Dyddiad
Ar 30 Hydref aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Andy Dunbobbin i ymweld â darparwyr hamdden a chwaraeon Gwynedd sef Byw'n Iach yng Nghanolfan Byw'n Iach, Plas Ffrancon ym Methesda er mwyn dysgu sut mae arian o'r Gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo mentrau ar gyfer pobl yr ardal.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd Comisiynydd yr Heddlu. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru (HGC). Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Yn dilyn adborth gan y gymuned mi wnaeth Byw'n Iach ddarganfod bod adnoddau chwaraeon yn cael eu hystyried yn ddrud ac yn anodd eu cyrraedd, gan arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc a diffyg ymarfer corff ymysg teuluoedd ifanc.
Er mwyn mynd i'r afael â'r mater, mi wnaeth y sefydliad wneud cais i gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis er mwyn dechrau prosiect i agor adnoddau chwaraeon ar draws 11 canolfan yng Ngwynedd yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd Byw'n Iach yn llwyddiannus yn eu cais ac ers hynny maent wedi defnyddio'r arian i gyflogi staff ychwanegol i fonitro'r adnoddau a phrynu offer chwaraeon newydd. Mae adnoddau yn cynnwys caeau chwarae 3G, cyrtiau pêl fasged, cyrtiau tenis a meysydd chwarae eraill. Cafodd y swm ei gyfateb gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd; sy'n darparu staff i redeg sesiynau yn yr adnoddau hyn. Hyd yn hyn yn 2023 mae dros 5,000 o bobl wedi bachu ar y cyfle i ddefnyddio'r adnoddau ar draws yr ardal.
Cyfarfu Mr Dunbobbin ag Amanda Davies, Prif Weithredwr Byw'n Iach ynghyd â Ffion Williams, Swyddog Chwaraeon Cymunedol ar ddiwrnod cyntaf gwyliau hanner tymor yr Hydref am daith o gwmpas Canolfan Hamdden Bethesda. Eglurodd Amanda sut mae'r prosiect yn gweithio a sut mae wedi bod yn llwyddiant o fewn y gymuned a gyda'r staff, yn rhoi ffordd i bobl gadw'n heini.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser ymweld â Bethesda a chwrdd â'r tîm y tu ôl i Byw'n Iach a gweld sut mae eu prosiect yn helpu pobl i gadw'n heini ac yn weithgar.
“Dw i'n parchu'r ffordd y mae Byw'n Iach wedi gwrando ac ymateb i lais y gymuned. Yn ystod gwyliau'r ysgol gall plant a phobl ifanc weld hi'n anodd difyrru eu hunain ac mae prosiect Byw'n Iach yn rhoi gweithgareddau gwerth chweil iddynt ac yn cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd o roi blaenoriaeth i gymunedau.
"Yn dilyn fy llwyddiant gyda Chronfa Bêl-Droed yr Haf yn gynharach eleni, dw i wedi clywed sut mae cynnig diddordebau gwerth chweil i bobl ifanc yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol."
Dywedodd Alun Jones, Rheolwr Uned Partneriaethau Byw’n Iach:
"Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a wnaeth bleidleisio dros ein prosiect, mae hyn yn golygu y gallwn agor ein hadnoddau awyr agored i bawb dros y gwyliau. Bydd y cynnig hwn ar gael ar draws ein canolfannau hamdden i gyd a gobeithio y bydd hyn yn ehangu'r cyfle i ymgysylltu mewn chwaraeon a ffitrwydd a fydd wedyn yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n deillio o ddim digon i wneud.
"Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae pethau yn anodd iawn i deuluoedd ar y funud, felly mae gallu cynnig adnoddau am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod y gwyliau i'w groesawu. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd ar y cynllun a hefyd gweithio ar y cyd gyda heddlu cymunedol ar nifer o brosiectau yn ystod y gwyliau."
Dywedodd Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o weld llwyddiant y prosiect hwn sy'n dangos ymrwymiad Byw'n Iach i feithrin amgylchedd sy'n cadw ein pobl rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r fenter yn enghraifft wych o sut mae cydweithio rhwng sefydliadau cymunedol a'r heddlu yn gallu cael effaith bositif ar ein cymdeithas."
Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Mae ymrwymiad Byw'n Iach i wella lles ein cymuned i'w gymeradwyo a dw i'n falch ein bod ni wedi gallu helpu i ehangu eu gwaith. Mae eu hymrwymiad i greu newid positif gan wneud Gwynedd yn le mwy iach a diogel i deuluoedd a phobl ifanc yn ysbrydoledig a dw i'n dymuno'r gorau iddynt yn y dyfodol."
Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk Am fwy o wybodaeth am Byw'n Iach, ewch i: https://www.bywniach.cymru/en