Skip to main content

Gwahoddiad i brosiectau cymunedol i wneud cais am arian

Dyddiad

Your Community, Your Choice
Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer menter Eich Cymuned, Eich Dewis 2023 bellach wedi cau.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth y Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru (PACT), a Heddlu Gogledd Cymru yn dathlu deng mlynedd o ariannu prosiectau yn 2023 ac i ddathlu'r garreg filltir hon, mae'r arian sydd ar gael i wneud cais amdano wedi dyblu i £120,000.  

Ers y dechrau mae Eich Cymuned, Eich Dewis wedi noddi prosiectau sy'n dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd, gan greu cymuned fwy diogel i bawb.

Dros y deng mlynedd diwethaf  mae cyfanswm o dros £428,792 wedi cael ei roi i 149 o brosiectau yn gweithio i gefnogi'r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throsedd

Mae'r arian sydd ar gael i'r prosiectau buddugol ar gyfer rownd nesaf y fenter wedi codi i gyfanswm o £120,000, wedi ei rannu ar draws 33 prosiect.

  • Bydd pedwar prosiect ym mhob un o'r 6 sir yn y gogledd yn derbyn £2,500.
  • Bydd un prosiect ymhob un o'r 6 sir yn y gogledd yn derbyn £5,000.
  • Bydd tri phrosiect yn y gogledd yn derbyn £10,000

Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Bydd y cyfle i wneud cais eleni yn agor ar 9 Ionawr 2023 ac yn cau ar 3 Chwefror 2023. Bydd manylion ar sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi maes o law ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â gwefannau PACT & Heddlu Gogledd Cymru :

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei chyhoeddi gan banel yn cynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal â PACT a chynrychiolwyr Heddlu Gogledd Cymru.  Bydd yr enillwyr wedyn yn cael eu dewis ar sail pleidlais gyhoeddus.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Ro'n i'n un o banel Eich Cymuned Eich Dewis am y tro cyntaf yn 2021 ac ro'n i'n edmygu safon y prosiectau ymhob cais.  Eleni, rwyf yn edrych ymlaen at weld rhagor o brosiectau cyffrous a chreadigol yn gwneud cais am arian. Mae cymaint o sefydliadau yn gwneud cymaint o waith da ar draws yr ardal, felly mae'n bleser gallu eu cefnogi nhw a'u gweld yn tyfu a pharhau gyda’u gwaith.  

“Mae eleni yn arbennig o bwysig gan bod y fenter yn ddeg oed. Rwyf hefyd yn falch o weld y blaenoriaethau hyn o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn cefnogi'r prosiectau gwerth chweil hyn. 

"Rwyf yn annog unrhyw un sy'n rhan o brosiect cymunedol neu fenter sy'n cwrdd â'r meini prawf i wneud cais. Mae hyn yn arbennig o wir eleni oherwydd y cynnydd yn yr arian rydym yn ei rannu fel rhan o'r dathlu.  Gan fod y prosiectau terfynol yn cael eu dewis gan y cyhoedd hoffwn hefyd i'r prosiectau sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth eu cymunedau ac yn annog y gymuned i bleidleisio.

Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: “Gan ein bod ni'n dathlu ein degfed flwyddyn hoffwn ddweud mor falch yr wyf i o fod yn rhan o'r garreg filltir hon.

"Mae'r prosiectau sydd eisoes wedi cael arian o'r gronfa yn y gorffennol wedi defnyddio'r arian at ddefnydd gwerth chweil a hoffwn weld hyn yn parhau unwaith eto eleni.

“Fel rhan o'n dathliadau, rydym wedi codi'r swm ar gyfer 2023. Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn galed i nifer o sefydliadau a phrosiectau, ond gyda mwy o arian, gobeithio y bydd cymaint o fentrau â phosib yn gwneud cais."

Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais ewch i www.northwales-pcc.gov.uk, y cyfryngau cymdeithasol neu Gwefan PACT a Heddlu Gogledd Cymru neu:

E-bost: yourcommunityyourchoice@northwales.police.uk

Ffon: 01745 588516

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer menter Eich Cymuned, Eich Dewis 2023 bellach wedi cau.