Skip to main content

Gogledd Cymru yn rhannu yng nghronfa aml-filiynau'r Swyddfa Gartref i wneud strydoedd yn fwy diogel

Dyddiad

020921 PCC and Wayne Jones -7

25/7/22: Croesawodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru'r newyddion cyffrous heddiw fod ymgais am £1.5 miliwn o gyllid gan y Swyddfa Gartref i wneud strydoedd Gogledd Cymru yn fwy diogel wedi llwyddo. Bydd cyllid o bedwaredd rownd menter Strydoedd Diogelach yn cyfrannu tuag at gynorthwyo prosiectau yng Nghaergybi, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.

Mae'r Gronfa Strydoedd Diogelach yn rhaglen £75 miliwn gan y Swyddfa Gartref sy'n annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol i gynnig am fuddsoddiad am fentrau er mwyn atal trosedd cymdogaethau. Nod y prosiect ydy cynorthwyo ardaloedd sy'n dioddef trosedd ledled Cymru a Lloegr, fel byrgleriaeth ddomestig, lladrad, dwyn, trosedd cerbydau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn merched a genethod mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys yn yr economi nos.

Gweithiodd tîm y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau, ysgolion, gwasanaethau cyfiawnder a phartneriaid y trydydd sector i sicrhau fod y cynnig wedi cael cymaint o gefnogaeth a phosibledled yr ardaloedd sy'n derbyn cyllid.

Bydd prosiect Tref Caergybi ar Ynys Môn yn gweld £692,149 yn mynd tuag at brosiectau megis gwella goleuadau stryd o amgylch canol y dref a gosod goleuadau newydd a goleuadau wedi'u uwchraddio. Bydd hefyd yn gweld gosod 21 o gamerau CCTV; darparu pecynnau atal trosedd ar gyfer 250 eiddo i helpu atal troseddau cymdogaeth; a darparu patrolau heddlu i helpu fynd i'r afael a throseddau VAWG ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u hatal fel rhan o economi'r nos.

Bydd cronfa ymyrraeth ieuenctid a weinyddir ar y cyd gan swyddfa'r CHTh a Gwasanaethau Ieuenctid Caergybi yn cynorthwyo pobl ifanc. Bydd mentrau ac ymyriadau cyfoedion hefyd yn gwella gweithgareddau i ddifyrru bobl ifanc yng Nghaergybi, ar y cyd a darparu llochesi ieuenctid a gwaith allgymorth ieuenctid.

Ynghyd â swyddfa’r CHTh, sefydliadau eraill a oedd ynghlwm yn y cynnig oedd Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Tref Caergybi, Ysgol Uwchradd Caergybi a Gorwel sef darparwr cymorth cam-drin domestig.  

Yn Sir y Fflint, mae'r cynnig llwyddiannus yn targedu ardaloedd Shotton a Queensferry sy'n cyfateb i £385,125. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau gan gynnwys gosod camerâu ail-leoli, golau stryd a gwelliannau i'r dirwedd er mwyn cynorthwyo i wella gwyliadwriaeth naturiol. Bydd y cyllid hefyd yn targedu ardaloedd sydd wedi bod yn ganolbwynt trosedd caffael ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cynyddol. Bydd hefyd darpariaeth am waith datblygu cymunedol, gyda ffocws penodol ar bobl ifanc.

Y partneriaid a oedd ynghlwm yng nghynnig Sir y Fflint oedd Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a gwasanaethau ynghlwm mewn gweithio i atal trais yn erbyn merched yng Ngogledd Cymru.

