Dyddiad
Mae prynu meddyginiaethau a chynhyrchion cysylltiedig ar-lein yn hynod boblogaidd. P'un ai ar gyfer cyffuriau ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, meddyginiaethau 'dros y cownter' neu eitemau fel help hefo colli pwysau a chynnyrch gofal croen, mae prynu dros y rhyngrwyd yn cynnig cyfleustra a dewis enfawr.
Wrth lansio ymgyrch newydd ar gyfer mis Mehefin mewn cydweithrediad hefo Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru, rhybuddiodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online: "Mae llawer o wefannau sy'n gwerthu cynnyrch o'r fath yn berffaith gyfreithlon. Ond fe ddylech chi bob amser fod yn ofalus wneud yn siŵr fod hyn yn wir am y rhai 'da chi'n eu defnyddio. Mi ddylech chi hefyd fod yn wyliadwrus fod yr hyn 'da chi'n ei brynu nid yn unig yn addas ar gyfer eich anghenion, ond yn saff i'w ddefnyddio hefyd."
Mae Get Safe Online yn brif ffynhonnell gwybodaeth deg, ffeithiol a hygyrch ar ddiogelwch ar-lein yn y DU. Mae'n wasanaeth wedi'i gomisiynu gan SCHTh a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol hefo pobl yr ardal.
Ychwanegodd Tony Neate: "Os dydach chi ddim yn cymryd y rhagofalon yma, mae yna lawer o risgiau posib. O ddefnyddio meddyginiaethau sy'n anghydnaws hefo'r rhai 'da chi eisoes yn eu cymryd, i gynnyrch ffug sydd heb gynhwysion gweithredol neu, yn waeth byth, sydd hefo cynhwysion niweidiol a allai arwain at salwch neu hyd yn oed farwolaeth. Mae hyn ar ben mynd ar wefannau a allai glonio'ch cerdyn talu, camddefnyddio eich gwybodaeth bersonol chi, neu heintio eich teclyn chi hefo maleiswedd. Mae ein hymgyrch ni sy'n cael ei lansio heddiw yn ceisio rhoi cyngor i drigolion Gogledd Cymru, ar sut i brynu meddyginiaethau'n saff ar-lein."
Dywedodd DC Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Rhag Cam-drin Ariannol yn Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: "Buaswn i'n annog preswylwyr fod yn ofalus ynghylch defnyddio meddyginiaethau sy'n cael eu prynu ar-lein. Nid yn unig nad oes gan y mathau hyn o nwyddau unrhyw fuddion iechyd, ond maen nhw hefyd yn aml yn cael eu gwneud mewn amodau aflan ac maen nhw'n defnyddio cynhwysion a all fod yn niweidiol i'ch iechyd chi.
"Yn ogystal, 'da ni'n aml yn canfod unwaith y byddwch chi wedi prynu gan gwmni di-enw, bydd eich manylion chi'n cael eu hychwanegu at restrau postio amrywiol sy'n cynnig pob math o nwyddau iechyd ffug. Mewn rhai achosion, mae dioddefwyr hefyd wedi cofrestru i danysgrifiad misol yn anfwriadol sydd ddim i'w weld yn glir ar adeg eu prynu nhw."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dywedir mai eich iechyd ydy'r peth mwyaf gwerthfawr sydd gynnoch chi, ac mae hynny'n wir. 'Da ni gyd eisiau aros mor iach â phosibl. Y ffordd o wneud hyn ydy trwy sicrhau mai dim ond meddyginiaethau a nwyddau parchus 'da chi'n eu prynu dros y rhyngrwyd. Ond hefyd, peidiwch â gadael i bryder am eich iechyd effeithio ar eich cyfoeth chi trwy gael eich twyllo gan sgamiau ariannol a thwyll economaidd gan droseddwyr diegwyddor ar-lein. Buaswn i'n cynghori pawb ddarllen yr awgrymiadau ar osgoi eitemau anaddas. Y ffordd honno, gallwn ni geisio cadw'n iach a gwybod am y sgamiau hyn."
Yr awgrymiadau gorau ar gadw'n saff
Mae cyngor ar brynu meddyginiaethau'n saff ar-lein yn cynnwys:
- Prynu cyffuriau ar bresgripsiwn yn unig o wefannau y gallwch chi gadarnhau eu bod nhw yn y DU ac wedi'u cofrestru gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Dylai gwefan y fferyllfa hefyd gynnwys enw perchennog y busnes; cyfeiriad y fferyllfa lle mae'r busnes yn cael ei gynnal; ac enw'r Fferyllydd Arolygu, lle bo hynny'n berthnasol.
- Dylid ymgynghori bob amser hefo gweithiwr meddygol proffesiynol priodol neu fferyllydd cofrestredig hefo unrhyw gwestiynau sydd gynnoch chi am gyflwr meddygol neu sut i'w drin.
- Peidiwch â chael eich temtio i wneud diagnosis eich hun, hyd yn oed os 'da chi wedi chwilio am gyflwr a'i symptomau ar-lein.
- Ar gyfer cyffuriau dros y cownter, meddyginiaethau eraill, a chynnyrch cysylltiedig, mae'n saffach prynu o wefannau yn y DU sydd hefo cyfeiriad iawn yn unig (y dylech ei wirio ei fod yn ddilys). Cyn gwneud hynny, darllenwch adolygiadau annibynnol. Chwiliwch enw a chyflenwr y cynnyrch ar-lein ynghyd â geiriau allweddol fel 'ffug' a 'pheryglus'. Gallech deipio cyfeiriad y wefan i'n pecyn cymorth rhad ac am ddim ac hawdd ei ddefnyddio ar www.getsafeonline.org/checkawebsite
Yn fwy cyffredinol i aros yn saff wrth brynu ar-lein:
- Peidiwch byth ag ymateb i, na chlicio ar ddolenni neu atodiadau sydd wedi'u cynnwys mewn negeseuon e-bost digymell neu sbam gan gwmnïau dydach chi ddim yn eu hadnabod nhw.
- Cyn nodi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr bod y ddolen yn saff: dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy'n ymddangos pan fyddwch chi'n ceisio mewngofnodi neu gofrestru, a dylai'r cyfeiriad gwe ddechrau hefo 'https://' (mae'r 's' yn sefyll am 'secure'). Mae hyn ond yn dangos bod y cysylltiad rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn saff, ac nid bod y wefan ei hun yn gyfreithlon.
- Gwiriwch ddwywaith holl fanylion eich pryniad cyn cadarnhau'r taliad.
- Cofiwch fod talu hefo cerdyn credyd yn cynnig mwy o ddiogelwch na hefo dulliau eraill o ran twyll, gwarantau a diffyg cyflawni. Gwiriwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, ac nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd oherwydd y trafodiad.
- Sicrhewch fod gennych feddalwedd gwrth-firws / gwrthysbïwedd effeithiol a diweddar a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
Am fwy o gyngor ymarferol am ddim ar gadw'n saff ar-lein yr haf hwn, ewch ar: www.getsafeonline.org
Neu ewch ar wefan Heddlu Gogledd Cymru ar: www.northwales.police.uk/advice/advice-and-information/fa/fraud