Skip to main content

Dwsinau o grwpiau i elwa o gronfa gymunedol arbennig CHTh y 'Dolig hwn

Dyddiad

2wish

Bydd 50 o sefydliadau ar draws Gogledd Cymru yn elwa o Gronfa Gymunedol y Nadolig gwerth £15,000 a lansiwyd yn ddiweddar gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Nod y gronfa ydy helpu cymunedau dros gyfnod y Nadolig. Cafodd y sefydliadau eu henwebu i gyd gan swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru, hefo'r mwyafrif  wyn gweithio er mwyn helpu plant a phobl ifanc bregus a'u teuluoedd nhw. 

Un o'r sefydliadau a gafodd eu henwebu ar gyfer Cronfa Gymunedol y Nadolig  am ei gwaith ar draws Gogledd Cymru ydy 2wish. Ei pherwyl ydy gwneud yn siŵr fod y rhai a effeithir gan farwolaeth sydyn a thrawmatig plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu iau drwy Gymru yn derbyn help haeddiannol hefo profedigaeth.

Roedd Laura Ogden, Cydlynydd Codi Arian Gogledd Cymru 2wish, yn awyddus rhannu pa wahaniaeth fydd y cyllid yn ei wneud i'r elusen a'i gwaith: "Pan mae teulu'n colli plentyn neu oedolyn ifanc, mae'r effeithiau'n ddinistriol i bawb a oedd yn eu hadnabod a'u caru nhw. Mae'n bwysig fod help ar gael yn ôl yr angen. Mae'r holl arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at helpu teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth sydyn yma yng Nghymru. Gall £500 ein helpu ni roi 12 o focsys er cof, neu naw o sesiynau cwnsela.

"Diolch i staff Heddlu Gogledd Cymru am enwebu 2wish a diolch i Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am lansio Cronfa Gymunedol y Nadolig."

Sefydliad arall sy'n derbyn cyllid dros y Nadolig ydy Ymddiriedolaeth Osborne yn y Rhyl, sy'n gweithio er mwyn helpu plant a phobl ifanc ar draws y DU sydd hefo rhiant sydd wedi derbyn diagnosis canser, yn mynd drwy driniaeth canser, wedi gweld canser yn dychwelyd, neu wedi marw o ganser.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Osborne ar ôl i Emma Osborne, sylfaenydd a phrif weithredwr yr ymddiriedolaeth dderbyn diagnosis canser yn 36 oed. Roedd Emma yn fam i ddau o blant 7 a 4 oed ac fe welodd fod diffyg help ar gyfer ei phlant. Fe wnaeth Emma orffen ei thriniaeth ym mis Chwefror 2014. Unwaith roedd wedi mynd trwy hyn, gweithiodd ar edrych ar sefydlu elusen er mwyn helpu plant yn ystod canser rhiant. Ers helpu'r teulu cyntaf ym mis Ionawr 2015, mae'r Ymddiriedolaeth wedi helpu dros 2,300 o blant.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae helpu cymunedau'n addewid allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru. Dwi'n cydnabod fod grantiau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i sefydliadau cymunedol. Fel hyn mae hi ar yr adeg hon o'r flwyddyn pan mae pobl ifanc, teuluoedd a grwpiau bregus eraill ar draws Gogledd Cymru yn cael eu heffeithio fwy na llawer gan argyfwng costau byw'r Nadolig. Dyma pam wnes i ofyn i swyddogion heddlu, SCCH a staff heddlu argymell y sefydliadau roedden nhw'n teimlo byddai'n elwa fwyaf. Mae'r cydweithwyr hyn yn 'nabod eu cymunedau orau ac  roeddwn i wrth fy modd hefo'r ymateb. Dwi'n edrych ymlaen at weld yr arian yn cael defnydd da gan y sefydliadau a fydd yn ei dderbyn ac yn dod â llawenydd angenrheidiol yr ŵyl ar yr adeg hon o'r flwyddyn."

