Skip to main content

Dylai plismyn gario chwistrell a allai arbed bywydau rhag gorddos cyffuriau, medd pennaeth heddlu

Dyddiad

Cynllun gweithredu i wrthdroi cynnydd annisgwyl mewn dedfrydau carchar byr i ferched

Dylai pob swyddog heddlu gario’r chwistrell trwyn a achubodd fywyd y seren bop Americanaidd Demi Lovato, yn ôl pennaeth plismona Gogledd Cymru.

 Syrthiodd y gantores a’r actores 25 oed, enwebai ar gyfer gwobrau Grammy a seren X Factor yr UDA, yn anymwybodol ar ôl gorddos posib yn ei chartref yn Hollywood ym mis Gorffennaf, a chael ei hadfywio gan barafeddyg oedd yn defnyddio chwistrell naloxone.

 Yn awr mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi ymuno â’r ymgyrch i sicrhau bod pob swyddog heddlu yn cario’r chwistrell a ddefnyddir fel gwrthwenwyn mewn achosion o orddos sylweddau opiad fel heroin, fentanyl a chyffuriau ar bresgripsiwn i ladd poen.

 Dywedodd: “Yn y gorffennol, mae rhoi gwrthwenwyn i orddos heroin wedi golygu rhoi pigiad nodwydd a gallaf ddeall amharodrwydd swyddogion heddlu i weithredu beth sydd mewn gwirionedd yn weithdrefn feddygol.

 Ond gellir rhoi naloxone ar leoliad gorddos opiad gyda chwistrell syml trwy'r trwyn ac mewn gwlad lle mae dros 1,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn digwydd oherwydd y math hwn o orddos mae’n gwneud synnwyr.

 Mae swyddogion heddlu yn y busnes o helpu pobl a thrwy ganiatáu i’n swyddogion yng Ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill yn y DU gario chwistrell naloxone, byddem yn achub bywydau mewn gwlad lle mae gormod o lawer o fywydau yn cael eu colli oherwydd gorddos cyffuriau.”

 Mae Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch Comisiynydd Heddlu a Throsedd Swydd Derby, Hardyal Dhindsa, Arweinydd Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

 Dywedodd Mr Dhindsa: “Mae’r bygythiad cynyddol o opiadau cryf ofnadwy fel Fentanyl a Carfentanyl, a all achosi gorddos damweiniol hyd yn oed i’r rheini sydd â gwrthiant uwch i opiadau, yn tanlinellu sut y bydd darparu ymateb cyntaf effeithiol i’r achosion hyn o orddos yn cynyddu mewn pwysigrwydd mewn blynyddoedd i ddod.

Un offeryn allweddol i atal y marwolaethau hyn oherwydd gorddos yw naloxone. Fe’i defnyddir i atal effeithiau opiadau, fel heroin a morffin, a gall atal gorddos yn syth, gan ddarparu ffenestr hanfodol i gael cymorth meddygol i’r claf. “

Mae Naloxone yn gweithredu trwy rwystro effaith opiadau, sy’n effeithio ar reolaeth yr ymennydd o anadlu, rhag arafu neu hyd yn oed atal anadlu, sef yr achos mwyaf cyffredin o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.

Gellir ei roi gyda chwistrell syml trwy’r trwyn ac fe’i rhestrwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd fel meddyginiaeth hanfodol ac fe’i hargymhellir gan arbenigwyr iechyd yn y Cyngor Ymgynghorol ar gyfer Camddefnyddio Cyffuriau a Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar sail y gwahaniaeth y mae wedi’i wneud, a’r bywydau y mae wedi’u hachub gartref a thramor.

Ychwanegodd Arfon Jones: “Mae un rhan o dair o’r holl farwolaethau yn Ewrop sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn digwydd yn y DU ac mae llawer o’r rhain o ganlyniad i orddos heroin ac opiadau eraill a gan mai swyddogion heddlu yn aml yw’r cyntaf i gyrraedd lleoliad achosion o’r fath, mae’n gwneud synnwyr iddynt allu rhoi triniaeth syml a all wneud gwahaniaeth allweddol wrth geisio achub bywyd.

Mae amser yn hanfodol yn y digwyddiadau hyn ac felly mae angen i swyddogion heddlu gael yr offer i ddiogelu’r cyhoedd.

Hyd at dair blynedd yn ôl, dim ond trwy bigiad nodwydd y gellid ei roi ond erbyn hyn mae chwistrell trwynol ar gael a hyd yn oed os nad yw’r person dan sylw wedi cymryd opiad ni fydd naloxone yn cael effaith nac yn achosi niwed.”