Skip to main content

Datganiad CHTh ar gyhoeddi'r meincnod perfformiad yr heddlu ar fynd i'r afael â VAWG

Dyddiad

Andy Dunbobbin

Yn dilyn cyhoeddi’r meincnod cyntaf o gyflawniad yr heddlu ar fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod, dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru:

“Mae gan y cyhoedd ofidion yn ymwneud ag ymddygiad yr heddlu yn dilyn troseddau gwarthus Wayne Couzens a David Carrick. Ffordd hanfodol o ddelio gyda’r materion hyn ac i leddfu ofnau’r cyhoedd yw i fod yn agored ac yn dryloyw – o gwmpas graddfa’r broblem a sut yr ydym yn gweithredu arni. Dyna pham mae’n bwysig bod Heddlu Gogledd Cymru yn cyhoeddi’r ffigyrau hyn ac yn agored i’r newidiadau ynglŷn â fetio, riportio a delio â chwynion. Nid oes lle i gasineb yn erbyn merched yn yr heddlu ac ni ddylai rhai sy’n cam-drin fyth fod mewn swyddi sydd fod i ddiogelu pobl. Rwyf yn gwybod bod y mwyafrif o swyddogion yn gweithio’n galed bob dydd i wneud y peth iawn ac i wasanaethu eu cymunedau, ond fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd rwyf yn benderfynol o wneud yr heddlu yn atebol ac yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion i sicrhau bod y mesurau yn cael eu rhoi yn eu lle ac yn gwneud gwahaniaeth. Rhaid i ni gyd wneud popeth y gallwn fel bod gan pobl Gogledd Cymru yr hyder yn y swyddogion a staff sydd yno i'w gwasanaethu a’u diogelu.”

Mae'r CHTh a Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i gynorthwyo dioddefwyr ac ymchwilio unrhyw honiadau'n gyflym a thryloyw. Fodd bynnag, maent yn cydnabod efallai ei bod yn well gan rai unigolion hysbysu sefydliad tu allan i'r heddlu. Maent yn annog unrhyw ddioddefwyr sy'n dymuno hysbysu am drais rhywiol neu gam-drin rhywiol, ond yn teimlo nad ydynt yn gallu cysylltu â'r heddlu, i hysbysu'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig neu'r Ganolfan Cymorth Treisio a Cham-drin Rhywiol. Bydd y sefydliadau hyn yn rhoi cyngor annibynnol, eiriolaeth a gallaf wneud adroddiad trydydd parti ar eu rhan os ydynt yn dymuno.

Er mwyn hysbysu DASU neu RASASC am unrhyw achosion, dylai aelodau o'r cyhoedd gysylltu â:

RASASC – 01248 670628 neu drwy e-bost: info@rasawales.org.uk

DASU – 01492 534705 neu e-bostiwch nhw drwy eu gwefan: Cysylltwch â ni / Atgyfeirio at ein Gwasanaethau » DASU Gogledd Cymru