Dywedodd Emma Osborne, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Osborne: "Dwi eisiau diolch yn fawr i staff Heddlu Gogledd Cymru wnaeth enwebu Ymddiriedolaeth Osborne er mwyn derbyn arian fel rhan o Gronfa Gymunedol y Nadolig. ‘Dyda ni erioed wedi gweld blwyddyn fel y 12 mis diwethaf yn ein 9 mlynedd o fodolaeth. Mae mwy o alw ar ein gwasanaethau ni er mwyn helpu plant sydd hefo rhiant wedi derbyn diagnosis canser, yn cael triniaeth neu'n byw hefo canser a thu hwnt.  

"Mae'r cyllid hwn yn sicrhau y bydd pum teulu, lle mae plant yn cael eu heffeithio gan ganser rhiant, yn derbyn help drwy ein pecynnau adnoddau 'da ni'n anfon allan i bob plentyn, a thrwy ariannu gweithgareddau seibiant lleol. Mae hyn fel bod plant yn gallu cael amser i ffwrdd o bopeth mae canser yn ei olygu pan mae eu rhieni nhw'n cael triniaeth. Ni allwn ni wneud NI heb CHI." 

Y rhestr lawn o'r sefydliadau sy'n elwa ydy:

Ynys Môn

  • Grŵp Cymunedol Porth Amlwch
  • Grŵp Afancod, Amlwch 
  • Clwb Ieuenctid Moelfre 
  • Nadolig Moelfre 
  • Seindorf Biwmares

Gwynedd

  • Cymdeithas Gymunedol y Bala a Phenllyn, Y Bala
  • Grŵp Cymunedol Maestryfan, Cae Doctor, Bangor
  • MPCT, Bangor
  • HWB Ogwen, Bethesda
  • Canolfan y Fron, Caernarfon
  • Porthi Dre, Caernarfon
  • Clwb Rygbi Bethesda

Conwy

  • Banc Bwyd Llanfairfechan
  • Golygfa Gwydir, Llanrwst
  • Canolfan Gymunedol a Banc Bwyd Tŷ Hapus, Llandudno
  • Prosiect Hummingbird, Abergele
  • Sied Ieuenctid, Abergele
  • Clwb Criced Abergele
  • Clwb Ieuenctid Backstage, Hen Golwyn
  • Tîm Iau Clwb Rygbi Llandudno
  • Clwb Rygbi Llandudno – Geifr Bach o dan 9 oed
  • Prom Ally, Llandudno
  • Parkrun Iau Gwarchodfa Natur Conwy, Conwy

Sir Ddinbych

  • Belief, Prestatyn
  • Sgowtiaid Wiwerod 1af Rhuddlan
  • Clwb Pêl Droed Corwen
  • Grŵp Forget Me Not, Dinbych
  • Blossom and Bloom, Y Rhyl
  • Ymddiriedolaeth Osborne, Y Rhyl
  • The Willow Collective, Y Rhyl
  • Hwb y Rhyl
  • Canolfan Gristnogol Sussex Street, Banc Bwyd y Rhyl, Y Rhyl
  • Canolfan y Foryd, Y Rhyl
  • Byddin yr Iachawdwriaeth, Y Rhyl
  • Canolfan ICAN, Y Rhyl

Sir y Fflint

  • Bocsio Bwcle, Bwcle
  • Shelby's Place CIC, Bwcle
  • Walk and Talk, Ffynnongroyw
  • Neuadd Goffa a Chymdeithas Gymunedol Trelawnyd

Wrecsam

  • Elusen Reactive, rhan o Elusen Ieuenctid Bitesize, Wrecsam
  • Action for Children, Wrecsam
  • Grŵp Sgowtiaid 1af Esclus
  • The Venture, CIC, Parc Caia, Wrecsam
  • Maes Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro, Queensway, Wrecsam

Ar draws Gogledd Cymru

  • Nanny Biscuit
  • 2Wish
Community Christmas fund