Skip to main content

Cymorthfeydd

Bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymorthfeydd misol i drigolion fel rhan o’i genhadaeth i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. Bydd y fenter yn galluogi pobl leol i drafod plismona yn eu cymunedau ac i godi gofidion a sylwadau sydd ganddynt gyda'r Comisiynydd a swyddogion heddlu lleol.

Bydd cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal mewn trefi a phentrefi, mewn ardaloedd gwledig a rhai trefol ar draws y chwe sir Gogledd Cymru.

Cyfarfod cymhorthfa nesaf:

Caergybi

Gorffennaf 24 | 2-4pm

Llyfrgell Caergybi, Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH

Bydd manylion cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Mae'r comisiynydd yn hapus i siarad am faterion sy'n effeithio trigolion yn eu cymunedau lleol. Bydd pawb sy'n bresennol yn cael 15 munud i siarad â'r Comisiynydd. Bydd yntau yno yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa ac o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi'r cymorth mwyaf posib i'r cyhoedd. ⁠Bydd y sgyrsiau yn aros yn gyfrinachol a bydd y Comisiynydd a'i staff yn gallu cynnig awgrymiadau eraill os oes modd i asiantaethau a sefydliadau eraill ddelio â’r problemau yn well.

Sut mae'r cymorthfeydd yn gweithio

Bydd y cymorthfeydd CHTh yn cael eu cynnal yn fisol mewn nifer o leoliadau hygyrch ar draws Gogledd Cymru.

Bydd y CHTh yng nghwmni staff o'i dîm a bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu hwyluso'r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.

Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, ac i sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.

Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol mae'n croesawu adborth pobl ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.

Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.

Sut i archebu lle

Os hoffech archebu lle am 15 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth gyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:

E-bost: opcc@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486
Cyfeiriad: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu. Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW

Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill.