Skip to main content

Digwyddiad yng Nghaernarfon yn edrych ar sut i gadw ffermydd yn ddiogel

Dyddiad

Tir Dewi

Nos Wener, Mai 19 daeth ffermwyr a’u teuluoedd o bob rhan o ogledd-orllewin Cymru at ei gilydd yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon ar gyfer digwyddiad yn edrych ar ffyrdd y gall ein cymunedau gwledig amddiffyn eu hunain yn well rhag trosedd, yn ogystal â mesurau newydd hollbwysig gan Heddlu Gogledd Cymru i frwydro yn erbyn gweithgarwch troseddol ar draws y rhanbarth. Noddwyd y digwyddiad Seibr Ddiogelwch ac Atal Troseddu gan yr elusen i ffermwyr a’u teuluoedd, Tir Dewi; Heddlu Gogledd Cymru; Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru; a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cefnogwyd y noson ymhellach gan undebau’r ffermwyr, yr NFU ac FUW, ac fe  ha agorwyd y noson gyda gair o groeso gan Llinos Angharad Owen, Rheolwr Cyfathrebu a Chodi Arian Gogledd Cymru, Tir Dewi. Amlinellodd Llinos bwrpas y digwyddiad a’r gefnogaeth y mae Tir Dewi yn ei roi i’r gymuned amaethyddol. Wedi’i sefydlu yn 2015, mae Tir Dewi wedi helpu cannoedd o ffermwyr a’u teuluoedd a oedd, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, yn cael trafferth ymdopi, a heddiw, gall ffermwyr mewn angen ledled Cymru gael mynediad at wasanaethau’r sefydliad.

Cafwyd araith gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, gan bwysleisio pwysigrwydd cymunedau gwledig Gogledd Cymru iddo ef yn bersonol, y lle unigryw y maent yn ei feddiannu yn niwylliant a threftadaeth Gogledd Cymru, a pha mor hanfodol yw hi fod cymunedau, heddlu a phartneriaid trydydd sector yn cydweithio i frwydro yn erbyn trosedd.

Pwysleisiodd PC Dewi Owen o Dîm Troseddu Seibr Heddlu Gogledd Cymru ei bod  hi’n  bwysig bod ffermwyr yn wyliadwrus o droseddau ar-lein a seibr, o ystyried natur gynyddol ddigidol rheoli busnes – hyd yn oed ym myd ffermio. Rhoddodd enghreifftiau o sgamiau amrywiol a ddefnyddir gan droseddwyr, gan gynnwys y rhai yn ymwneud â negeseuon e-bost ffug gan gyflenwyr tybiedig yn gofyn i ffermwyr dalu i mewn i gyfrif newydd. Dywedodd hefyd pa mor hawdd yw hi i gasglu gwybodaeth o gyfryngau cymdeithasol am fanylion personol ffermwyr y gellir eu defnyddio yn ddiweddarach i'w twyllo. Tynnodd PC Owen sylw hefyd at ba mor hawdd y gall fod i ffermwr bostio delweddau o dractor newydd neu fath arall o beiriannau ar gyfryngau cymdeithasol y gall troseddwyr eu gweld a allai wedyn geisio dwyn yr offer.

Yn dilyn cyflwyniad PC Dewi Owen cafwyd cyflwyniad gan SCCH Iwan Owen o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru gan fanylu ar fesurau newydd y mae’r Heddlu yn eu defnyddio i amddiffyn cymunedau amaethyddol. Yn ddiweddar, enwyd SCCH Owen yn SCCH Troseddau Gwledig y flwyddyn yng Nghynhadledd Bywyd Gwyllt a Throseddau Gwledig Cymru am ei “benderfyniad i ddarparu ansawdd gwasanaeth i’r gymuned wledig” a rhoddodd enghreifftiau o ymchwiliadau a oedd wedi digwydd yn ddiweddar yn yr Heddlu i ddal lladron a oedd yn gweithredu yng Ngogledd Cymru. Bu SCCH Owen hefyd yn rhannu’r newyddion am fenter newydd Heddlu Gogledd Cymru ‘Dangos Y Drŵs i Drosedd’ i geisio brwydro yn erbyn bwrgleriaeth, lladrad a throseddau tebyg eraill lle mae troseddwyr yn elwa o gymryd eitemau oddiwrth eraill. Mae cymunedau gwledig yn rhan allweddol o’r ymgyrch hon, a fydd yn defnyddio marc DNA ‘Dŵr Clyfar’ i ddiogelu offer fferm. Mae'r ymgyrch yn ei dyddiau cynnar a bydd ffermydd ar draws Gogledd Cymru yn dechrau elwa o'r dechnoleg a'r gefnogaeth sydd ar gael yn fuan.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Roeddwn i’n falch iawn o gyd-gynnal y digwyddiad hwn ac rwy’n sicr i bawb a fynychodd ei weld yn werth chweil. Hoffwn hefyd ddiolch i Tir Dewi, Timau Troseddu Seibr a Tim Troseddau Cefn Gwlad Gogledd Cymru am eu cyfraniadau.

“Po fwyaf y bydd yr heddlu, undebau ffermwyr, y gymuned amaethyddol, a thrigolion ardaloedd gwledig yn cydweithio i atal troseddau gwledig a bywyd gwyllt, y mwyaf effeithiol y byddwn, a gorau po gyntaf y gallwn helpu i roi diwedd ar y mathau hyn o droseddau.”

“Rwy’n ymroddedig iawn i’n cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru. Maent yn hanfodol i’n heconomi, i’n lles, ac i’n diwylliant unigryw – ei threftadaeth a’i dyfodol. Mae digwyddiadau fel y noson hon yn helpu i ledaenu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Mae nhw’n ein galluogi i adnabod troseddau posibl, i wybod at ble i droi am gefnogaeth a beth i’w wneud pan fydd trosedd yn digwydd.”

“Roedd hi’n noson lwyddiant iawn gyda adborth gan y  ffermwyr a’r ddau Lywydd undeb yr NFU a’r FUW yn gadarnhaol iawn. Mae gweithio mewn partneriaeth â Thîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn sicr o fudd i ffermwyr Gogledd Cymru” meddai Llinos Angharad Owen o elusen  Tir Dewi.

Cafodd y digwyddiad a’r negeseuon y tu ôl iddo eu rhannu yn fyw ar Newyddion S4C ar noson y digwyddiad, lle siaradodd SCCH Owen a Llinos Owen â’r cyfryngau am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o droseddu mewn cymunedau gwledig.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun ‘Dangos Y Drŵs i Drosedd’ ewch i: Dangos y Drws i Drosedd | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)