Dyddiad
Mae cyffuriau a digartrefedd wedi cymryd 60 o fywydau yn Wrecsam dros y chwe blynedd diwethaf.
Mae nifer y marwolaethau yn sobreiddiol - gan gyfateb i 10 marwolaeth y flwyddyn – ac fe’i gofnodwyd ar Goeden Gofio mewn hostel sy’n cael ei redeg gan elusen i’r digartref yn y dref.
A bydd y gofeb yng nghartref Tŷ Croeso elusen The Wallich ar Ffordd Grosvenor yn fuan yn ychwanegu pum enw arall i’r rhestr drist.
Roedd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throseddau Gogledd Cymru, wedi’i syfrdanu i glywed yr ystadegau dychrynllyd.
Mae’n ymgyrchydd brwd dros ddiwygio cyfreithiau cyffuriau’r Deyrnas Unedig ac yn cefnogi mudiadau sy’n gweithio gyda dioddefwyr digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau.
Yn ôl Mr Jones, yn amlach na pheidio, roedd cysgwyr y stryd yn dioddef oherwydd amryw o faterion cymhleth, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, digartrefedd a defnydd cyffuriau problemus.
Roedd eu cyflwr truenus yn un o’r rhesymau iddo gyflwyno cyllun newydd o’r enw Checkpoint er mwyn dargyfeirio troseddwyr lefel isel i ffwrdd o fywyd troseddol.
Roedd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, yn siarad yn ystod ymweliad â’r Goeden Gofio yn Nhŷ Croeso.
Mae hefyd yn cefnogi CAIS, elusen arall yng ngogledd Cymru, sydd â chynlluniau i ymestyn menter ‘Soup Dragon’ ar gyfer y digartref y mae’n darparu cymorth ariannol ar ei chyfer.
Dywedodd y Comisiynydd bod y mwyafrif llethol o farwolaethau yn ganlyniad i orddos cyffuriau ac ychwanegodd: “Mae’n gondemniad ofnadwy ar gymdeithas bod cymaint o bobl yn marw’n ddiangen yn Wrecsam ac mae’n dangos yn glir bod angen ffordd newydd o weithredu.
Yn y cyfamser, mae CAIS a’r holl asiantaethau sy’n ymwneud â Phrosiect Atal Digartrefedd Wrecsam yn gwneud gwaith gwych.
Un o’r prif egwyddorion pan sefydlwyd yr heddlu oedd amddiffyn bywyd a dyna rydym yn ei wneud drwy gefnogi’r sefydliad hwn a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol trosedd a’r digartrefedd sydd yn farc du yn erbyn cymdeithas.
Mae pobl digartref yn byw bywydau anhrefnus ac mae llefydd fel Soup Dragon yn rhoi mynediad iddynt at wasanaethau a all eu helpu.
Rydym yn gwybod bod yna gysylltiad cryf rhwng Credyd Cynhwysol a digartrefedd a chyhyd ag y mae hynny’n bodoli yna parhau wnaiff y broblem.
Mae ymhobman ac mae’n warthus bod sefyllfa fel hyn yn bodoli ym mhumed wlad gyfoethocaf y byd oherwydd rydym yn mynd yn ôl i’r 1930au.”
Mae CAIS wedi helpu dros 100 o bobl i osgoi digartrefedd dros y 12 mis diwethaf ac yn yr un cyfnod llwyddwyd i roi llety i 44 arall o bobl fu’n cysgu ar y stryd.
Maent yn bwriadu cynyddu eu gwasanaeth prydau poeth o bum noson yr wythnos drwy agor ar brynhawniau dydd Sadwrn a dydd Sul yn eu swyddfa ar Stryd y Brenin.
Mae Soup Dragon wedi bod yn cynnig bwyd, diodydd a chefnogaeth am 14 mlynedd a dywedodd Steve Campbell, Rheolwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau CAIS: “Yn anffodus, cafwyd cynnydd mawr mewn digartrefedd ar hyd Cymru a’r Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn Wrecsam, rydym wedi gweld gostyngiad yn y rhai sy’n cysgu ar y stryd o 46 y llynedd i tua 30 rŵan – ond mae’r niferoedd wedi bod yn cynyddu dros y tair blynedd diwethaf ac mae’n anodd gwybod pa mor gywir ydi’r ffigyrau oherwydd gallwn ond gyfri’r pobl rydym yn dod o hyd iddyn nhw.
