Dyddiad
Yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth Helga Uckermann, mae Andy, Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi gwneud y datganiad canlynol:
"Trist oedd clywed am farwolaeth Helga Uckermann yr wythnos diwethaf. Roedd Helga Uckermann yn Gydlynydd Hunaneirioli gyda Chymdeithas Cyngor ac Hunaneiriolaeth Gogledd Cymru. Roedd hi'n gefnogwr brwd dros hawliau'r gymuned ar draws Gogledd Cymru. Bu'n ymladd dros hawliau pobl mewn bywyd cyhoeddus a bydd colled ar ei hôl.
Yn ddiweddar, gwelwyd ei hymroddiad a'i sgiliau cydlynu yn y gynhadledd 'Hear Our Voice' yng Ngwesty'r Beaches, Prestatyn. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Hunaneiriolaeth Prestatyn, grŵp hunaneirioli pobl gydag anableddau dysgu sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych. Y nod oedd "siarad ar ran ein cymuned ac i ofyn am newid" ac i wella mynediad a hawliau pobl gydag anghenion dysgu. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ac roedd yn pwysleisio hunanreolaeth a sut y gall plismona weithio gyda chymunedau i sicrhau na fyddant yn dioddef troseddau. Roedd Helga yn rhan annatod o'r weledigaeth ac roedd wedi gweithio am nifer o flynyddoedd gyda Grŵp Ymgysylltu Rhanddeiliaid Ar Gyfer Anabledd Heddlu Gogledd Cymru. Roedd wedi gweithio yn agos ar y cyd gyda thîm Uned Amrywiaeth yn Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Dywedodd Helga ar adeg cynhadledd 'Hear our Voice' mai ei rôl oedd "cefnogi huneiriolwyr i wneud eu gwaith ac i ganfod eu llais." Mae pobl sydd ag anghenion dysgu yng Ngogledd Cymru am gael eu parchu yn eu cymunedau." Roedd ganddi agwedd ddiymhongar wrth gefnogi eraill, ac roedd hi'n benderfynol y dylai pobl gael y parch y maent yn haeddu. Estynnaf fy nghydymdeimlad ar ran y tîm cyfan yn Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd at deulu a ffrindiau Helga ac i'r hunaneiriolwyr yng Ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod trist hwn."