Dyddiad
Mae pobl yng ngogledd Cymru yn cael cyfle i holi Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a phrif gwnstabl y rhanbarth.
Bydd y Comisiynydd Andy Dunbobbin a’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar-lein ar Twitter rhwng 6pm a 7pm ddydd Mercher nesaf (Awst 4).
Gwahoddir y cyhoedd i ofyn eu cwestiynau a chodi unrhyw bryderon gyda'r ddau a fydd gyda'i gilydd ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar gyfrif Twitter y Comisiynydd, @NorthWalesPCC a dylai pobl sy'n cyflwyno cwestiynau eu rhagflaenu gyda’r hashnod #HGCarolwgheddlu
Gellir anfon cwestiynau yn Gymraeg neu’n Saesneg ac ymatebir iddynt yn unol â hynny.
Mae'r Holi ac Ateb yn rhan o raglen ymgynghori gyhoeddus fawr wrth i Mr Dunbobbin baratoi i ysgrifennu ei Gynllun Heddlu a Throsedd cyntaf ar ôl cael ei ethol ym mis Mai.
Bydd y cynllun yn pennu cyfeiriad ar gyfer plismona Gogledd Cymru dros y flwyddyn i ddod a gosod allan y prif flaenoriaethau.
Mae Mr Dunbobbin a'r prif gwnstabl hefyd wedi lansio arolwg ar-lein i fesur barn y cyhoedd cyn llunio'r strategaeth newydd.
Mae'r arolwg yn ymdrin â phob agwedd ar blismona, o fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol ac amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cam-fanteisio a cham-drin rhywiol, i ddelio â’r rhai sy’n ‘trolio’ ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymateb i alwadau nad ydynt yn rhai brys.
Mae'r arolwg bellach ar gael yn https://www.surveymonkey.co.uk/r/SMDKY8R ac mae gan bobl tan ddydd Gwener, Awst 20 i’w gwblhau.
Bydd copïau papur ar gael i'r rheini nad ydynt am gwblhau'r fersiwn ar-lein. Bydd fersiwn hawdd ei darllen ar gael hefyd.
Mae ar ffurf cwestiynau amlddewis gyda chyfranogwyr yn nodi ar raddfa o un i bump pa mor bwysig y maent yn ystyried agweddau gwahanol ar blismona.
Y nod yw cyhoeddi'r cynllun ym mis Medi.
Dywedodd Mr Dunbobbin: "Mae gogledd Cymru bob amser wedi bod yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef yn y DU. Fy mhrif flaenoriaeth yw sicrhau ei fod yn aros felly.
“Mae gen i gyfrifoldeb i ymgynghori â’r cyhoedd ar flaenoriaethau plismona ac wrth lunio’r Cynllun Heddlu a Throsedd newydd rwyf eisiau sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn cael cyfle i gyfrannu i’r broses. Rwyf am gael clywed gan bob rhan o'n cymunedau amrywiol rhyfeddol, yn enwedig gan bobl ifanc.
“Bydd y sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Prif Gwnstabl yn rhoi llwybr arall inni ddarganfod beth mae pobl y Gogledd yn ei feddwl ynglŷn â sut y dylid plismona’r rhanbarth.
“Bydd yn rhoi mynediad uniongyrchol i’r cyhoedd atom fel y gallan nhw ofyn eu cwestiynau a chodi eu pryderon.
“Mae hynny'n bwysig oherwydd rwyf eisiau sicrhau bod barn, anghenion a disgwyliadau pob rhan o'n cymunedau yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun.
“Fy ngwaith i yw sicrhau bod rhanbarth gogledd Cymru yn cael ei phlismona yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol ac rwy'n atebol i’r bobl sy'n byw yma felly mae'n hynod bwysig fy mod i'n gwybod beth yw eu barn am blismona.
“Bydd y Cynllun Heddlu a Throsedd wedi’i ddiweddaru yn nodi mewn Saesneg a Chymraeg syml lefel y gwasanaeth y gall pobl ddisgwyl ei gael gan eu heddlu lleol.
“Yn y bôn, byddaf yn ymgynghori â’r cyhoedd ar y polisïau oedd yn fy maniffesto pan gefais fy ethol.
“Roedd hyrwyddo hawliau a buddiannau dioddefwyr yn ganolog i fy maniffesto a bydd hynny hefyd wrth wraidd y Cynllun Heddlu a Throsedd.
“Ar ôl ei gwblhau, byddaf yn craffu ar yr heddlu i sicrhau bod blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throsedd newydd yn cael eu cyflawni a byddaf yn gwneud hynny mewn ffordd drylwyr iawn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Foulkes: “Fel y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn clywed ystod eang o safbwyntiau gan bobl gogledd Cymru.
“Mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â phryderon cymunedau lleol i ddylanwadu ar gynnwys a blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd fel y gallan nhw chwarae rhan wrth lunio gwasanaethau yn y dyfodol a dyrannu adnoddau.
“Rydym yn edrych ymlaen at gymryd cwestiynau gan gymaint o bobl â phosibl yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb ar Twitter gan ei fod yn gyfle gwerthfawr i gyfathrebu’n uniongyrchol ag aelodau’r cyhoedd yng ngogledd Cymru.
“Gall pobl hefyd ddweud wrthym beth yw eu barn trwy'r arolwg nad yw'n cymryd llawer o amser i'w gwblhau.
“Ond mi fydd, fodd bynnag, yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth ein helpu i ddeall yr hyn y mae pobl yn meddwl sy'n bwysig.”
Mae copïau papur o’r arolwg ar gael drwy gysylltu âopcc@nthwales.pnn.police.uk neu 01492 805486. Mae fersiwn hawdd ei darllen o’r arolwg hefyd ar gael.