Skip to main content

Dysgu myfyrwyr yn Sir y Fflint i fod yn feddygon stryd

Dyddiad

Dyddiad
Street Doctors

Bu prosiect yn Sir y Fflint sydd wedi derbyn arian i ddarparu hyfforddiant meddygol i bobl ifanc yn yr ardal yn ffocws ymweliad diweddar gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru Andy Dunbobbin.

Mae menter 'Meddygon Stryd Gogledd Cymru' yn hyfforddi pobl ifanc sydd mewn peryg o drais i feithrin sgiliau cymorth cyntaf er mwyn iddynt allu rhoi cymorth mewn argyfwng pan fydd rhywun wedi cael ei drywanu neu ei guro'n anymwybodol gan o bosib, achub bywyd y dioddefwr.  ⁠Mae'r hyfforddiant yn digwydd gan weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr gofal iechyd ac mae pobl ifanc yn dysgu am ganlyniadau anafiadau a chodi eu hymwybyddiaeth o effaith trais ar iechyd meddwl.  Mae disgwyl i 250 o bobl ifanc 11-18 oed ar draws Sir y Fflint elwa o'r hyfforddiant.

Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan yr elusen Meddygon Stryd a wnaeth dderbyn arian fel rhan o Strategaeth Ymateb Trais Difrifol Gogledd Cymru. Amcan y strategaeth ydy gweithio hefo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ar draws y rhanbarth. Mae'n canolbwyntio ar ddod â phartneriaid, yn cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau tân ac achub ac asiantaethau iechyd a chyfiawnder troseddol penodol at ei gilydd er mwyn ymdrin â thrais difrifol a'i achosion gwreiddiol.  Mae'r CHTh a'i swyddfa yn gweithredu fel cyd-gydlynydd ar gyfer y rhanddeiliaid hyn.

Ar 23 Hydref, aeth CHTh Andy Dunbobbin i sesiwn o'r prosiect yn Ysgol Uwchradd y Fflint, ble gwelodd weithgareddau drwy gydol y dydd gyda dosbarthiadau gwahanol o flwyddyn 9.  Yn yr ysgol, gwelodd y CHTh sesiwn am ddelio ag anaf gan gyllell a gwaedu. Tra bod myfyrwyr yn dysgu sut i weithredu yn syth wedi anaf gan gyllell, mae'r pwyslais ar osgoi dychryn pobl ifanc. Y nod yw eu grymuso gyda'r wybodaeth sut i atal gwaedu drwy weithred ymarferol. Y nod hefyd yw cael y myfyrwyr i ddeall y corff dynol a'r organau, trafod canlyniadau corfforol a seicolegol trais a gwerthuso'r dysgu ac archwilio'r parodrwydd i weithredu mewn argyfwng.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd hi'n bleser ymweld â Ysgol Uwchradd y Fflint a gweld y prosiect 'Meddygon Stryd' wrth eu gwaith.  Bydd y fenter, sy'n rhan o Strategaeth Ymateb Trais Difrifol Gogledd Cymru yn helpu gwella gwybodaeth o ganlyniadau trais ar iechyd meddwl.  Bydd hefyd yn cynnig sgiliau newydd i bobl ifanc a dealltwriaeth o beth i wneud mewn argyfwng, fel trywanu er enghraifft, neu os byddant yn dod ar draws rhywun sy'n anymwybodol. Dw i hefyd yn gobeithio gwella eu hyder a'u parodrwydd i gamu ymlaen a rhoi cymorth cyntaf i achub bywyd os oes angen.

"Mae trais difrifol yn cael effaith ddifrifol ar unigolion a chymunedau ar draws Gogledd Cymru.  Yn ystod 2022-23 cofnodwyd 30,000 o droseddau trais yn erbyn unigolion gan yr heddlu ar draws y rhanbarth.  Er bod hyn yn lleihad o'r flwyddyn flaenorol - ac yn dangos gwaith caled Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid yn y gymuned - dw i'n benderfynol o weld y ffigwr hwn yn disgyn yn is byth." 

Dywedodd James Warr, Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint: "Gyda chefnogaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, mae ‘Meddygon Stryd’ wedi rhoi mewnbwn gwerthfawr gyda phlant, pobl ifanc mewn ysgolion ac yn darparu gwybodaeth glir a defnyddiol ac ymarferol gyda'r nod o leihau effaith trais difrifol yn ein cymunedau.”

Dywedodd Phil Crandle, Rheolwr Gweithrediadau, Meddygon Stryd: "Yn yr elusen Meddygon Stryd, rydym yn credu bod pobl ifanc yn rhan o'r ateb i ddatrys trais yn y stryd. Drwy roi'r sgiliau i bobl ifanc a'r wybodaeth am effaith corfforol a seicolegol trais rydym yn rhoi'r gallu iddynt gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Yn 2023, canfuwyd fod 74% o bobl ifanc y buom ni'n gweithio gyda nhw wedi cynyddu eu gwybodaeth o effaith trais, gyda 71% wedi gwella eu hyder i weithredu gan ddefnyddio’r cymorth cyntaf roedden nhw wedi dysgu.

“Yn 2024 yn unig, rydym wedi hyfforddi dros 10,000 o bobl yn genedlaethol ac rydym yn falch ein bod ni wedi gweithio ar y cyd gyda Strategaeth Ymateb Trais Difrifol Gogledd Cymru i gefnogi'r lleihad mewn troseddau yn lleol."

Dywedodd Diane Jones, Arweinydd Rhaglen Troseddau Difrifol, Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Mae'r gwaith arloesol yn Sir y Fflint, gyda chefnogaeth partneriaid ar draws y rhanbarth yn dangos effaith gwaith gweithwyr proffesiynol wrth iddynt weithio yn uniongyrchol gydag ysgolion. Mae blaenoriaethu atal mewn ysgolion yn hanfodol, ac rydym wedi ymrwymo i ledaenu'r fenter hon i wledydd eraill."

Prif flaenoriaethau Strategaeth Ymateb Trais Difrifol Gogledd Cymru yw:

  • Cynorthwyo a gwella atal ac ymyrraeth gynnar ynghylch trais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV).
  • Hyrwyddo diogelu cyd-destunol er mwyn gweithio hefo plant a phobl ifanc sy'n agored i gam-fanteisio a/neu gaethwasiaeth fodern.
  • ⁠Nodi a gweithredu gwelliannau, arfer gorau ac arloesedd fel partneriaeth er mwyn ymateb i drais difrifol.
  • Adeiladu dull ataliol yng Ngogledd Cymru, drwy ddealltwriaeth o risg, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma.

Er mwyn dysgu mwy am y strategaeth a'i bwrpas ewch i: www.northwales-pcc.gov.uk/serious-violence-duty