Skip to main content

DASU, SCHTh a BIPBC yn ymuno i fynd i'r afael â cham-drin domestig

Dyddiad

IRIS Programme visit

Mae DASU, y darparwyr achredig mwyaf sy’n cynnig gwasanaethau Adfocatiaeth Trais Domestig Annibynnol (IDVA) yng Ngogledd Cymru wedi ymuno gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i lansio eu gwasanaethau IDVA yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

Yn gweithio ar y cyd â Thimoedd Diogelu BCUHB a Thimau Diogelu'r Cyhoedd ac yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol llinell flaen, bydd y gwasanaeth newydd sbon hwn yn cynnig cefnogaeth a chyngor i staff a chleifion i adnabod a rhoi cefnogaeth i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan, ac yn byw gyda cham-drin domestig. Ar ymweliad ag Ysbyty Glan Clwyd ar 29 Medi, cyfarfu Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru Andy Dunbobbin â'r rhai yn ymwneud â'r fenter gan ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael i ddioddefwyr. 

Mae DASU, sy'n derbyn dros 6000 o atgyfeiriadau'r flwyddyn - tua 1 bob 15 munud - yn credu y bydd y bartneriaeth hon yn galluogi gweithwyr proffesiynol i adnabod unigolion sy'n dioddef Cam-drin Domestig yn gynharach ac yn cynnig cefnogaeth arbenigol i leihau niwed.   

Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth i weithwyr iechyd proffesiynol, yn gweithio o fewn yr ysbytai hyn, yn adnabod cleifion sy'n dioddef cam-drin domestig ac yn atgyfeirio yn uniongyrchol i'r gwasanaeth IDVA ar y safle. Mae'r gweithio ar y cyd hwn wedi ymestyn i nifer o feddygfeydd o fewn Sir Ddinbych fel rhan o raglen beilot o'r enw IRIS. Daw'r arian ar gyfer y prosiect oddi wrth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fel rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i daclo cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Ngogledd Cymru. 

Mae IRIS – sy'n sefyll am Identification and Referral To increase Safety – yn cynnig rhaglen hyfforddiant ac addysg i feddygon teulu sy'n dymuno bod yn bartneriaid yn y prosiect. Mae gweithiwr arbenigol DASU sy'n gweithio o fewn meddygfeydd yn gallu derbyn atgyfeiriadau a rhoi cynlluniau diogelu yn eu lle ar gyfer cleifion pan fyddant yn mynd at eu meddyg teulu. Mae hyn yn lleihau'r tebygolrwydd o droseddau pellach ac yn cynnig adnoddau ychwanegol i gefnogi cleifion sy'n datgelu Cam-drin Domestig.

Dywedodd Gaynor Mckeown, Prif Swyddog Gweithredol DASU: “Gyda'r arian rydym wedi ei dderbyn drwy Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rydym eisoes yn cyflenwi gwasanaethau IDVA yng Ngogledd Cymru. Serch hynny, rydym wedi bod eisiau gweithio yn fwy agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn ceisio cyrraedd dioddefwyr yn gynt. Mae ein profiad yn dweud wrthym fod dioddefwyr yn debygol o weld gweithwyr iechyd proffesiynol ac yn mynd i'r ysbyty neu at eu meddyg ar nifer o achlysuron cyn iddynt fynd at wasanaethau Cam-drin Domestig arbenigol, felly bydd y prosiectau hyn yn rhoi cyfle i ni  godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig i weithwyr iechyd proffesiynol cefnogol er mwyn iddynt wneud yr ymholiadau clinigol hynny tra'n gweld cleifion mewn lleoliad iechyd. Mae hwn yn gyfle gwych i wella'r ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â cham-drin domestig yng Ngogledd Cymru. Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniadau hyd yn hyn, sydd wedi gweld lefelau o atgyfeiriadau yn Sir Ddinbych yn cynyddu yn ddyddiol a llwybrau atgyfeirio i'n gwasanaethau ychwanegol yn cael eu defnyddio."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o weld y cynnydd yn cael ei wneud yn rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig yng Ngogledd Cymru a'r gwaith hanfodol y mae DASU yn gwneud yn yr ardal. Os ydym wir eisiau helpu dioddefwyr, yna mae'n rhaid i ni gysylltu gyda nhw mewn cymaint o ffyrdd â phosib, ac un o'r rhain yw trwy eu meddyg teulu a gwasanaethau iechyd eraill. Mae rhaglen IRIS yn ffordd ddyfeisgar ac effeithiol o wneud hyn.

“Mae Taclo cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhan allweddol o fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, ond mae'n drosedd sy'n parhau i fod yn un nad yw'n cael ei riportio'n aml. Felly mae'n hanfodol ein bod ni'n cefnogi dioddefwyr i fagu eu hyder, annog mwy o ddioddefwyr i ddod ymlaen ac i helpu dod â cham-drin domestig a thrais rhywiol i ben.

Ategodd Michelle Denwood, Cyfarwyddwr Diogelu a Diogelu'r Cyhoedd BCUHB bwysigrwydd y cydweithredu hyn:   “Mae BCUHB yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda DASU ar brosiectau IDVA ac IRIS. Mae'r ddau yn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn sicrhau diogelwch y dioddefwyr, lleihau'r peryg o niwed ac ail-adeiladu bywydau mewn modd positif.  O fewn agenda Diogelu a Diogelu’r Cyhoedd mae Cam-drin Domestig i fod yn flaenoriaeth strategol i'r Bwrdd Iechyd."

Wedi ei anelu at ferched, dynion a phlant sy'n dioddef cam-drin domestig gan gymar, cyn-gymar neu oedolyn yn y teulu, mae gwasanaethau IDVA ac IRIS yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ac yn gallu siarad ar ran y dioddefwr. Mae IRIS hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i ddynion. Mae hefyd yn cynnwys hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ymarferwyr clinigol a staff i wella eu gallu i adnabod ac ymateb i gleifion sydd neu sydd wedi dioddef trais domestig a cham-drin.


DASU Gogledd Cymru:

Sir y Fflint: 01244 830436 Bae Colwyn: 01492 534705
Y Rhyl: 01745 337104 Dinbych: 01745 337104
Wrecsam: 01978 310203 Ar-lein: http://www.dasunorthwales.co.uk/