Skip to main content

Cyhoeddi dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau Cronfa Bêl Droed yr Haf

Dyddiad

Oherwydd galw eithriadol, ac er mwyn sicrhau fod cymaint o dimau pêl droed â phosib yn gallu defnyddio'r cyllid, mae dyddiad cau ymgeisio ar gyfer Cronfa Bêl Droed yr Haf y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sef Andy Dunbobbin yn symud i 4 Awst. Mae hyn yn golygu dylai bob tîm sy'n dymuno gwneud cais wneud ar unwaith er mwyn osgoi siom. Lansiwyd Cronfa Bêl Droed yr Haf ar ddydd Llun 17 Gorffennaf mewn partneriaeth  gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru. Ers hyn, mae timau ledled y rhanbarth wedi bod yn anfon eu ceisiadau am y cyllid sydd ar gael ar gyflymder calonogol.

Mae Cronfa Bêl Droed yr Haf wedi'i chreu er mwyn trechu problemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all weld cynnydd dros fisoedd yr haf. Y nod ydy bydd y cyllid yn cyfrannu at weithgareddau pêl droed a chwaraeon er mwyn cadw plant a phobl ifanc yn brysur mewn ffordd gadarnhaol, wrth hefyd hyrwyddo gwaith tîm, ymarfer ac yn awyrgylch hwyliog a chynhwysol i bawb.

Mae'r arian sydd ar gael yn benodol ar gyfer chwaraeon dros yr haf yn agwedd arall o fenter Arloesi i Dyfu'r CHTh. Cafodd y fenter ei lansio llynedd ac mae'n cydnabod a chynorthwyo ariannu mentrau arloesol sy'n ymdrin ag achosion trosedd ledled y rhanbarth. Mae uchafswm o £5,000 o gyllid ar gael i bob clwb pêl droed, ond os ydy'r sesiynau'n cwmpasu dwy sir, mae hyd at £10,000 o gyllid ar gael.  Mewn amgylchiadau penodol, gall cyllid fynd tuag at offer, ynghyd â darparu gweithgareddau, ond rhaid iddo gael ei wario yn ystod yr haf.

Dywedodd Andy Dunbobbin: "Rwyf wrth fy modd gyda'r diddordeb gan glybiau ledled Gogledd Cymru yng Nghronfa Bêl Droed yr Haf. Rwyf yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth mae'n ei wneud wrth gynorthwyo rhoi hwyl a gweithgareddau gwerth chweil i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt dros yr haf. Oherwydd y galw am Gronfa Bêl Droed yr Haf, rydym wedi dod â dyddiad cau derbyn ceisiadau ymlaen er mwyn galluogi fod cymaint o glybiau â phosibl yn elwa o'r cyllid cyn diwedd yr haf. Buaswn yn annog unrhyw dîm sydd â diddordeb i ymgeisio rŵan!"

Mae ceisiadau ar agor. Mae clybiau a sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb yng Nghronfa Bêl Droed yr Haf yn gallu gwybod sut i ymgeisio yma: Arloesi i Dyfu | Office of the Police and Crime Commissioner North Wales (northwales-pcc.gov.uk)