Skip to main content

Darganfod sut brofiad yw cael eich cloi mewn cell heddlu

Dyddiad

Custody Visitor-1

Pennaeth heddlu yn chwilio am bobl i wirfoddoli fel ymwelwyr â'r ddalfa

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn chwilio am aelodau’r cyhoedd sy’n barod i dreulio cyfnod yng nghelloedd heddlu – ond nid fel carcharorion.

Mae galw am fwy o wirfoddolwyr annibynnol i weithredu fel ymwelwyr â’r ddalfa er mwyn edrych ar les carcharorion i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn gywir ac yn unol â’r rheolau. 

Lansiodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ymgyrch recriwtio i ddod o hyd i fwy o wirfoddolwyr ar gyfer ystafell y ddalfa yn Llanelwy, sy’n gwasanaethu ardal ganolog y rhanbarth heddlu ac sydd yn cynnwys siroedd Conwy a Dinbych.

Yn ôl Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, mae cyflawni'r swyddogaeth yma’n wasanaeth cyhoeddus pwysig ac mae gwirfoddolwyr sy’n ymgymryd â rôl ymwelwyr annibynnol â’r ddalfa yn bâr arall o lygaid a chlustiau er mwyn sicrhau bod yr heddlu’n delio gyda phobl sydd wedi eu harestio mewn ffordd gywir.

Dywedodd: “Mae gan ymwelwyr â’r ddalfa fynediad at ystafelloedd y ddalfa a gallant siarad efo’r carcharorion, gan gymryd bod y carcharor yn fodlon siarad efo nhw ac yn hapus i wneud hynny.

Mae rôl ymwelwyr â’r ddalfa yn eithaf syml, maen nhw yno i ddarparu sicrwydd i’r cyhoedd bod carcharorion yn cael eu trin yn deg. Mae angen iddyn nhw wirio lles y carcharorion, a’u bod wedi derbyn a deall eu hawliau a chyfleusterau ystafell y ddalfa tra maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.

Rydym angen gwneud yn siŵr nad oes modd beirniadu Heddlu Gogledd Cymru o gwbl pan maen nhw'n delio efo pobl sydd wedi cael eu harestio, boed y person hynny’n ddyn, menyw, person ifanc neu’n oedolyn.

Yn briodol ddigon, mae rheolau llym iawn yn eu lle sy’n rheoli sut y mae’r heddlu’n delio efo pobl sydd wedi cael eu harestio ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan wirfoddolwyr annibynnol fynediad at y carcharorion ar unrhyw adeg er mwyn gwirio eu lles.”

Mae Neil Richmond, cyflenwr partiau ceir clasurol o’r Rhyl, wedi bod yn gwirfoddoli fel ymwelydd annibynnol â’r ddalfa ers tair blynedd a dywed ei bod yn rôl werthfawr ac yn un y mae’n ei mwynhau’n fawr.  

Meddai: “Mae gennym 21 o bobl sy’n gwirfoddoli fel ymwelwyr annibynnol â’r ddalfa ar draws ardal yr heddlu ar hyn o bryd, ond dydi hynny ddim yn ddigon mewn gwirionedd.

Fel arfer, rwy’n ymweld â Llanelwy unwaith bob chwe wythnos ac yna’n cynnal un cyfarfod dilynol rhyw wythnos ar ôl hynny, yn enwedig os wyf wedi codi mater ar ran carcharor.

Rydym yn edrych i weld a yw carcharorion yn cael eu trin yn deg ac yn unol â’r rheolau. Er enghraifft, oes ganddyn nhw ddigon o ddillad gwely, dillad addas a mynediad at fwyd a diod. Rydym hefyd angen sicrhau eu bod nhw wedi cael mynediad at unrhyw feddyginiaeth y bydden nhw efallai angen ei gymryd o ddydd i ddydd.

Drwy weithredu mewn parau, rydym yn ymweld ag ardal y ddalfa yn ddirybudd ac mae’n rhaid iddyn nhw roi mynediad yn syth i ni.

Rydym yn siarad efo’r carcharorion, gyda’r rhingyll neu swyddog y ddalfa yn bresennol, ac yn gwirio safon y celloedd i wneud yn siwr eu bod yn lân a bod popeth yn gweithio.

Pan mae pobl fregus yn cael eu cadw yn y ddalfa, mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni yn ogystal â rhai’r carcharorion eraill.

