Skip to main content

Cyfarfod craffu diweddaraf Heddlu Gogledd Cymru

Dyddiad

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn parhau i graffu gwaith Heddlu Gogledd Cymru mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Yn ddiweddar, cynhaliodd adolygiad pellach yn y Bwrdd Gweithredu Strategol chwarterol. Yn y cyfarfod hwn, gwnaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) a'i dîm gyfarfod hefo Prif Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru er mwyn adolygu cyflawniad yr Heddlu ar y cyfan, gan gynnwys o ran blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y CHTh. Yn y cyfarfod diweddaraf, a fu ar 8 Tachwedd, ac a gadeiriwyd gan y Dirprwy CHTh Wayne Jones, archwiliwyd cyflawniad yr Heddlu ar Blismona Ffyrdd a Throseddau Difrifol a Threfnedig.

Y meysydd a edrychwyd arnynt ydy:

  • Trosolwg a dealltwriaeth o'r gwrthdrawiadau angheuol a lle ceir anaf difrifol, lleoliadau, oedrannau gyrwyr a'r gwaith mae'r Heddlu wedi'i wneud wrth atal. 
  • Rôl Swyddogion Cyswllt Teuluoedd sy'n gweithio hefo teuluoedd yn dilyn gwrthdrawiadau angheuol.
  • Mentrau addysg ac ymwybyddiaeth mae'r Heddlu'n eu cynnal ar hyn o bryd hefo'r cyhoedd.
  • Data ar orfodi troseddau sy'n gysylltiedig hefo'r 5 Angheuol, sef pum ffactor allweddol a all arwain at wrthdrawiadau, fel gyrru a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
  • Defnyddio Adnabod Rhifau Ceir yn Awtomatig (ANPR) er mwyn atal troseddau ar y ffyrdd.

Yr ail faes a graffwyd oedd y gwaith mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dechrau mewn ymateb i adroddiad diweddar Arolygaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) ar Droseddau Difrifol a Threfnedig. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod staff yn deall pwysigrwydd ymdrin â bygythiadau gan droseddau difrifol a threfnedig sy'n dod i'r amlwg.
  • Cynyddu gallu'r Heddlu er mwyn deall bygythiadau sy'n dod i'r amlwg a chofnodi arfer da er mwyn gwella cyflawniad.
  • Hyfforddi Timau Plismona Lleol.
  • Sylw cynyddol ar fod yn rhagweithiol ar draws Gogledd Cymru. 
  • Y ffordd fydd yr Heddlu'n cydweithredu hefo partneriaid lleol er mwyn gweithredu'r fenter Hel Dal Cryfhau ymhellach. Mae hwn yn gynllun er mwyn creu cadernid cymunedol, gwella hyder ac ymddiriedaeth yn yr heddlu a gwneud lle yn lle mwy diogel i fyw. 
  • Dangos sut fydd data'n cael ei ddefnyddio er mwyn targedu troseddwyr a chymell atal.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae'r Bwrdd Gweithredu Strategol yn fy ngalluogi i archwilio sut mae'r Prif Gwnstabl yn cyflawni mewn meysydd hanfodol, yn enwedig y rhai hynny yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. 

"Mae Diogelwch Ffyrdd yn amlwg yn un o'r meysydd hyn. Rwyf wedi edrych ar gyflawniad yr heddlu yn y maes hwn yn barhaus.

"Clywodd fy swyddfa i sut mae'r Heddlu'n canolbwyntio ar wneud ffyrdd Gogledd Cymru drwy ymgyrchoedd rhagweithiol er mwyn atal gyrru peryglus a diofal, yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau ynghyd â mentrau addysg. Ar ben hyn, mae'r Heddlu'n defnyddio technoleg er mwyn atal troseddwyr rhag defnyddio ffyrdd drwy dechnoleg ANPR, enghraifft sy'n targedu gangiau Llinellau Cyffuriau. 

"O ran archwilio Troseddau Difrifol a Threfnedig, roedd hyn benodol er mwyn clywed yr ymateb mae'r Heddlu yn ei roi mewn lle yn dilyn adroddiad arolwg HMICFRS. Roeddwn i, ynghyd â'r Prif Gwnstabl yn siomedig hefo'r graddio. Dwi hefyd yn cydnabod fod y Prif wedi annog cyfres o fesurau ers yr arolwg er mwyn delio hefo'r materion a gafodd eu codi.  Roeddwn i'n hynod o awyddus clywed am y canlynol. Sut mae'r Heddlu'n bwriadu gwella hyfforddiant staff o ran gwybodaeth am droseddau difrifol a threfnedig? Sut mae delio ag o ar lefelau lleol a chamau nesaf y fenter Hel, Dal a Chryfhau mae'r Heddlu wedi'i ddefnyddio o'r blaen a oedd o fantais?

"Fel CHTh, dwi eisiau sicrhau'r cyhoedd y gwnâi barhau craffu ymateb yr Heddlu a chydweithio'n agos hefo'r Prif Gwnstabl er mwyn helpu'r gwaith parhaus. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhan o Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol y Gogledd Orllewin. Roedd yn braf gweld yr Uned yn derbyn gradd ragorol gan AHEM."

Gall trigolion ddysgu mwy am y Bwrdd Gweithredol Strategol a darllen cofnodion cyfarfodydd o'r gorffennol ar wefan SCHTh yma: Craffu Gwasanaethau Plismona | Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (northwales-pcc.gov.uk).