Skip to main content

Digwyddiad yn taflu goleuni ar Gaethwasiaeth a sut i'w drechu

Dyddiad

Open for Business

Mewn cynhadledd a gynhaliwyd ar 22 Mai yng Nghyffordd Llandudno, daeth 100 o berchnogion busnes lleol a sefydliadau sector cyhoeddus ledled Gogledd Cymru at ei gilydd er mwyn edrych ar y broblem hanfodol sef Caethwasiaeth Fodern. Edrychwyd ar sut i ddeall ei hadnabod hi a thrafod y peryglon mae'n ei beri i'r economi leol. 

Mae Caethwasiaeth Fodern yn fygythiad parhaus i gymunedau yng Ngogledd Cymru a rhaid i fusnesau fod yn ymwybodol o sut y gall gael effaith arnynt a sut i adnabod yr arwyddion. Cafodd y gynhadledd am ddim yng Nghanolfan Fusnes Conwy ei threfnu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac fe gafwyd gair o groeso a chyflwyniad gan y Comisiynydd sef Andy Dunbobbin a'i Ddirprwy sef Wayne Jones. 

Roedd siaradwyr amlwg iawn wedi dod o ledled y rhanbarth a'r DU yn ehangach, gan gynnwys Kevin Hyland OBE o'r Santa Marta Group. Yn dilyn 30 mlynedd ym maes plismona, yn cynnwys Uned Masnachu Pobl yn Llundain, yn 2014 penodwyd Kevin Hyland OBE fel Comisiynydd Gwrth Gaethwasiaeth Annibynnol cyntaf y DU, gan wasanaethu gydag anrhydedd tan 2018. Edrychodd cyflwyniad Kevin Hyland ar sut mae dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern yn cael eu camfanteisio a pha sectorau busnes oedd yn dueddol o ddioddef Caethwasiaeth Fodern. 

Rhoddodd Martin Plimmer, Uwch Swyddog Ymchwilio i'r Awdurdod Rheolwyr Gangiau a Cham-drin Llafur, astudiaethau achos enghreifftiol i'r gynulleidfa o Gaethwasiaeth Fodern o'i waith. Mae Martin yn gyfrifol am Ranbarth y Gogledd Orllewin sy'n cynnwys Gogledd Cymru, Glannau Mersi, Swydd Gaer, Sir Gaerhirfryn, Manceinion Fwyaf, Cumbria, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd cyflwyniad Mr Plimmer yn canolbwyntio ar ymchwiliad diweddar i Gaethwasiaeth Fodern yn y sector gofal. Trafodwyd sut roedd awdurdodau wedi ymdrin â'r ymchwiliad a sut y daethpwyd â throseddwyr o flaen eu gwell.

O Ogledd Cymru, rhoddodd Glory Williams, Ymarferydd Cynorthwyol Dros Dro ac Uwch Ymarferydd Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn BAWSO (y sefydliad sy'n rhoi cymorth i gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig ac unigolion yng Nghymru a effeithir gan gam-drin, trais a chamfanteisio), a Melanie Chitty o Barnado's gipolwg ar eu gwaith yn cynorthwyo dioddefwyr. Clywodd y rhai oedd yn bresennol adroddiad emosiynol gan Glory Williams am brofiad dioddefwr o lafur gorfodol a throsolwg o'u taith wrth geisio cymorth er mwyn dianc rhag camfanteisio.

Gwnaeth y Ditectif Uwcharolygydd Simon Williams o Heddlu Gogledd Cymru siarad am realiti troseddau Caethwasiaeth Fodern yng Ngogledd Cymru heddiw. Rhoddodd drosolwg o'r bygythiad cenedlaethol a rhanbarthol a sut mae'r Heddlu'n cynllunio i'r dyfodol wrth atal Caethwasiaeth Fodern a sut y gall perchnogion busnes ymgysylltu gyda'u cynlluniau.  

Seb Phillips, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Heddlu Gogledd Cymru, roddodd y cyflwyniad olaf. Cafwyd anerchiad yn trafod caffael moesegol a'r camau gall busnesau eu cymryd er mwyn sicrhau fod cadwyni cyflenwi'n dryloyw ac yn rhydd o Gaethwasiaeth Fodern.

Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chadeirydd Fforwm Darparwyr Gwasanaethau Caethwasiaeth Fodern Gogledd Cymru: "Mae Caethwasiaeth Fodern yn faes camfanteisio sydd, er yn gudd yn aml, yn bresennol iawn, gyda dioddefwyr yn ein cymunedau. Fel cadeirydd Fforwm Darparwyr Gwasanaethau Caethwasiaeth Fodern Gogledd Cymru, fy nod ydy gwarchod pobl fregus drwy weithio gydag asiantaethau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae hyn er mwyn parhau codi ymwybyddiaeth, datblygu arfer gorau a rhannu gwybodaeth.  Gwnaeth y digwyddiad hwn roi cyfle i ni gyd ddod at ein gilydd a chlywed rhai prif siaradwyr yn amlinellu'r hyn dylem edrych allan amdano yma yng Ngogledd Cymru."

Atgyfnerthwyd y neges hon gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a ddywedodd: "Rwyf yn falch fod fy swyddfa wedi cynnal y digwyddiad hwn a oedd yn canolbwyntio ar y pla hwnnw sef Caethwasiaeth Fodern. Blaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru ydy cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau a phobl sydd wedi dioddef oherwydd masnachwyr pobl. Mae dod â'r troseddwyr o flaen eu gwell yn hynod bwysig i mi'n bersonol."

Ceir mwy o wybodaeth am Gaethwasiaeth Fodern a sut i hysbysu amdano ar wefan SCHTh ar: Caethwasiaeth Modern | Office of the Police and Crime Commissioner North Wales (northwales-pcc.gov.uk)