Nid ydym yn cael gwybod enwau’r bobl sy’n cael eu cadw yn y celloedd na’r rheswm pam eu bod nhw yno, felly mae hynny’n ein galluogi i fod yn wrthrychol.

Fel rheol, rydym yn treulio tua 10 munud gyda phob carcharor gan drafod unrhyw faterion lles sydd ganddyn nhw. Wrth gwrs nid oes rhaid iddyn nhw gytuno i’n gweld, ac weithiau mae’r rhai sydd yn ein gweld ni yn gwneud gofynion afresymol sydd ddim yn realistig.

Ond mae unrhyw fater teilwng y maen nhw’n ei godi efo ni yn cael ei godi gennym ni ar eu rhan wedyn gyda swyddog y ddalfa, gan ofyn iddyn nhw weithredu ar y mater arbennig hwnnw. Fodd bynnag, mae’n bwysig i’r carcharorion wybod a deall ein bod ni’n annibynnol ac nad ydym ni’n gysylltiedig â’r heddlu.

Rydym yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig ar ddiwedd pob ymweliad fydd yn cael ei arwyddo gan ringyll y ddalfa, ac bydd unrhyw fater rydym yn credu sydd angen ei gywiro naill ai’n cael ei weithredu arno’n syth neu’n cael ei godi yn y cyfarfodydd chwarterol gaiff eu cynnal rhwng yr ymwelwyr, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ac uwch swyddogion yr heddlu."

Bu Neil, a symudodd i ogledd Cymru o’i ardal enedigol ym Mirmingham 19 mlynedd yn ôl, yn gweithio fel swyddog y ddalfa gyda G4S yn Llys Ynadon Prestatyn am chwe blynedd.

Dywedodd: “Rhoddodd hynny syniad reit dda i mi o’r ffordd y mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a sut y dylid trin pobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa. Yn bendant, rhoddodd y rôl honno olwg dda i mi o'r gyfundrefn.

Nid dal allan yr heddlu yw ein diben, achos yn y pen draw pe bai pobl ddim yn gwneud camgymeriadau, fyddai yna ddim rwber ar ben pensiliau na fydda? Ein rôl ni yw sicrhau tegwch a bod pobl gaiff eu harestio yn cael eu trin yn gywir.

Mi fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n meddwl bod hon yn rôl y gallan nhw ei wneud i gysylltu. Mae angen i chi fod yn allblyg a bod yn barod i siarad efo pobl ar bob lefel o gymdeithas.

“Gall pawb ohonom wneud gwahaniaeth ac os ydi o’n sicrhau bod yr heddlu’n delio efo pobl yn gywir ac yn unol â’r rheolau a’r canllawiau presennol, yna mae’n rhaid i hynny fod yn beth da.

Mae’n bendant yn rôl rwy’n ei mwynhau ac yn rhywbeth rwy’n bwriadu parhau i’w wneud am y dyfodol agos.”

Dywedodd Meinir Jones, Swyddog Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros oruchwylio’r cynllun ymweld o fewn swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Dyma un o ddyletswyddau statudol y Comisiynydd ac rydym yn gobeithio recriwtio pobl dros 18 oed sydd naill ai’n byw neu’n gweithio o fewn ardal Heddlu Gogledd Cymru.

Dylent hefyd fod yn annibynnol o’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol i’r graddau nad ydynt yn gweithio i’r heddlu neu’r gwasanaeth prawf nac ychwaith yn gwasanaethu fel ynadon.

Y nod cyffredinol yw sicrhau bod pobl sy’n cael eu dal yn y ddalfa yn cael eu cadw’n saff ac yn briodol a bod eu hawliau a’u lles yn cael eu diogelu.

Mae gan ymwelwyr ryddid i drefnu eu hamseroedd ymweld a gall yr oriau hynny fod ar unrhyw adeg, o ben bore i oriau hwyr y nos, ac ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.”

Nid yw ynadon, swyddogion heddlu na heddweision gwirfoddol yn cael bod yn ymwelwyr â’r ddalfa. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posib, gall rhai eraill gael eu heithrio os oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol gyda’r system cyfiawnder troseddol - cyfreithwyr neu swyddogion prawf, er enghraifft.

Dylai unigolion cymwys sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fod yn Ymwelydd â'r Ddalfa yng ngogledd Cymru gysylltu gyda Meinir Jones yn swyddfa'r Comisiynydd, naill ai trwy ffonio 01492 805486 neu drwy anfon e-bost at: opcc@nthwales.pnn.police.uk