Skip to main content

Cyhoeddi enillwyr cronfa £50k ar gyfer prosiectau cymunedol Gogledd Cymru

Dyddiad

Your Community Your Choice

Cyhoeddwyd enillwyr cronfa £50,000 arbennig er mwyn helpu cymunedau ar draws Gogledd Cymru mewn digwyddiad ym Mae Colwyn ar 23 Chwefror. Mae'r fenter, sef Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad yn y rhanbarth ac mae'n cael help Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a Heddlu Gogledd Cymru. 

Dros yr un mlynedd ar ddeg ers dechrau Eich Cymuned, Eich Dewis, mae BRON £600,000 wedi cael ei roi i dros 200 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu broydd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Police and Crime Plan. Mae'r cyllid ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau, hefo'r gweddill yn dod gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Mae'r grwpiau a'r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

Ynys Môn

  • Sgowtiaid 1af Llanfairpwll – Cyfleusterau ac offer ar gyfer Maes Gwersylla Sgowtiaid Talwrn

Gwynedd

  • Seintiau Bangor – Prosiect 'Lights on for Footie'
  • Clwb Criced a Bowlio Bethesda – Prosiect er mwyn creu lle croesawus ac addas i deuluoedd awyr agored yng Nghlwb Criced a Bowlio Bethesda
  • Cymdeithas Gymunedol y Bala a Phenllyn – cyllid ar gyfer 'Connecting our Next Generation'
  • Porthi Dre Caernarfon – Cyllid ar gyfer clwb ieuenctid Clwb Pobl Ifanc Porthi Dre
  • Band Arian Llanrug – Prosiect offerynnau i ddechreuwyr 

Conwy

  • Youth Shedz – Hyb Mochdre
  • Cwmni Theatr Kaleidoscope – Cyllid er mwyn helpu'r Sioe Flynyddol

Sir Ddinbych

  • Forget-me-not Chorus, Bodelwyddan
  • CPD Chwaraeon Prestatyn – Prosiect pyst gôl newydd

Sir y Fflint

  • Clwb Bocsio Aura Wales Shotton – Clwb Bocsio Shotton a Hybiau Cymunedol
  • The Rockworks Academy – Prosiect 'Breaking Barriers'
  • Clwb Criced Bwcle – Creu amgylchfyd ysgafnach, goleuach a saffach i bawb yng Nghlwb Criced Bwcle.

Wrecsam

  • Lles Cymunedol Wrecsam – prosiect lles cymunedol
  • Cerddwyr Nordig Erddig – Dyddiau cwrdd i ffwrdd, digwyddiadau a phrosiect gweithgareddau
  • Garddwyr Cymunedol Wrecsam – Menter argraffiadau cyntaf

Prosiectau ledled Gogledd Cymru

  • Pentre Peryglon – Prosiect Gogledd Cymru diogelach
  • Only Boys Aloud – Côr Only Boys Aloud Gogledd Cymru
  • Clwb Chwaraeon Cadeiriau Olwyn Rhyl Raptors – Prosiect cyfleusterau storio ychwanegol

Roedd enillwyr y prosiectau ledled Gogledd Cymru a dderbyniodd gyllid wedi gwirioni hefo'u llwyddiant fel rhan o'r cynllun.

Dywedodd Cat Harvey-Aldcroft, Dirprwy Reolwr, Pentre Peryglon, Talacre: "Mae Pentre Peryglon yn ddiolchgar am y cyllid a'r help gan Eich Cymuned, Eich Dewis. 'Da ni’n credu fod gwaith partneriaeth fel hyn yn hanfodol wrth gynnal y negeseuon diogelwch o safon uchel 'da ni'n eu cyflwyno yn y ganolfan. Bydd y cyllid sy’n cael ei dderbyn yn ein galluogi ni gyfyngu ar y rhwystrau i'n defnyddwyr gwasanaeth sy'n ymweld o ledled Gogledd Cymru." 

Roedd Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr Aloud Cymru, yn cytuno, gan ddweud: "Mae Elusen Aloud yn falch o fod wedi derbyn cyllid gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Bydd y pres yma’n ein helpu ni roi cyfleoedd canu wythnosol i fechgyn o oed ysgol uwchradd ar draws Gogledd Cymru.  Wrth wneud hyn, byddwn ni'n cynnig mannau saff i bobl ifanc ymgysylltu ynghyd â rhoi modelau rôl cadarnhaol iddyn nhw. Byddwn ni'n eu helpu nhw ymgysylltu mwy yn eu cymuned leol, gan feithrin hyder, a gwella eu hiechyd meddwl."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch o weld ehangder ac amrywiaeth sefydliadau yng nghronfa Eich Cymuned, Eich Dewis eleni. Mae Gogledd Cymru i gyd yn cael ei gynrychioli, o Fôn i Wrecsam. Mae sefydliadau'n cynnwys rhai sy'n gweithio hefo pobl ifanc, pobl hŷn, ynghyd â chwaraeon, y celfyddydau a grwpiau iechyd a lles.

"Mae helpu cymunedau'n rhan allweddol o'm cynllun i o ran plismona a thaclo trosedd yn y rhanbarth. Mae ein cymunedau ni yng Ngogledd Cymru yn fannau cadarn a gofalgar. Mae sefydliadau fel y rhai hynny sydd wedi derbyn cyllid yn asgwrn cefn o'r cymdogaethau hyn. Maen nhw'n cyfrannu ac yn derbyn yr her o helpu eu cymunedau dydd ar ôl dydd. Ni allaf ddiolch digon am eu gwaith nhw."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae Eich Cymuned, Eich Dewis ynghylch helpu cymunedau a grymuso sefydliadau ac unigolion er mwyn gwneud gwahaniaeth i drigolion. 'Da ni gyd yn gyfoethocach oherwydd eu gwaith nhw. Mae'r cyllid ar gyfer y fenter yn fwy arbennig oherwydd ei fod yn dod yn rhannol o bres a gafodd ei atafaelu oddi ar droseddwyr, sy'n golygu ei fod yn cael ei dalu'n ôl i'r bobl. 

"Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu helpu cymaint o brosiectau gwerth chweil eleni. Dwi'n gobeithio fod y cyllid sydd wedi cael ei roi yn parhau i wneud gwahaniaeth am amser hir i ddod."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Ar ran Heddlu Gogledd Cymru, dwi'n falch o weld menter Eich Cymuned, Eich Dewis yn gwobrwyo mwy o brosiectau gwerth chweil ar draws y rhanbarth. Mae llawer o'r prosiectau hyn yn ymgymryd â gwaith allgymorth gwerthfawr yn eu cymunedau nhw. Maen nhw hefyd yn helpu lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch negyddol eraill drwy ddarparu gweithgareddau tynnu sylw ac ymyriadau i bobl ifanc ac oedolion. Dwi'n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw yn eu gwaith nhw."

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk