Skip to main content

Dyn dewr yn siarad am gamdriniaeth rywiol erchyll a ddioddefodd gan ei dad maeth

Dyddiad

Dyn dewr yn siarad am gamdriniaeth rywiol erchyll a ddioddefodd gan ei dad maeth

I gael mwy o wybodaeth am Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu ewch i: www.rasawales.org.uk


Mae dyn wedi siarad yn ddewr am y modd y gwnaeth oresgyn teimladau o hunanladdiad a blynyddoedd o gamddefnyddio alcohol ar ôl cael ei gam-drin yn rhywiol gan ei dad maeth yn 13 oed.

Dywedodd Paul, sydd bellach yn 42 oed, ei fod yn ddyledus iawn i gwnselwyr yng Nghanolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASC) a ddarparodd gefnogaeth un i un i'w helpu i wella o brofiadau erchyll ei blentyndod ac ailadeiladu ei fywyd.

Roedd yn siarad ar ôl y newyddion bod RASASC Gogledd Cymru - sy'n derbyn cyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones - wedi ennill Marc Ansawdd Rhaglen Achredu Annibynnol Lime Culture am gyflawni'r Safonau Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau i Gefnogi Dioddefwyr/Goroeswyr Trais Rhywiol sy’n Ddynion.

Mae'r ganolfan yn cynnig therapi a chefnogaeth i bawb o unrhyw ryw dros dair oed y mae cam-drin rhywiol pan yn blant, trais rhywiol, cam-drin rhywiol neu unrhyw fath o drais rhywiol wedi effeithio arnynt, gan ddarparu gwasanaeth ar draws pob un o chwe sir gogledd Cymru (Gwynedd, Sir y Fflint, Ynys Môn, Conwy, Wrecsam a Sir Ddinbych).

Y llynedd, gwelodd y gwasanaeth ei nifer uchaf erioed o atgyfeiriadau, sef 628 - gan gynnwys 78 o ddynion a oedd yn 14% o'r cyfanswm.

Dywedodd y goroeswr, nad ydym am ei enwi, iddo gael ei gam-drin yn rhywiol ar ôl mynd i ofal maeth pan gollodd ei fam.

Mi wnaeth y cam-drin barhau am dair blynedd nes iddo adael ac aros gyda ffrindiau. Yn dilyn hynny, dysgodd bod eraill cael eu cam-drin gan y troseddwr, a gafodd ei garcharu yn ddiweddarach.

Dywedodd Paul fod y cam-drin wedi cael effaith enfawr ar weddill ei oes a'i iechyd meddwl.

“Doeddwn i ddim yn gallu siarad efo neb, roeddwn i’n teimlo cywilydd ac mi wnes i ddechrau yfed i geisio anghofio beth oedd yn digwydd,” meddai.

“Roeddwn i’n ymladd ac yn dwyn alcohol, a mynd i drafferth efo’r heddlu. Roeddwn i’n isel iawn fy ysbryd ac wrth i mi fynd yn fwy isel roeddwn i’n yfed mwy a mwy.

“Roeddwn i mewn lle tywyll a dechreuais feddwl mai hunanladdiad oedd yr unig ffordd allan. Mi wnes i fynd yn flin a ffraeo efo fy ffrindiau a phawb o'm cwmpas, roeddwn i'n teimlo'n unig a heb obaith a doedd gen i ddim syniad sut i newid pethau.

“Mi wnes i yfed er mwyn ceisio anghofio’r boen ac mi aeth pethau mor ddrwg nes i mi ddeffro yn cysgu ar balmant, doeddwn i ddim yn gwybod lle roeddwn i a doedd gen i ddim pres. Dyna oedd y trobwynt. Sylweddolais fy mod i ar y ffordd i hunan-ddinistr, ac fy mod i'n mynd i farw'n ifanc pe bawn i ddim yn cael help a newid.”

O'r diwedd, flynyddoedd yn ddiweddarach agorodd Paul i fyny i'w weithiwr cymdeithasol a rhoddwyd taflen iddo ar RASASC.

Ffurfiwyd yr elusen yn 1984 fel y Llinell Argyfwng Trais ac mae ganddi dros 36 mlynedd o brofiad o gefnogi unigolion yng ngogledd Cymru sydd wedi dioddef trais rhywiol ar ryw adeg yn eu bywydau.

Yn ogystal â darparu cwnsela a chefnogaeth un i un, mae'r sefydliad yn darparu hyfforddiant a chyngor i sefydliadau eraill mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o drais rhywiol a'i ganlyniadau tymor hir gan wneud gwaith allanol mewn ysgolion a phrifysgolion i atal trais rhywiol.

“Roedd gen i gymaint o ofn gwneud yr alwad ffôn honno, ond dyna’r peth gorau i mi ei wneud,” meddai’r goroeswr.

“Roedd fy nghwnselydd yn ddynes hyfryd, roedd hi'n gwrando arna i ac roedd hi'n fy nghredu. Roedd hi'n deall fy mhoen. Fyddwn i ddim yma hebddi hi a RASASC Gogledd Cymru.

