Dyddiad
Mae grŵp cymunedol lleol yn defnyddio cyllid a gafodd ei atafaelu gan droseddwyr er mwyn creu mynediad hyfryd a chroesawgar i ysbyty fwyaf gogledd ddwyrain Cymru. Roedd Garddwyr Cymunedol Wrecsam, ddechreuodd ym mis Medi 2023 ac sy'n dod â 25 o wirfoddolwyr 10 i 70 oed at ei gilydd, yn un o enillwyr diweddar cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis ar gyfer eu prosiect 'First Impressions' yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad ar draws Gogledd Cymru ac mae'n cael help Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r cyllid ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau, hefo'r gweddill yn dod gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Diben Garddwyr Cymunedol Wrecsam ydy gwella a thrin y libartiau a mannau gwyrdd eraill yn Ysbyty Maelor Wrecsam er budd pob claf, staff ac ymwelydd. Nod y prosiect a dderbyniodd gyllid sef 'First Impressions' ydy adnewyddu a phlannu'r mannau gwyrdd o amgylch y tri phrif fynediad i'r ysbyty – y Prif Fynediad, Mynediad yr Adran Frys a Mynediad B. Ar ôl siarad hefo adran stadau, swyddogion diogelwch a rheolwyr yr ysbyty, cafodd yr ardaloedd hyn eu nodi fel bod angen gwella er mwyn argraff gyntaf well a chroeso i'r safle, gan annog cyrhaeddiad tawelach a llawer mwy deniadol i bawb.
Ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru hefo'r grŵp ar 12 Mawrth er mwyn gweld y prosiect ar waith. Clywodd fwy am lwyddiannau'r grŵp a'i ddyfalbarhad wrth drin a gwella safle'r ysbyty. Tra roedd yno, fe wnaeth y Comisiynydd gyfarfod hefo Ruth Tesdale sef Cadeirydd y Grŵp, cyd wirfoddolwyr a chynrychiolwyr o'r ysbyty.
Dywedodd Ruth Tesdale, Cadeirydd, Garddwyr Cymunedol Wrecsam: "Mae gerddi a garddio o fudd i iechyd. Drwy gydweithredu hefo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Garddwyr Cymunedol Wrecsam yn gweithio er mwyn creu gerddi lles a therapiwtig yn Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn bod o fudd i gleifion a staff.
"Gan ddefnyddio'r cyllid hael gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, PACT a Heddlu Gogledd Cymru, 'da ni'n gwella'r mynedfeydd hefo gerddi er mwyn codi ysbryd pawb sy'n cyrraedd. 'Da ni'n teimlo'n freintiedig cael y cyfle hwn er mwyn helpu ysbyty sy'n cyffwrdd bywydau ac sydd hefo lle arbennig yng nghalonnau pawb yn y gymuned."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rhan hanfodol o fy nghynllun plismona a threchu trosedd yng Ngogledd Cymru ydy helpu cymunedau. Mae'r grŵp o arddwyr gwirfoddol yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn llawn o ysbryd cymunedol.
"Roedd yn bleser ymweld â nhw a dysgu am eu gwaith caled er mwyn creu croeso mwy deniadol i bawb sy'n ymweld, gweithio neu'n cael eu trin yn yr ysbyty."
Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd PACT: “Efallai fod llawer o bobl sy'n ymweld â'r ysbyty yn nerfus, digalon neu'n sâl. Mae'n bwysig fod yr argraffiadau cyntaf yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw ac yn gwneud eu cyrhaeddiad mor groesawgar â phosibl. Dyna pam fod prosiectau fel hyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam mor bwysig. Dyna pam hefyd ein bod yn falch yn PACT o allu helpu'r grŵp sydd yn eu tro yn helpu pawb sydd hefo cysylltiad hefo lle sydd wrth galon y gymuned leol. ”
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru'n falch o helpu'r prosiect hwn drwy gyllid Eich Cymuned Eich Dewis. Mae llefydd sy'n cael eu gofalu amdanynt yn helpu creu ymdeimlad ehangach o les yn y gymuned ac yn annog pobl eraill drin mannau hefo parch a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Garddwyr Cymunedol Wrecsam hefyd yn dod ag aelodau o bob oed a chefndir at ei gilydd. Mae hyn yn helpu creu'r cysylltiadau a'r profiadau a rennir sy'n gwneud ein cymuned yn gryfach eto."
Dros yr un mlynedd ar ddeg ers dechrau Eich Cymuned, Eich Dewis, mae dros £600,000 wedi cael ei roi i bron 200 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu broydd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Police and Crime Plan.
Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar: www.pactnorthwales.co.uk
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am Arddwyr Cymunedol Wrecsam, ewch ar: https://www.wrexhamcommunitygardeners.org