Mae Wrecsam ar fin elwa o gyllid o £491,644 a fydd yn mynd tuag at sawl prosiect o amgylch dinas fwyaf newydd Gogledd Cymru. Bydd y cyllid yn galluogi Hyb Man Diogel yn Hafan y Dref i agor ar nos Wener er mwyn darparu llesiant a chymorth cyntaf i bobl yn yr economi nos. Mewn mannau eraill o Wrecsam, bydd cyllid o fenter Strydoedd Diogelach yn mynd tuag at grantiau i ysgolion a chymunedau ar gyfer prosiectau ymyrraeth ymddygiad gwrthgymdeithasol; pedwar o farsialiaid stryd ar gyfer yr economi nos am un flwyddyn; a darparu gorsaf heddlu dros dro yn Eagles Meadow. Bydd sawl diwrnod Parch Strydoedd Diogelach yn cynorthwyo i dargedu a chodi ymwybyddiaeth er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn merched a genethod. Bydd y cyllid hefyd yn darparu patrolau heddlu amlwg er mwyn cynorthwyo i ymdrin ac atal trais yn erbyn merched a genethod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.

Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam hefyd yn ymgysylltu gyda cholegau 6ed dosbarth, Prifysgol Glyndŵr a'r cyhoedd yn ehangach er mwyn cynorthwyo i gynyddu ymwybyddiaeth a chyfeirio unigolion at le gallent dderbyn cymorth am gam-drin domestig.

Ynghyd a'r CHTh, roedd Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stepping Stones a Chanolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru ynghlwm yng nghynnig Wrecsam.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae’n bleser gennyf fod ein hymgais am gyllid gan fenter Strydoedd Diogelach wedi llwyddo. Buaswn yn hoffi diolch i bawb ynghlwm am sicrhau ein bod wedi cael yr arian hwn ar gyfer Gogledd Cymru.

"Rwyf yn benderfynol fod trigolion ac ymwelwyr i Ogledd Cymru yn teimlo mor ddiogel â phosibl yn eu cymunedau. Bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell i ymdrin â rhai o'r llecynnau trosedd ledled y rhanbarth. O Gaergybi yn y gorllewin i Wrecsam yn y dwyrain, rwyf yn benderfynol o gyflwyno cymdogaethau diogelach a chynorthwyo dioddefwyr a chymunedau fel rhan o fy nghynllun plismona.”

Dywedodd Helen Corcoran, Uwcharolygydd Gwasanaethau Plismona Lleol yn Heddlu Gogledd Cymru: “Dyma enghraifft arall o sut y gall dull partneriaeth gref fod o fudd i ranbarth. Rwy’n falch iawn y byddwn yn gallu cefnogi’r mentrau rhagorol hyn a fydd yn mynd ymhell tuag at helpu pobl i fod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel yn eu cymunedau. Mae’n gyflawniad anferth a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.”

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Gynllunio, Iechyd Cyhoeddus a Gwarchod y Cyhoedd: "Rwyf yn croesawu'r newydd fod y Swyddfa Gartref wedi rhoi'r cyllid hwn i Sir y Fflint. Bydd yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd y bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal hon. Drwy fabwysiadu partneriaeth i ymdrin â throsedd ac anrhefn, gallwn wneud gwahaniaeth."

Croesawodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J Williams, y cyhoeddiad gan y Swyddfa Gartref.

Meddai Mr Williams: “Mae diogelwch cymunedol yn flaenoriaeth i ni fel Cyngor ac rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid, yn enwedig Heddlu Gogledd Cymru, er mwyn sicrhau bod Ynys Môn yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

“Bydd y cyllid Strydoedd Diogel sylweddol yn cael ei roi i ddefnydd da fel rhan o’r prosiect tref Caergybi; drwy uwchraddio goleuadau stryd a’r ddarpariaeth TCC yng nghanol y dref, mwy o batrolau amlwg, darparu pecynnau atal trosedd i gartrefi a chefnogi pobl ifanc drwy gronfa ymyrraeth ieuenctid.

“Mae’r cyllid hwn yn darparu gwir gyfle i wneud gwahaniaeth yng nghanol y dref ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â Chyngor Tref Caergybi, ein partneriaid yn y gwasanaethau brys a chefnogaeth gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y CHTh i gydnabod y gwaith sy’n mynd ymlaen yn Wrecsam. Bydd y cyllid pellach hwn yn gwella ac yn hybu’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel i bawb a bod cymorth a chyngor bob amser ar gael i’r rhai sydd angen cymorth a chefnogaeth.”