Skip to main content

Dechrau da mewn bywyd yn medru arbed trethdalwyr £500,000 am bob plentyn

Dyddiad

20190204 Homestart -3

Mae elusen sydd yn helpu rhieni sydd yn ei gweld hi’n anodd i fagu babanod yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn medru helpu arbed trethdalwyr £500,000 yr un dros fywyd plentyn drwy eu helpu nhw i aros ar y trywydd cywir, yn ôl rheolwr heddlu.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones wedi cefnogi Home-start, sydd â swyddfeydd yn Wrecsam a Sir Fflint, drwy roi £75,000 dros dair blynedd fel rhan o’i fenter Ymyrraeth Gynnar.

Mae’r sefydliad hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac Ysgol Gynradd Gwersyllt.

Dywedodd Mr Jones: “Mae Home-start yn gwneud gwaith gwych i helpu teuluoedd i fagu plant ac os ydynt yn medru maent yn camu mewn a chynnig cefnogaeth a chyngor bydd yn achub nifer o filiynau o bunnoedd i’r trethdalwyr.

Mae’r blynyddoedd cynnar yna a sicrhau fod plant yn cael y dechrau cywir yn hanfodol a gall helpu rhieni i roi’r dechrau cywir i’w plant atal problemau presenoldeb yn yr ysgol, camddefnyddio sylweddau, diweithdra, salwch a hyd yn oed marwolaeth gynnar.

Heb y gefnogaeth yno i sicrhau eu bod nhw’n aros ar y trywydd cywir ag allan o drwbl pan maent yn tyfu fyny, gallai gostio’r gymdeithas £500,000 am bob plentyn.

Dwi’n hoffi gweithio gyda Home-start oherwydd bod nhw yn meddwl am atebion. Maent yn delio gyda channoedd o blant ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o deuluoedd.”

Mae Home-Start yn elusen cefnogi teuluoedd ac mae ganddynt gynlluniau yn Sir Fflint a Wrecsam lle bydd yr elusen yn gweithio gyda theuluoedd sydd â phlant o adeg beichiogi tan eu bod yn 12 mlwydd oed.

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae Home-start wedi gweithio gyda 211 o deuluoedd ar draws Wrecsam a Sir Fflint ac mae eu gwirfoddolwyr wedi cefnogi 468 o blant, ac mae’r mwyafrif ohonynt o dan bum mlwydd oed ac ar gyfartaledd roedd eu gwirfoddolwyr wedi rhoi dwy awr a hanner bob wythnos i’r prosiect.

Mae’r arian o Gronfa Ymyrraeth Gynnar y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn talu am Hyrwyddwr Profiadau Anffafriol Plentyndod, Lucie Nikolic, sydd wedi ei seilio yn Wrecsam ac yn gweithio ar draws Wrecsam a Sir Fflint.

Ei swydd hi yw i gydlynu ymdrechion y tîm gwirfoddol o Weithwyr Cefnogaeth Deuluol Home-start sydd yn gweithio gyda theuluoedd o enedigaeth i sicrhau fod Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod (PNMP) yn cael eu hosgoi.

Dywedodd Pam Hoyle, rheolwr Home-Start Wrecsam: “Mae nifer o’r rhieni rydym yn cefnogi wedi bod trwy drawma yn eu plentyndod eu hunain a nawr nid oes ganddynt y gefnogaeth deuluol a’r adnoddau rydym i gyd angen i fagu plant.

Mae hyn yn gwneud pethau yn anodd iawn i deuluoedd a’n swydd ni yw i ‘bontio’r bwlch’ a lleihau’r risg o ddigwyddiadau trawmatig neu deulu’n chwalu.

Mae Home-Start yn gweithio gyda theuluoedd i gael y gorau allan o fywyd teuluol ac osgoi’r pethau rydym yn gwybod bydd yn achosi anawsterau i’r plant yn y dyfodol.

Mae Home-Start yn sefydliad cefnogaeth deuluol ataliol sydd yn cynnig cefnogaeth emosiynol ag ymarferol i daclo’r anfanteision mae nifer o deuluoedd ar draws Cymru yn wynebu.

Os fyddwn yn llwyddiannus yn torri’r cylch o amlygiad at Brofiadau Niweidiol Mewn Plentyndod yna fyddwn yn torri’r cylch am genedlaethau.

Rydym eisiau helpu nhw i ymdopi ar ben eu hunain oherwydd mae pawb eisiau’r gorau am eu plant.”

Dywedodd Lucie: “Byddwn yn defnyddio ein perthnasoedd dibynadwy gyda theuluoedd i ddarganfod sut y gallwn ni helpu i ddysgu am Brofiadau Niweidiol Mewn Plentyndod a’u heffeithiau.

Rydym yn sefydlu rhwydwaith gyda sefydliadau ac ymarferwyr ar draws iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, awdurdodau lleol a trydydd sector i rannu ymarfer gorau a dysgu ar draws Wrecsam a Sir Fflint.

Mae gennym ni gyd ddiddordeb personol yn dysgu mwy am sut i atal y rhain rhag digwydd a lleihau eu heffeithiau felly rydym yn edrych ymlaen at rannu ymarfer gorau gyda’n gilydd i ffeindio atebion lleol a chreu rhwydwaith o rannu ymarfer gorau gyda’n gilydd.

Mae’r gwirfoddolwyr i gyd wedi eu hyfforddi ac mae rhai ohonynt wedi dod o gefndiroedd o rhianta gwael a gan ein bod ni’n elusen mae teuluoedd yn ei ffeindio hi’n haws i weithio gyda ni.”

Ychwanegodd Arfon Jones, a oedd gynt yn Arolygydd Heddlu: “Mae troseddi yn symptom, mae angen edrych ar beth sy’n gwneud i bobl droseddu a delio gyda rhain oherwydd mae rhai pobl yn mynd i’r llys yn rhy aml ac nid oes unrhyw beth yn cael ei wneud i stopio hyn.

Dyna pam mae’r Gronfa Ymyrraeth Gynnar yn bwysig oherwydd os gallwn ymyrryd yn gynnar ym mywydau’r plant sydd mewn risg yna gallwn ni atal y patrwm yma o ymddygiad a dyna beth mae Home-start yn ceisio gwneud.”