Skip to main content

Gwasanaeth camdriniaeth ddomestig, Gorwel yn penodi dau ddyn yn aelodau newydd o staff i ehangu'r gefnogaeth sydd ar gael

Dyddiad

PCC Gorwel 15.12

Mae penodi  Alan Jones, Cynghorwr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) ac Arron Roberts, Gweithiwr Plant a Phobl ifanc  dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn ychwanegiad i'w groesawu i Gorwel, gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan Grŵp Cynefin, sy'n gweithredu yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig. 

Yn ôl Prif Swyddog Gorwel, Osian Elis, crëwyd y swyddi i lenwi 'bwlch yn narpariaeth y gwasanaeth' er mwyn rhoi cefnogaeth i rai sy'n dioddef cam-drin domestig gan weithwyr proffesiynol, sy'n ddarpariaeth nad oedd ar gael cyn hynny yn y sefydliad. Mae gwaith y ddau gynghorydd newydd wedi cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sy'n comisiynu Gorwel i ddarparu gwasanaeth hanfodol i ddioddefwyr yn yr ardal.

Sylwyd ar yr angen am gynghorwyr gwrywaidd yn dilyn cyfnodau clo Covid-19, pan welodd Gorwel gynnydd mawr mewn niferoedd yn gofyn am y gwasanaeth, gyda chynnydd yn nifer y dioddefwyr a thystion gwrywaidd o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.

Mae rôl Alan fel IDVA yn golygu ei fod yn rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr risg uchel sydd wedi cael eu cyfeirio at Gorwel drwy wasanaethau'r heddlu neu wasanaethau statudol/trydydd sector. Gall dyletswyddau yn y rôl gynnwys gwneud gwaith cynllunio yn ogystal â chefnogi dioddefwyr yn y llys.

Mae IDVAs yn gweithio i fynd i'r afael â diogelwch pobl sydd mewn perygl mawr o drais domestig gan bartneriaid, cyn-bartneriaid ac aelodau o'r teulu i sicrhau eu diogelwch a diogelwch eu plant. Yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt mae IDVA yn gweithio fel arfer gyda'u cleientiaid o bwynt argyfwng i asesu'r perygl, adolygu'r dewisiadau a datblygu a rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau eu diogelwch tymor byr yn ogystal â datrysiadau tymor hir. Bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys gweithrediadau o'r Gynhadledd Asesu Risg Aml Asiantaeth (MARAC) yn ogystal â sancsiynau ac atebion sydd ar gael drwy'r llysoedd troseddol a'r llysoedd sifil, tai a gwasanaethau sydd ar gael drwy sefydliadau eraill.  

Mae achosion Arron yn canolbwyntio ar bobl ifanc 5-15 oed sy'n dioddef neu sydd wedi profi dioddef cam-drin domestig, drwy ddarparu cyngor, sefydlu cynlluniau cefnogi a diogelwch a hyrwyddo'r syniad o berthynas iach o fewn y cartref er mwyn adeiladu gwydnwch a strategaethau ymdopi cadarnhaol.

Drwy gydol 2021 mae gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Gorwel wedi gweld 392 o achosion gweithredol o blant a phobl ifanc yn chwilio am gefnogaeth. O Ionawr-Mehefin 2022 bu 262 o achosion byw, sy'n profi'r galw am y gefnogaeth y mae Gorwel yn cynnig.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin:  “Mae'r gwaith mae Gorwel yn gwneud yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yn hanfodol ac rwyf yn falch o'u gweld yn ehangu eu gwasanaethau drwy'r arian sydd yn cael ei roi gan fy swyddfa.

"Mae pwysigrwydd y gwaith y mae Gorwel yn gwneud ar draws Ynys Môn a Gwynedd a'r profiad a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn dweud y cyfan.

“Mae dioddefwyr cam-drin domestig wedi wynebu mwy o heriau na'r arfer o ystyried y pandemig ac effaith y cyfnod clo ac rwyf yn falch bod gwasanaeth fel Gorwel ar gael i ddarparu cefnogaeth i ddioddefwyr a thystion ac i'w helpu i wella."

Dywedodd Prif Swyddog Gorwel, Osian Elis: "Mae penodi Alan ac Arron wedi bod yn fantais fawr i'r tîm yma yn Gorwel, ac mae eu profiad a'u hymroddiad wedi bod yn fuddiol i bawb, yn enwedig gan eu bod yn siarad Cymraeg. 

“Wrth gefnogi nifer fawr o blant o fewn y gwasanaeth, sylwyd bod rhai bylchau o fewn y gefnogaeth; y prif wendid oedd nad oedd gan rai plant fodel rôl gwrywaidd cadarnhaol."         

“Mae'n bwysig bod penodi IDVA gwrywaidd a gweithiwr Plant a Phobl Ifanc gwrywaidd nid yn unig o fudd i ddynion a bechgyn sydd angen ein help, ond rydym hefyd wedi cael cais gan ferch sy'n defnyddio'r gwasanaeth sy’n dymuno cael Gweithiwr Plant a Phobl Ifanc gwrywaidd gan fod hyn yn ateb ei gofynion hi yn well ac yn ei galluogi i roi gwybod beth yw ei hanghenion hi yn well.

“Mae enghreifftiau fel hyn yn profi ein bod ni nawr yn gallu cynnig gwell dewis ac yn cyflenwi'r dull person-ganolog i'n gwasanaethau ac yn cynnig y gefnogaeth orau gyda'r adnoddau iawn."

Mae Gorwel yn rhan o'r Grŵp Cynefin sy'n cynnig cefnogaeth ddwyieithog i bobl sy'n wynebu sefyllfaoedd anodd gyda ffocws arbennig ar fynd i'r afael â cham-drin domestig ac atal digartrefedd. Mae wedi ei leoli'n ddwfn yng nghymunedau Gogledd Cymru ac ar hyn o bryd yn gweithio ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych.

Mwy o wybodaeth ar Gorwel yma.