Dyddiad
Mi allai Brexit gyfrannu at greu bwlch anferth o £5 miliwn yng nghronfa bensiynau Heddlu Gogledd Cymru dros y ddwy flynedd nesaf - a gallai olygu 133 yn llai o swyddogion heddlu neu gynnydd anferth yn y dreth gyngor.
Fe rybuddiodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru bod sefyllfa hyn yn oed yn waeth na hynny i ddod oherwydd y newidiadau sy’n cael eu cynnig i gynllun pensiwn yr heddlu. Byddai hynny'n gweld codiad o 10 y cant mewn cyfraniadau’r cyflogwr.
Byddai’r prinder o £1.9 miliwn y flwyddyn nesaf yn codi i bron £5.3 miliwn y flwyddyn mewn blynyddoedd ar ôl hynny, gan roi hyd yn oed fwy o straen ar wasanaeth yr heddlu.
Ar hyn o bryd, mae swyddogion sydd wedi ymddeol o’r heddlu yn cael eu pensiynau oddi wrth arian wedi ei gyfrannu gan swyddogion sy’n parhau i wasanaethu, cyfraniadau’r cyflogwr o’r gwasanaeth ei hun ac ychwanegiad o grant oddi wrth y Swyddfa Gartref.
Fodd bynnag, mae’r Swyddfa Gartref yn bwriadu cynyddu cyfraniad y cyflogwr, sef gwasanaeth yr heddlu – ond heb gynyddu’r arian i gyd-fynd gyda hynny.
Dywedodd Mr Jones mai un o’r prif resymau am yr ergyd arian pensiwn hon yw’r ansicrwydd sydd wedi ei achosi gan Brexit a’r ansicrwydd ynghylch a lwyddir i gael cytundeb neu beidio.
Mae’r newidiadau posibl hyn wedi’u seilio ar ragolygon economaidd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ac yn adlewyrchu’r ansicrwydd cyn y bleidlais Brexit, sy’n parhau i amharu ar y rhagolygon.
Ar draws y Deyrnas Unedig, mae’n debyg y bydd cynnydd o £165 miliwn yng nghost pensiynau yn 2019/20, cyn codi i £417 miliwn, a allai olygu 4,000 yn llai o swyddogion heddlu y flwyddyn nesaf, ac yn y pen draw 10,000 yn llai o 2020/21 ymlaen.
Yn ôl Mr Jones, mae’r cynigion hyn yn mynd yn groes i adolygiad swyddogol o bensiynau’r heddlu gan John Hutton, cadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Bensiynau Cyhoeddus, a oedd wedi ceisio sicrhau bod cyfraniadau’r cyflogwr i bensiynau sector cyhoeddus yn fforddiadwy.
O ganlyniad i hyn, y dewis amlwg bellach yw cynnydd anferth o £16.92 yn y prasesept i’r heddlu neu leihau nifer y swyddogion heddlu yng ngogledd Cymru.
Yn awr mae’r Comisiynydd wedi ysgrifennu at bob Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru. Mae'n tynnu sylw at ei bryderon ynghylch yr hyn mae’n ei alw’n bwysau ar gostau gwasanaeth yr heddlu i ogledd Cymru, pwysau nad oes modd ei fforddio ac sy’n ddiangen.
Mae wedi gwahodd y cynrychiolwyr etholedig i gyfarfod briffio gydag ef a’r prif gwnstabl newydd, Carl Foulkes, ym mis Ionawr.
Yn y cyfamser, mae’n galw ar y Llywodraeth i ailystyried y newidiadau hyn i’r drefn bensiynau, newidiadau a allai fod yn drychinebus.
Dywedodd Mr Jones: “Y cynigion ar hyn o bryd yw cael cynnydd o 9.7 y cant yng nghyfradd cyfraniad y cyflogwr, a allai gynyddu’r raddfa o 24.2 y cant i 33.9 y cant.
“Does gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ddim hawl, yn ôl y gyfraith, i osod cyllideb sydd ddim yn balansio. Felly rhaid cael yr arian hwn trwy gynyddu’r dreth gyngor, defnyddio’r arian sydd wrth gefn, neu leihau gwariant.
“Yng ngogledd Cymru, rydym yn amcangyfrif yn 2019/20 y bydd y gost yn £1.982 miliwn, a £5.286 miliwn ym mhob blwyddyn ar ôl hynny.
Dim ond unwaith y gallwn ni wario adnodd yr arian yn y cronfeydd wrth gefn, ac er y gallwn ei ddefnyddio yn y tymor byr, does dim modd parhau i ddibynnu arno. Felly rhaid i’r arian ddod o gyfuniad o doriadau a’r dreth gyngor.
Rydym wedi dioddef eisoes oddi wrth flynyddoedd o doriadau oherwydd llymder, ac mae’r gyllideb ar gyfer 2018/19 yn £31 miliwn yn is nag y byddai pe bai’r ariannu wedi parhau ar yr un raddfa â chwyddiant.
Mae hyn yn golygu bod £162 miliwn yn llai wedi cael ei wario ar wasanaeth Heddlu Gogledd Cymru yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf nag y byddai wedi digwydd fel arall.
Byddwn yn parhau i geisio cael arbedion effeithlonrwydd pellach ond mae pwysau annisgwyl a diangen fel hyn ar y costau yn rhoi straen fawr ar ein cyllidebau cyfyngedig ni.
Byddai gostyngiad o £1.982 miliwn pellach yn y gyllideb yn cyfateb yn fras i 50 swyddog o’r heddlu. Mae £5.286 miliwn yn tua 133 o swyddogion.
Mae’n sicr y byddai gostyngiad o’r maint yma yn nifer y gweithlu’n cael effaith ar y crynswth gwaith a morâl swyddogion, a hefyd yn cael effaith ar ddiogelwch ein cymunedau ar draws gogledd Cymru.
Er ein bod ni’n chwilio am arbedion eraill, mae costau staffio yn 80 y cant o’n cyllideb ac felly mae’n rhaid ystyried gostwng nifer y swyddi.”