Dyddiad
Cyhoeddwyd enillwyr cronfa £120,000 arbennig er mwyn cynorthwyo cymunedau ledled Gogledd Cymru mewn seremoni arbennig yn y White House, Rhuallt, Sir Ddinbych ddoe (dydd Mercher, 29 Mawrth). Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Wedi llunio rhestr fer, gofynnwyd i gyhoedd Gogledd Cymru bleidleisio am eu hoff brosiectau a cafodd 16,000 o bleidleisiau eu bwrw ar-lein.
Roedd gwobrau eleni hyd yn oed yn fwy arwyddocaol gan fod Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deng mlynedd diwethaf mae cyfanswm o dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throsedd Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Er mwyn nodi'r degfed pen-blwydd, mae'r arian sydd ar gael i'r prosiectau buddugol eleni yn cynyddu i gyfanswm o £120,000, wedi ei rannu ar draws 25 prosiect.
Y grwpiau a phrosiectau llwyddiannus oedd:
Ynys Môn
- Amlwch Showstoppers – Uwchraddio Offer Sain
- GirlGuiding Anglesey – Prosiect Gwella Storio
- Canolfan Gymunedol Llanfaes – Prosiect Maes Chwarae Llanfaes
- Sgowtiaid Ynys Môn – Prosiect Adnoddau Storio Canolog
Conwy
- Cyfeillion Queens Park, Llandudno – Prosiect goleuadau nos
- Sgowtiaid Conwy a'r Cyffiniau – Prosiect cynnal a chadw Gwersyll Sgowtiaid Rowen
- Cwmni Theatr Kaleidescope – Prosiect Datblygu Theatr Ieuenctid
- Menter Kind Bay – Prosiect Celf a Lles
Sir Ddinbych
- Blossom and Bloom – Prosiect canolfan lles
- Cyngor Cymuned Efenechtyd – Prosiect datblygu parc a maes chwarae cymunedol
- Prosiect Parciau Llangollen – Prosiect Llwybr Antur Parc Pengwern
- Clwb Seiclo'r Rhyl – Sgiliau Ffyrdd a Diogelwch ar gyfer seiclwyr ifanc
Sir y Fflint
- Cobra Life – Prosiect Cobra Bully Buster
- Aura Wales Leisure – Prosiect Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid ASB
- Cyngor Tref Treffynnon – Prosiect Ymgysylltu Ieuenctid
- Grŵp Sgowtiaid 1af Saltney Ferry – Offer gwersylla
Gwynedd
- Byw’n Iach – Prosiect Mentro Allan
- Hamdden Harlech ac Ardudwy – Prosiect gweithgareddau ieuenctid Harlech ac Ardudwy
- Seren Ffestiniog Cyf – Prosiect Serennu yn y Cylch
Wrecsam
- Cyngor Cymunedol Llansantffraid Glyn Ceiriog – Prosiect Clwb Ieuenctid
- CP Rhostyllen – Prosiect ffensio gwrth-fandaliaeth
- Yellow and Blue Group – Prosiect Our City, Our Tribe
Prosiectau ledled Gogledd Cymru
- Ymateb 4x4 Gogledd Cymru – Prosiect Trelar Cymorth Cymunedol
- Pentre Peryglon – Prosiect Gogledd Cymru diogelach
- Woody’s Lodge – Prosiect cyn-filwyr yn y Gymuned
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru:- "Rwyf yn falch o weld cymaint o enillwyr gwych a haeddiannol yn derbyn cyllid a fydd yn cynorthwyo trawsnewid cymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ymdrech ar y cyd go iawn – o'm swyddfa, yr heddlu a PACT, i gymunedau lleol, y sefydliadau sy'n ymgeisio a'r cyhoedd sy'n pleidleisio amdanynt.
"Mae gan bawb ran yn llwyddiant Eich Cymuned, Eich Dewis. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae wedi dangos y gwahaniaeth gall ei wneud wrth gynnig cyfleoedd newydd i grwpiau cymunedol. Mae'r sefydliadau hyn yn rhoi eu hamser a'u hegni i gynorthwyo eu hardal leol ac mae'r fenter yn ffordd dda i roi'n ôl i'r gymuned a chynorthwyo'r sefydliadau hyn gyflawni eu hamcanion. Maent yn helpu cadw ein cymdogaethau yn ddiogel ac yn ateb blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Mae'r ffaith bod peth o'r arian yn dod oddi o gronfeydd a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr hefyd yn dangos i bobl nad ydy trosedd yn talu, ond mae gweithgarwch cymunedol!"
Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd PACT: "Prosiectau llawr gwlad ydy'r enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a chadarn i fyw. Rydym yn sylweddoli na all grwpiau cymunedol weithredu hefyd gyllid priodol, ac mae hyn yn hynod wir heddiw. Bydd y prosiectau buddugol hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n pentrefi, trefi, dinasoedd a'r rhanbarth i gyd. Mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae 'Eich Cymuned Eich Dewis' yn gynllun gwych sy'n rhoi cyfle i bobl leol ddylanwadu'n uniongyrchol ar sut yr ymdrinnir problemau lleol. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n rhannol drwy gasglu eiddo troseddol o dan y Ddeddf Enillion Trosedd. Mae'n iawn ein bod yn rhoi'r arian yn ôl i fentrau cymunedol sy'n ceisio lleihau trosedd a gwella ansawdd byw yma yng Ngogledd Cymru.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae cymaint o brosiectau haeddiannol iawn wedi blodeuo oherwydd Eich Cymuned, Eich Dewis. Wrth ddathlu eleni, mae'n wych gweld cymaint o brosiectau newydd yn cymryd rhan yn y cynllun. Mae'r bobl hynny wrth galon ein cymunedau yn aml yn y lle gorau i wybod sut i ymdrin â phroblemau lleol. Nid oes gen i amheuaeth o gwbl y bydd enillwyr eleni yn gwneud gwahaniaeth mawr yn eu meysydd priodol." Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk