, Prif Weithredwr Parallel Security, sy'n darparu Marsialiaid Stryd; yn ogystal â’r Marsial Stryd Jordan Waddilove. Roedd Rhingyll Claire McGrady o dîm dinas Wrecsam Heddlu Gogledd Cymru yno hefyd i egluro'r mesurau plismona sydd yn eu lle ar gyfer y Nadolig.
Yna, mi wnaeth y grŵp gwrdd â thafarnwyr Town Hill, Ironworks a The Parish i drafod eu hymdrechion i ddiogelu cwsmeriaid a dysgu sut maent yn gweithio gyda'r tîm plismona lleol a'r cyngor i gadw'r economi nos yn llwyddiannus a diogel yn Wrecsam.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser gweld Wrecsam a chlywed am yr holl waith da sy'n digwydd i gadw'r trigolion ac ymwelwyr yn ddiogel ar noson allan. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae'r 'Chwarter Aur' yn hynod o bwysig i'n diwydiant lletygarwch ar draws Gogledd Cymru ac rydym am i gwsmeriaid wybod bod pob un ohonom - yr heddlu, y cyngor a fi fy hun fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn poeni am eu lles. Mae cymdogaethau diogel yn rhan allweddol o fy nghynllun ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru ac mae'r gwaith yn Hafan y Dref ac mewn llefydd eraill yn Wrecsam wedi bod yn bosibl gydag arian o'r fenter Strydoedd Diogelach, sy'n enghraifft wych o'r amcan hwn."
Dywedodd Arweinydd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cyng Paul Roberts: “Mae Wrecsam yn le diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag e. Byddwn yn parhau i weithio yn agos gydag ein partneriaid er mwyn sicrhau bod y dref yn aros yn ddiogel."
Meddai'r Rhingyll Claire McGrady o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Heddlu Dinas Wrecsam wedi ymrwymo i roi cefnogaeth ychwanegol i’r economi nos. Mae Strydoedd Diogelach wedi galluogi hyn i ddigwydd, gyda swyddogion ychwanegol ar batrôl, marsialiaid stryd a Hafan y Dref i gyd yn darparu gwasanaethau i sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad positif yn Wrecsam yn ystod cyfnod y Nadolig.
Mae rhaglen y Swyddfa Gartref sy’n werth £75miliwn yn annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol i gynnig am fuddsoddiad i fentrau er mwyn atal troseddau mewn cymdogaethau. Nod y prosiect yw cynorthwyo ardaloedd sy'n dioddef troseddau ledled Cymru a Lloegr, fel byrgleriaeth ddomestig, lladrad, dwyn, troseddau cerbydau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn merched a genethod mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys yn yr economi nos.
Gweithiodd tîm y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam, Stepping Stones, Canolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, ysgolion, gwasanaethau cyfiawnder a phartneriaid y trydydd sector i sicrhau fod y cynnig wedi cael cymaint o gymorth a phosibl.