Skip to main content

Cyn-filwr a phennaeth heddlu yn canmol menter gymdeithasol "wych"

Dyddiad

Cyn-filwr a phennaeth heddlu yn canmol menter gymdeithasol "wych"

Mae cyn-filwr sydd wedi cael trafferth gyda dibyniaeth ar gyffuriau a PTSD yn cael ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn diolch i fenter gymdeithasol sy'n helpu pobl agored i niwed.

Dywed Danny Chard, 33 oed, fod ei fywyd wedi mynd allan o reolaeth ar ôl gadael y fyddin pan ddiweddodd yn cysgu allan ar strydoedd Wrecsam, yn mynd i drafferth gyda'r gyfraith a mynd yn gaeth i gocên.

Ond mae wedi dod o hyd i bwrpas newydd mewn bywyd diolch i’r gefnogaeth a gafodd gan Melyn a Glas ac mae bellach yn gwirfoddoli yn eu hyb cymunedol yn Stryd Henblas yng nghanol y dref.

Adroddodd Danny ei stori yn ystod ymweliad gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin sy'n gefnogwr mawr o'r sefydliad.

Sefydlwyd Melyn a Glas (Yellow and Blue) gan y contractwr plymio a gwresogi lleol Pete Humphreys yn dilyn marwolaeth ei dad, a oedd hefyd yn cael ei alw’n Pete, a ffrind agos arall - yr oedd y ddau ohonynt yn dioddef o ganser y coluddyn.

Mae’n ymroddedig i helpu pobl agored i niwed ac unrhyw un sy’n wynebu caledi tymor byr neu hirdymor, salwch, anabledd neu sy’n cael trafferth yn gorfforol ac yn feddyliol.

Cynyddodd y galw am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig ac ymhlith pethau eraill mi wnaethon nhw ddarparu 21,000 o brydau am ddim mewn blwyddyn yn ystod y cyfnod clo.

Yn ôl Danny, sydd bellach mewn llety dros dro gyda’i bartner, bydd yn ddiolchgar am byth i Melyn a Glas am wneud gwahaniaeth enfawr i’w fywyd.

Dywedodd: “Ar ôl i mi ddod nôl i Wrecsam roeddwn yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl ond yn anffodus, mi wnes i droi at gyffuriau, canabis a chocên.

“Am y 15 mlynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn brwydro yn erbyn bod yn gaeth i gyffuriau, i mewn ac allan o’r carchar a phethau felly.

“Rwy’n lân o gocên ar y funud ond fyddwn i ddim yn dweud fy mod i’n sefydlog. Rydw i ar y cam maen nhw’n ei alw’n ‘white knuckling’ ond mae’r gefnogaeth rydw i’n ei chael yma yn help enfawr.

“Mi ddes i Melyn a Glas ar ddechrau mis Tachwedd oherwydd roeddwn i a fy mhartner yn ddigartref ar y stryd, dim ond yn gofyn am help oherwydd roedden ni wedi bod ym mhobman arall ac roedden ni’n dal i fynd o biler i bost.

“Y peth cyntaf wnaeth Pete oedd rhoi diod boeth i ni, rhoi pryd o fwyd i ni a gofyn i ni a oedd angen unrhyw ddillad arnom. Roedd yn ein trin â pharch. Wnaeth o ddim edrych i lawr arnom ni. Mi ges i sgwrs efo fo ac rydym wedi mynd ymlaen o’r fan honno.

“Rwy’n gwybod beth yw ei nod a beth yw ei weledigaeth ac rwy’n hoffi ble mae’n mynd. Rwy’n hoffi’r hyn y mae’n ei wneud efo’r gymuned leol ac anghenion uniongyrchol y gymuned, felly mi wnes i ddechrau gwirfoddoli.”

“Y peth pwysicaf yw’r parch rydyn ni’n ei gael yma. Rydyn ni i gyd yn ddynol.”

Roedd y Comisiynydd Dunbobbin yn ddiolchgar i Danny am rannu ei brofiadau a oedd yn dangos yr “effaith drawsnewidiol” yr oedd Melyn a Glas yn ei chael ar fywydau’r bobl sydd wedi troi atynt yn awr eu hangen.

Meddai: “Mae Melyn a Glas yn fenter gymdeithasol wych ac mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yma yn rhyfeddol.

“Maen nhw'n cefnogi pob math o bobl o gefndiroedd amrywiol, does dim ots pwy, a allai fel arall ddisgyn trwy'r craciau yn y system.

“Mae llawer iawn o gefnogaeth gan gymheiriaid ar gael yma ac mae pobl yn cael eu cyfeirio at y lleoedd iawn i gael cartref neu os ydyn nhw eisiau swydd neu help o unrhyw fath arall.

“Mae’r cyfan wedi’i ysgogi gan weledigaeth un dyn, Pete Humphreys, ac mae’n deyrnged wych i’w dad a’i ffrind wnaeth ei ysbrydoli. Rwy’n siŵr eu bod yn edrych i lawr arno gyda balchder mawr.

“Mae’r hyn maen nhw’n ei gyflawni yn Melyn a Glas hefyd yn glod mawr i’r busnesau lleol sy’n eu cefnogi.

Mae hwn yn fodel y gellid ei ailadrodd yn unrhyw le a byddai’n wych pe bai rhywbeth tebyg yn cael ei sefydlu mewn trefi eraill ar draws y Gogledd.”

Sefydlodd Pete Melyn a Glas ar ôl goresgyn problemau iechyd meddwl yn dilyn marwolaeth ei dad a'i ffrind agos

Meddai: “Roeddwn i fyny ar bont y Waun ac yn barod i neidio. Roeddwn i'n teimlo fel cyflawni hunanladdiad oherwydd roeddwn i wedi cael digon o fywyd er fy mod i bob amser wedi cael fy musnes fy hun ac mae gen i radd meistr.

“Daeth mam i fy nôl o’r bont a mynd â fi adref a mynd â fi i’r ysbyty. Yr unig reswm na ches i fy rhoi ar ‘section’ yn y diwedd oedd iddi ddweud y byddai’n gofalu amdana’ i.

“Pan ddechreuais i fynd trwy’r holl brosesau triniaeth ac ymuno â’r grwpiau hyn, dechreuais gyfarfod efo’r hogiau eraill yma nad oedd ganddyn nhw fam.

“Dyna pam rydw i’n cefnogi pawb ag iechyd meddwl yma. Rwy’n cymryd pobl o adferiad, a rhoi cyfleoedd, swyddi a phethau felly iddyn nhw.

“Rwy’n dal i wneud gwaith plymwr yn achlysurol ond mae Melyn a Glas yn cymryd fy holl amser.

“Cawsom £10,000 gan y Loteri Genedlaethol ar y dechrau ond rydym yn cael trafferth dod o hyd i arian ac rydym yn cario ymlaen o ddydd i ddydd.

“Rydym wir angen yr holl help y gallwn ei gael. Mae angen cyllido aml-flwyddyn rŵan ar gyfer cynaliadwyedd fel nad oes rhaid i mi boeni am rent y mis nesaf a phethau felly.”