Mae cysgu ar y stryd wedi dyblu dros y tair blynedd diwethaf – ond erbyn hyn mae wedi gostwng oddeutu 35 y cant o’i gymharu â’r llynedd. Rydym wedi gwneud ymdrech fawr i geisio dod â’r niferoedd yna i lawr, ac yn 2018 rydym wedi helpu 44 o unigolion i symud i gartrefi newydd.
Prif achosion y cynnydd hwn mewn digartrefedd yw’r diwygiadau lles yn ogystal â diffyg tai fforddiadwy yn enwedig i bobl 25 i 34 oed, sy’n dod mewn cyfnod o lymder a phroblemau ehangach mewn cymdeithas.
Dywedir yn aml bod digartrefedd yn gallu digwydd i unrhyw un, am sawl reswm, a dylem gofio nad ydi pob person digartref yn defnyddio cyffuriau neu alcohol. Ond yr hiraf y mae person yn ddigartref, yr uchaf yw’r tebygolrwydd o broblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, a phroblemau iechyd corfforol eraill.
Pan fo pobl yn dechrau cymryd cyffuriau, gall helpu i liniaru unrhyw boen, dioddefaint ac ofn. Ond mae’r cyffuriau yna’n troi i fod yn brif broblem ac yn creu anawsterau mawr eu hunain.
Mae model Wrecsam wedi bod yn llwyddianus oherwydd rydym wedi gallu gweithio gyda chydweithwyr mewn asiantaethau partner a grwpiau gwirfoddol eraill.
Ar y funud rydym yn gweld mwy o bobl ifanc yn ffeindio eu hunain mewn sefyllfa anodd fel hyn.
Maen nhw’n troi at gyffuriau caled yn gynt a dyna lle rydym yn canolbwyntio llawer o’n sylw.”
Mae Mr Jones yn rhagweld y bydd rhan o raglen Checkpoint yn cael ei threialu mewn ardal benodol yng ngogledd Cymru yn fuan eleni, gyda’r nod o’i gyflwyno ar draws y rhanbarth dros y 12 mis nesaf.
Bydd pob troseddwr dan oruchwyliaeth ‘llywiwr’ medrus – llawer ohonynt wedi cwblhau rhaglenni adsefydlu yn llwyddianus – y cyfnod pedwar mis ac maent yn wynebu cael eu herlyn os caiff y cytundeb ei dorri.
Cynigir gyfle i’r cyfranogwyr osgoi gael eu herlyn drwy geisio cymorth gan wasanaethau adsefydlu yn y gymuned ar ôl arwyddo cytundeb i ddweud y byddant yn cydymffurfio.
Mae cynllun tebyg wedi bod yn llwyddiant mawr yn Durham, sydd wedi arwain at leihau cyfraddau aildroseddu o 19 y cant i bedwar y cant.
Dywedodd Mr Jones: “Wrth gyfeirio troseddwyr yng ngogledd Cymru at wasanaethau addas, gallwn leihau troseddau, gostwng y galwadau ar yr heddlu ac amser llys a gobeithio arbed bywydau.”
Mae llawer o’r gwasanaethau hyn eisoes yn cael eu cyfeirio gan ‘Soup Dragon’, yn cynnwys cymorthfeydd rheolaidd ar foreau Gwener sy’n cael eu cynnal gan Dr Karen Sankey, meddyg teulu yn Wrecsam ers 24 mlynedd, a ffurfiodd ei grŵp menter gymdeithasol ei hun er mwyn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ddigartref.
Mae’r cymorthfeydd yn cael eu cynnal ar foreau Gwener yng Nghanolfan Gofal Cymunedol Wrecsam, wedi’i lleoli yng Nghanolfan Byddin yr Iachadwriaeth, ac mae’n dod â nifer o wasanaethau ynghyd, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu a deintyddol, iechyd meddwl, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, a gwasanaethau tai a digartrefedd, i gyd o dan yr un to.
Dywedodd Dr Sankey: “Rwyf wedi bod â diddordeb mewn sut y gallwn ymgysylltu â phobl fregus dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf oherwydd yn aml maen nhw’n colli allan ar ofal.
Hoffwn greu model o arfer cyffredinol er mwyn cyfarfod ag anghenion cymdeithasol a seicolegol y grŵp hwn, ac nid dim ond eu hanghenion corfforol.
Mae iechyd cyffredinol y bobl ar y strydoedd yn echrydus ac os oes angen cymorth arnynt, yna fe allwn ei ddarparu.
Rydym yn gweld nifer o broblemau iechyd meddwl ond mae hyd yn oed problemau iechyd corfforol fel clefyd siwgr a symtomau o ddiffyg maeth yn ogystal â phroblemau efo’u traed neu glwyfau sydd angen gofalu amdanynt.”