Skip to main content

Digwyddiadau arbennig yng Ngogledd Cymru, yn edrych ar fyw’n well efo dementia

Dyddiad

Dementia

Mae Alzheimer’s Research UK yn amcangyfrif bod 944,000 o bobl yn byw efo dementia yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd twf yng ngraddfa’r cyflwr, mae Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi ymuno i ehangu eu dosbarthiad o’u cyfres o ffilmiau, “Byw’n Well gyda Dementia”.

Mae’r ffilmiau, a gyflwynwyd am y tro cyntaf ym mis Mawrth eleni, wedi eu creu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o ddementia. Rŵan, ar ôl lansiad llwyddiannus y ffilmiau, mae dangosiadau arbennig pellach wedi eu trefnu ym Mrychdyn a Chyffordd Llandudno, diolch i fuddsoddiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin. Y nod ydy i anfon neges bwysig y ffilmiau ynglŷn â byw’n well efo dementia, i hyd yn oed mwy o bobl ledled Gogledd Cymru.

Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos yn Cineworld, Parc Siopa Brychdyn ar 11 Mehefin 2024 rhwng 3pm a 5pm, ac yn Cineworld Cyffordd Llandudno, ar 1 Hydref 2024 rhwng 3pm a 5pm. Yn dilyn y dangosiadau, bydd sesiynau cwestiwn ac ateb ar faterion iechyd a phlismona, sy’n gallu effeithio ar bobl sy’n byw efo dementia, neu eu teuluoedd. Bydd y pynciau i’w trafod ar y diwrnod yn dod o’r gynulleidfa, a gallent gynnwys sut i fyw mor dda a phosib efo dementia; cadw’n ddiogel; diogelu eich cartref; a help i rhywun sy’n mynd ar goll.

Yr Athro Tracey Williamson, sy’n Nyrs Ymgynghorol Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gafodd y syniad am y ffilmiau. Dywedodd: “Drwy gyfrwng y ffilmiau, gobeithiwn greu gwell dealltwriaeth o ddementia yng Ngogledd Cymru, a thu hwnt, gan gynnwys sut i gael archwiliad, a sut i fyw cystal â phosib efo’r cyflwr.”

Mae’r pump ffilm yn y gyfres “Byw’n Well gyda Dementia” ar gael i’w gwylio ar wahân, neu fel ffilm 32-munud parhaol. Maen nhw’n canolbwyntio ar y pynciau canlynol; beth yw dementia; pryd i ofyn am gymorth; cael diagnosis; byw gyda dementia; a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “’Dwi’n falch bod Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio ar y gyfres ffilmiau “Byw’n Well gyda Dementia”, a ’dwi wrth fy modd ein bod wedi medru buddsoddi yn rhannu’r neges hanfodol yma efo hyd yn oed mwy o aelodau’r cyhoedd. Buaswn yn annog unrhyw un sy’n byw efo dementia, neu eu teuluoedd a’i ffrindiau i fynd i’r digwyddiadau er mwyn deall mwy am y cyflwr ac am y cymorth sydd ar gael.”

Dywedodd Rhingyll Beth Jones o Heddlu Gogledd Cymru: “’Dwi’n falch i barhau ein gwaith partneriaeth efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i gynorthwyo pobl sy’n byw efo dementia yng Ngogledd Cymru, a’u teuluoedd a’u cynorthwywyr. Mae’r nifer o bobl sy’n byw efo dementia yn cynyddu bob blwyddyn, felly mae’n hanfodol ein bod yn eu helpu efo heriau a phryderon dyddiol. Mae’r digwyddiad yma yn un o ddau sydd wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf, diolch i’r buddsoddiad gan ein Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.”

Ychwanegodd yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol Dementia BIPBC: “’Da ni’n ddiolchgar iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y buddsoddiad i ni fedru cyflwyno ein ffilm, “Byw’n Well gydag Dementia” ymhellach. Mae’r digwyddiad yn enghraifft arall dda o weithio mewn partneriaeth yng Ngogledd Cymru, a bydd yn gyfle gwerthfawr i drigolion glywed beth sy’n digwydd ym meysydd iechyd a phlismona yn lleol, ac i ofyn cwestiynau.”

Ariannwyd y ffilmiau gan Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, efo swm cyfartal yn dod oddi wrth Eternal Media Ltd, efo’r nod o’r ffilmiau yn cyrraedd y gynulleidfa mwyaf posib yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

Mae croeso i bawb ymuno efo’r digwyddiadau, ac mae mynediad am ddim. Bydd stondin wybodaeth yno ar y diwrnod, lle bydd deunydd darllen defnyddiol am ddementia ar gael.

Er mwyn archebu lle, ewch i: www.eventbrite.co.uk/e/bywn-well-hefo-dementia-living-better-with-dementia-tickets-906605831447

I gael copi o’r Protocol Herbert, ewch i: www.northwales.police.uk/cy /-herbert-protocol/

Mae’r Protocol Herbert yn gynllun cenedlaethol mae heddluoedd a gwasanaethau argyfwng yn ei ddefnyddio ledled y DU, i gynorthwyo pobl sy’n byw efo dementia, sydd mewn perygl o fynd ar goll neu o gael eu riportio fel unigolyn coll.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rhingyll Beth Jones ar 07896 172 643 neu e-bost Bethan.Jones@northwales.police.uk neu  Tracey.Williamson@wales.nhs.uk