Skip to main content

Gwarchod Cymdogaeth yn lansio ei ymgyrch recriwtio mwyaf

Dyddiad

NWATCH - BETTER PLACE TO LIVE

Mae Gwarchod Cymdogaeth wedi lansio ymgyrch newydd - ei ymgyrch recriwtio mwyaf yn y blynyddoedd diweddar - i annog pobl i gyfrannu at eu cymuned a lleihau ofn a thebygrwydd o drosedd. Bydd yr ymgyrch LLE GWELL I FYW yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn.  Mae'n defnyddio logo newydd, sydd wedi cael ei lansio fel partner modern a fydd yn eistedd ochr yn ochr â'r logo traddodiadol.

Mae 'lle gwell i fyw', wrth reswm, yn rhywbeth yr hoffai pob un ohonom ei gyflawni - boed hynny trwy wneud ffrindiau newydd, edrych ar ôl ein hamgylchedd, cefnogi ein cymdogion, lleihau ynysiad ac unigrwydd, neu weithio gyda'n gilydd i leihau ofn trosedd a chyfleoedd i bobl gyflawni trosedd.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei gyflwyno mewn trefi, dinasoedd a phentrefi ledled Cymru a Lloegr, a bydd yn cael sylw arbennig yn ystod Wythnos Gwarchod Cymdogaeth rhwng y 3ydd a'r 9fed o Fehefin. Mae hefyd wedi cael ei lansio ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol a gwefan Gwarchod Cymdogaeth. Mae'r ymgyrch yn annog pobl i chwarae mwy o ran ym mudiad atal trosedd gwirfoddol mwyaf Cymru a Lloegr.

Mae'r elusen yn cefnogi ei degau o filoedd o wirfoddolwyr i ledaenu'r neges yn eu cymunedau. Mae’n gwneud hyn trwy ddarparu adnoddau wedi eu hargraffu a digidol ac arweiniad mewn gweithdai ar-lein trwy gydol y flwyddyn. Mae cydgysylltwyr yn cael cefnogaeth i gynyddu eu haelodaeth ac annog pobl eraill i ddechrau eu grwpiau eu hunain.  Mae cydgysylltwyr hefyd yn gallu cefnogi ei gilydd i fynd i'r afael â phroblemau lleol trwy fforwm ar-lein a chyfleoedd hyfforddiant.

Meddai John Hayward-Cripps, Prif Swyddog Gweithredol Gwarchod Cymdogaeth: "Mae'r argyfwng costau byw a'r pandemig wedi pwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau yn y gymdogaeth a'r gymuned wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysiad, yn ogystal â'n gwaith hollbwysig yn atal trosedd. Mae gennym ni enw da am ddod â chymunedau at ei gilydd a'u helpu nhw i deimlo'n fwy diogel mewn byd sy'n fwy ansicr."

Sefydlwyd Gwarchod Cymdogaeth dros 40 mlynedd yn ôl, a daeth cymdogion at ei gilydd i ofalu am ei gilydd ac i wella eu cymunedau. Ers hynny, mae wedi helpu pobl i ddatblygu cymdogaethau mwy bywiog, gyda phwyslais ar atal trosedd.  Nid yw Gwarchod Cymdogaeth yn gyfyngedig i gynlluniau stryd yn unig mwyach. Enghraifft o hyn yw Siarter Diogelwch Cymuned yr elusen, sy'n galluogi pobl a busnesau lleol i sefyll yn gadarn yn erbyn trosedd mewn mannau cyhoeddus, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau casineb, bygythion ac  aflonyddu.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Rwyf yn falch o gefnogi lansiad yr ymgyrch Gwell Lle i Fyw gan Gwarchod y Gymdogaeth. Mae’n bartner gwerthfawr wrth wneud ein cymunedau’n fwy diogel a chreu cysylltiadau ymysg trigolion lleol ledled y meysydd mae ar waith.

“Rwyf wedi credu erioed drwy gynnwys y gymuned ehangach mewn mentrau fel Gwarchod y Gymdogaeth, gallwn wneud gwahaniaeth mawr wrth atal trosedd yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Buaswn yn annog unrhyw drigolyn sy’n meddwl ymuno â’u cynllun lleol i ddilyn yr ymgyrch hon a chymryd rhan.”

Mae Gwarchod Cymdogaeth wedi mabwysiadau logo newydd yn ddiweddar, sy'n cael ei alw'n logo 'heddiw' yn hytrach na'i logo 'traddodiadol' a gafodd ei ddiweddaru yn 2017. Mae'r ddau logo yn defnyddio'r cylch melyn cyfarwydd i sicrhau bod pobl ledled Cymru a Lloegr yn dal i adnabod y brand amlwg.

Mae'r logo 'traddodiadol' yn dangos y gydberthynas wych rhwng yr heddlu a'r gymuned sydd, mewn rhai ardaloedd, yn gwbl ganolog i grwpiau Gwarchod Cymdogaeth. Mae'r ffigyrau retro yn adlewyrchu hirhoedledd Gwarchod Cymdogaeth - sydd wedi cael ei sefydlu mewn cymunedau ers dros 40 mlynedd. Efallai y bydd yn well gan rai ardaloedd barhau i ddefnyddio'r logo hwn gan ei fod yn cynrychioli eu grŵp nhw'n well.

Crëwyd logo 'heddiw' Gwarchod Cymdogaeth yn sgil sylwadau arbennig o gadarnhaol am y logo dros dro ar gyfer pen-blwydd 40 oed y mudiad, a lansiwyd yn 2022 ar gyfer y flwyddyn honno'n unig. Mae'n dangos tri ffigwr yn y lliwiau craidd ac mae'n cydnabod a dathlu amrywiaeth. 

Mae aelodau'r cyhoedd wedi dweud bod tri pheth wedi eu rhwystro nhw rhag ymuno â'u tîm Gwarchod Cymdogaeth lleol: nid oeddent yn siŵr a oedd grŵp yn eu hardal, nid oeddent yn gwybod pwy arall oedd yn rhan ohono, neu nid oedd neb wedi gofyn iddyn nhw ymuno. Nod yr ymgyrch yw rhoi sylw i'r amheuon hyn, yn arbennig ymysg grwpiau nad ydynt yn cael digon o gynrychiolaeth yn yr elusen, gan gynnwys pobl 25 i 40 oed a phobl mewn ardaloedd gyda lefel uchel o drosedd.

Er mwyn cyrraedd cynulleidfa iau, mae'r elusen wedi recriwtio gweithiwr prosiect ieuenctid ac ymddiriedolwr ifanc, yn ogystal â sefydlu presenoldeb sefydlog ar Instagram. Mae ei gylchgrawn Lookout Magazine, a ddatblygwyd gyda myfyrwyr, wedi codi ymwybyddiaeth myfyrwyr am bynciau fel sbeicio diodydd, cadw'n ddiogel ar noson allan, seiberddiogelwch, ac iechyd meddwl. O ganlyniad i'r camau hyn, rhwng 2020 a 2021, ymwelodd pedair gwaith cymaint o bobl 18 i 24 oed â gwefan Gwarchod Cymdogaeth o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch LLE GWELL I FYW yn sbarduno pobl yn yr un modd i gymryd rhan ac ymaelodi.