“Wrth siarad am sut roeddwn i’n teimlo ac am beth oedd wedi digwydd, gan weithio ar fy mhroblemau colli tymer, mi wnaethon nhw fy helpu i sylweddoli nad fy mai i oedd beth oedd wedi digwydd ac y gallwn ddod o hyd i ffyrdd mwy iach o ymdopi. Rydw i wedi stopio yfed, ac wedi bod yn sobr ers misoedd, ac rwy'n falch iawn ohonof fy hun ac o'r diwedd rwy’n teimlo'n bositif am y dyfodol.”

Mae'r Comisiynydd Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, wedi addo mynd i'r afael â thrais rhywiol a chynyddu cefnogaeth i oroeswyr ledled y Gogledd, gan ei wneud yn un o bum blaenoriaeth allweddol Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

“Rwy’n falch iawn o ymdrechion RASASC Gogledd Cymru a’r gwahaniaeth enfawr y mae cwnselwyr yn ei wneud i fywydau dioddefwyr,” meddai.

“Mae'r achrediad Marc Ansawdd yn gydnabyddiaeth i arbenigedd, penderfyniad a medrusrwydd tîm RASASC ac mae'n rhoi sicrwydd pellach i ddioddefwyr a goroeswyr, yn enwedig dynion sydd wedi dioddef trais rhywiol, bod y gwasanaethau cwnsela sy'n cael eu cynnig yn rhai o ansawdd uchel.

“Tra bod llawer mwy o ddynion yn dod ymlaen am gymorth, rydyn ni’n gwybod mai dim ond crafu’r wyneb yw hyn a bod llawer mwy yn parhau i ddioddef eu poen emosiynol mewn distawrwydd. Rwy’n gobeithio y bydd dewrder y goroeswr hwn yn annog llawer mwy o ddynion i geisio cymorth er mwyn iddyn nhw allu symud ymlaen o’u profiadau erchyll.”

Dywedodd Fflur Emlyn, rheolwr gweithrediadau RASASC Gogledd Cymru, fod data yn awgrymu ei bod yn cymryd 26 mlynedd ar gyfartaledd i ddynion sy’n oroeswyr i ddod ymlaen i gael help.

“Mae hynny gryn dipyn yn hirach nag ar gyfer goroeswyr sy’n ferched,” meddai.

“Rydym hefyd yn gweld bod therapi ar gyfartaledd yn cymryd mwy o amser i ddynion na therapi ar gyfer merched sy'n goroesi tra bod cyfraddau hunanladdiad dynion sydd wedi goroesi yn llawer uwch nag ydyn nhw ar gyfer merched.

“Mae cyfraddau hunan-niweidio hefyd yn uchel ymhlith dynion sydd wedi goroesi. Mae symptomau trawma yn cael eu dwysáu yn achos dynion sy'n goroesi gan fod ganddyn nhw gymhlethdodau ychwanegol gwrywdod i'w prosesu.

“Mae rhwng 15% a 25% o’n hatgyfeiriadau yn ddynion ond rydyn ni’n gwybod nad yw hynny’n adlewyrchiad cywir o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Nid ydym yn cyrraedd pob dyn sydd wedi goroesi ac mae cyfleoedd fel hyn i godi ymwybyddiaeth a chyhoeddusrwydd yn help mawr.

“Mae achrediad Lime Culture yn broses hir ac yn rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers blwyddyn ond roedden ni’n teimlo ei fod yn rhywbeth angenrheidiol.

“Mae'r Marc Ansawdd hwn yn dangos ymrwymiad RASASC Gogledd Cymru i wella ansawdd y gefnogaeth i ddynion sydd wedi dioddef/goroesi. Mae hwn yn gyflawniad gwych yr ydym yn hynod falch ohono.

“Rydyn ni hyd yn oed yn fwy balch ein bod wedi cyflawni'r safonau hyn er gwaethaf y pwysau a'r straen sydd wedi dod yn sgil COVID, gan ddangos ein hymrwymiad i gynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i'r holl oroeswyr trais rhywiol yng ngogledd Cymru.

“Mae llawer o’n cleientiaid yn dweud na fydden nhw’n fyw oni bai amdanom ni ac yn awr mae ganddyn nhw fywyd unwaith eto. Mae'r trawsnewidiad yn aruthrol a gall effaith therapi fod yn enfawr.

“Heb ein cronfeydd craidd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Llywodraeth Cymru, ni fyddem yn gallu parhau i gynnig y gwasanaeth hwn i’n cleientiaid. Ni fyddai ganddyn nhw unrhyw le arall i droi oherwydd does dim unrhyw sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda phobl ledled Cymru o dair oed i fyny.

“Gwerthfawrogir yr arian yn fawr ond rydym yn darparu gwasanaeth da iawn i bobl y Gogledd.”

Yn dilyn cymorth RASASC Gogledd Cymru, mae Paul bellach yn bwriadu cofrestru ar gyfer cwrs i'w helpu i fynd yn ôl i weithio ac mae wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae ganddo neges gref ar gyfer goroeswyr eraill sy'n amharod i ofyn am help.

“Peidiwch â gwneud beth wnes i a chosbi eich hun am rywbeth nad oeddech chi ar fai amdano. Mae help ar gael, felly defnyddiwch yr help yna a siaradwch efo rhywun fel y gwnes i, mae wedi newid fy mywyd. Rwy'n difaru na wnes i wneud hynny yn gynt.”

I gael mwy o wybodaeth am Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu ewch i: www.rasawales.org.uk