Skip to main content

Cynhadledd nodedig yn edrych ar sut i helpu a gwarchod plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

All for one

Ar 9 Tachwedd, gwnaeth dros 100 o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn eu maes ddod at ei gilydd yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno er mwyn trafod sut i helpu plant a phobl ifanc sy'n profi cam-drin domestig, trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern yng Ngogledd Cymru yn well. Trefnwyd y digwyddiad, Pawb yn Un, gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef Andy Dunbobbin. 

Bellach yn ei hail flwyddyn, roedd Pawb yn Un yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Edrychodd ar sut allen nhw gael eu helpu mewn sefyllfaoedd cymhleth, boed fel dioddefwyr eu hunain, neu drwy fyw mewn amgylchfyd lle mae achosion o gam-drin domestig, trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern yn digwydd. 

Roedd y gynulleidfa'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys, cynghorau lleol, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, timau tai ac addysg, elusennau, a gwasanaethau cymorth. Mae bob un yn gallu dod ar draws materion ynghylch cam-drin domestig, trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern yn eu swyddi.

Yn dilyn cyflwyniad gan Stephen Hughes, PSG, Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, siaradodd Dr Sue Hills o Ymddiriedolaeth Alice Ruggles. Cafodd Alice ei llofruddio ym mis Hydref 2016 ar ôl ymgyrch stelcio gan gyn-gariad iddi. Nod yr ymddiriedolaeth yn syml ydy ceisio atal yr hyn ddigwyddodd i Alice rhag digwydd i bobl eraill. Eglurodd Dr Hills ei gwaith a sut allwn ni drio atal yr hyn ddigwyddodd i Alice rhag digwydd eto. 

Prif siaradwr arall yn y digwyddiad oedd Jane Monckton Smith, sy'n awdur, academydd a chyflwynydd o fri. Mae Jane Monckton Smith yn darlithio mewn Gwarchod y Cyhoedd ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw gan arbenigo mewn lladdiadau, rheolaeth orfodol a stelcio. Siaradodd am ei damcaniaeth o wyth cam lladdiad domestig a'r camau sy'n arwain at gyflawni'r pethau ofnadwy hyn. Ei gwaith diweddaraf ydy olrhain y cynnydd o risg mewn hunanladdiadau sy'n gysylltiedig hefo cam-drin domestig, lladd er anrhydedd a fframwaith ar gyfer nodi'r hyn a elwir yn 'lladdiadau cudd'. Rhain ydy marwolaethau sydyn ac annisgwyl sydd efo hanes o gam-drin domestig.

Siaradodd Anthony Kirk, Pennaeth Diogelu Cyd-destunol Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant o Gyngor Cilgwri a Kieron Platt, Caethwasiaeth Fodern a goroeswr camfanteisio plant am Brosiect Aegis. Mae'r fenter hon yn datblygu partneriaethau ar draws ffiniau proffesiynol a daearyddol er mwyn atal Caethwasiaeth Fodern. Yn hwyrach yn y prynhawn, fe wnaeth Cat's Paw Theatre, cwmni theatr lleol o Ogledd Cymru, arwain sesiwn ryngweithiol ar eu ffilm 'One Night' sy'n edrych ar ganiatâd rhywiol a threisio i bobl ifanc. Mae'n canolbwyntio ar ddigwyddiad wedi'i ddramateiddio rhwng dau o bobl ifanc. 

Dywedodd Dr Sue Hills o Ymddiriedolaeth Alice Ruggles: "Mae'r sylw ar blant a phobl ifanc gan Pawb yn Un yn amhrisiadwy a dwi'n eu cefnogi nhw'n llwyr. Mae'n rhy hawdd edrych ar ymatebion pobl ifanc i ofid drwy lygaid oedolion. Fodd bynnag, mae eu profiad nhw'n llawer mwy cymhleth, gan gyfuno eu diffyg gwybodaeth am sut mae perthynas iach hefo pobl eraill yn edrych hefo diffyg dealltwriaeth o ran pryd a lle i geisio help. Mae datblygu ein dealltwriaeth ni yn y maes hwn yn gam hanfodol er mwyn gwella ein hymatebion ni a'n galluogi ni atal y troseddau hyn."

Dywedodd yr Athro Jane Monckton Smith: "Mae cymaint o waith yn cael ei wneud er mwyn atal niwed difrifol drwy gam-drin domestig, ymddygiad rheolaethol a stelcio. Mae'r gynhadledd hon yn ddigwyddiad allweddol er mwyn helpu ysbrydoli gweithwyr proffesiynol a rhannu'r gwaith hwnnw fel y gallwn ni ddysgu gan ein gilydd. Gallwn ni wedyn drawsnewid a gwella'r ffyrdd gallwn ni ddeall ac ymateb i'r pryderon hyn a all ond gwella pethau i ddioddefwyr y troseddau hyn a gobeithio ailadeiladu ac achub bywydau."

Fe ychwanegodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Ein gweledigaeth ni oedd y byddai'r ail gynhadledd hon yn cyfrannu mewn ffordd rymus ac arwyddocaol at amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn cymunedau ledled yr ardal er mwyn helpu plant a phobl ifanc. 'Da ni hefyd yn cydnabod pa mor bwysig ydy fod partneriaid gwahanol yn dod at ei gilydd er mwyn dysgu gan ei gilydd ar sut i herio cam-drin domestig, trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern. 

"Mae digwyddiadau fel Pawb yn Un yn bwysig wrth gyflawni'r canlyniadau cadarnhaol sy'n newid bywyd 'da ni eisiau i bobl ifanc a phlant sy'n cael eu cam-drin, dioddef trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern ar draws Gogledd Cymru. Mae hwn yn nod sy'n gonglfaen fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru.  

Er mwyn gwybod mwy am yr help sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig, trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern, ewch ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd:  www.northwales-pcc.gov.uk/commissioned-services