Skip to main content

Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn derbyn canmoliaeth am flaenoriaethu plant a phobl ifanc

Dyddiad

NYAS REPORT STORY CY

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd fis diwethaf gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol [NYAS], nodwyd Cynllun Heddlu a Throsedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru fel arfer dda mewn nifer o feysydd yn canolbwyntio ar warchod plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

Mae'r Cynllun Heddlu a Throsedd yn canolbwyntio ar y prif feysydd fydd disgwyl i'r Heddlu eu cyflawni. Mae'r rhain yn faterion sydd o bwys i bobl leol ac sydd hefyd yn adlewyrchu gofynion plismona cenedlaethol.

Yn yr adroddiad NYAS, dadansoddwyd 43 o Gynlluniau Heddlu a Throsedd o Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ledled y DU er mwyn nodi meysydd lle'r oedd cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal wedi'u blaenoriaethu yn unol ag argymhellion ymgyrch NYAS.

Cafwyd cyfeiriad adeiladol at Gynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru o fewn yr adroddiad o ran:

  • Crybwyll plant mewn gofal ac ymadawyr gofal yn benodol fel grwpiau blaenoriaeth
  • Ymdrin â'r syniad o 'ddiweddu'r stigma oes o gofnodion troseddol a'r arwyddocâd negyddol gall cofnodion troseddol ei gael ar ddyfodol rhywun ifanc

Rhestrwyd y cynllun hefyd fel 'arfer gorau' o dan thema 'gwarchod' yr NYAS Trafferth gyda'r Gyfraith argymhellion ymgyrch. Roedd hyn yn cynnwys rhan o'r cynllun sy'n blaenoriaethu cynnal cyfweliadau dychwelyd adref annibynnol fel gofyniad statudol mewn achosion lle hysbysir fod plant ar goll.

Dywedodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: "Rwyf yn falch fod ein cynllun i dorri trosedd a gwarchod trigolion ac ymwelwyr i Ogledd Cymru wedi'i gydnabod ar lefel genedlaethol.

"Nodwyd y blaenoriaethau yn fy nghynllun yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Maent yno i wasanaethu pobl ifanc ynghyd ag oedolion, gan fy mod yn sylweddoli y gall gwahanol grwpiau oedran fod ag anghenion a gofynion gwahanol o fewn plismona. 

"Mae gwaith diweddar mewn rhoi arian i grwpiau a gweithgareddau ieuenctid, fel menter Eich Cymuned, Eich Dymuned a'm cynllun Arloesi i Dyfu yn dangos pa mor ddifrifol rwyf yn ystyried pwysigrwydd gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac annog ymddygiad cyfrifol. 

"Hoffwn ddiolch i NYAS ac rwyf yn edrych ymlaen at barhau gydag ymdrechion i gadw plant a phobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol."