Skip to main content

Gwasanaeth hanfodol i ferched bregus yn agor dwy ganolfan newydd

Dyddiad

291121- DPCC-1

I gysylltu â Chanolfan Merched Gogledd Cymru ac i gael cefnogaeth ewch i https://northwaleswomenscentre.com/ neu ffoniwch 01745-339331.


Mae gwasanaeth hanfodol sy'n amddiffyn merched bregus ledled gogledd Cymru yn bwriadu agor dwy ganolfan gyswllt newydd yn Wrecsam a Bangor er mwyn estyn allan at y rhai mewn angen.

Gorfodwyd Canolfan Merched Gogledd Cymru, yn y Rhyl, i gau ei drysau yn ystod y cyfnod clo, gan atal merched rhag defnyddio ei wasanaeth galw heibio.

Yn awr mae’r Ganolfan wedi ailagor ac yn lansio ei swyddfeydd Braenaru newydd yn Wrecsam a Bangor ac mae Gemma Fox, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan, wedi croesawu hynny.

Cafodd rhaglen Braenaru, sy'n ceisio helpu merched sydd mewn perygl o droseddu, ei chomisiynu a’i hariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin.

Mae'n darparu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i ferched bregus, sy’n aml yn dioddef o broblemau fel camddefnyddio alcohol a sylweddau, problemau iechyd meddwl a pherthnasoedd teuluol anodd, er mwyn lleihau’r niferoedd sydd yn y system cyfiawnder troseddol ac ar yr un pryd helpu’r merched yma i fyw bywydau mwy diogel ac iach.

Dywedodd Gemma Fox: “Dyma lefydd sy’n fannau croesawgar, cynnes a chyfeillgar lle gall merched sydd wedi bod trwy drawma gael tawelwch meddwl a chyfle i gael sgyrsiau cyfrinachol mewn amgylchedd diogel.

“Rydym yn gwybod y gall y canolfannau hyn annog merched i ailadeiladu eu bywydau a heb gymorth y Comisiynydd ni fyddem wedi gallu bwrw ymlaen â'r cynlluniau

“Bydd dychwelyd i weithio wyneb yn wyneb yn annog merched i geisio cefnogaeth eto oherwydd yn ystod y pandemig nid oedd modd cael y cyswllt personol yna.

“Rydyn ni'n dechrau gweld cynnydd yn y galw ac rydyn ni'n disgwyl i hyn dyfu wrth i ganlyniadau economaidd y pandemig ddod i’r amlwg ac yn dilyn y gostyngiad mewn budd-daliadau.”

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Wayne Jones: “Rydym yn awyddus iawn i gefnogi gwaith parhaus y Ganolfan i gyfeirio merched i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol lle bynnag y bo modd.

“Rydyn ni’n gwybod yr effaith y gall dedfryd ei chael ar deulu a dyna pam rydyn ni am barhau â’n cefnogaeth ac rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Ganolfan yn agor canolfannau newydd yn Wrecsam a Bangor i wneud ei gwasanaethau’n fwy hygyrch i ferched ar draws y Gogledd.

“Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun pa mor ddefnyddiol y gall y gwasanaethau hyn fod i ferched sydd mewn perygl, gan gynnwys y rhai sy’n dod i’r Ganolfan ac sydd eisiau newid eu bywydau.

“Mae gan y Ganolfan record ragorol o gefnogi merched sydd mewn sefyllfaoedd anodd a’u dargyfeirio i ffwrdd o’r carchar.

“Mae Covid wedi dod â heriau ychwanegol gyda’r gostyngiad mewn cyfleoedd i gyfarfod wyneb yn wyneb ond maen nhw wedi parhau i wneud gwaith rhagorol ac mae’n wych eu bod nhw bellach yn gallu datblygu gwasanaethau ledled y Gogledd.”

Dywedodd Yvonne Wild, Rheolwr Prosiect yn y Ganolfan: “Mae merched yn dod atom trwy wahanol lwybrau, nid yn unig merched sy’n cael eu hatgyfeirio gan yr heddlu neu ferched sydd wedi cyflawni troseddau, ond hefyd merched sydd mewn perygl o droseddu.

“Yn aml, nhw yw'r rhai sy'n ddigartref neu sydd â phroblemau alcohol neu gyffuriau, dioddefwyr cam-drin domestig a'r rhai sydd mewn anhawster ariannol, yn enwedig gyda'r gostyngiad mewn Credyd Cynhwysol.

“Mae yna bobl hefyd wedi colli swyddi, yn enwedig mewn ardal fel y Rhyl sy'n un o'r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ond hefyd ym Mangor ac yn Wrecsam lle rydyn ni'n cael y nifer fwyaf o atgyfeiriadau.

“Bu cynnydd yn y niferoedd sy’n ceisio cefnogaeth gyda cham-drin domestig a phroblemau tai ac nid yw wedi helpu nad yw merched wedi gallu galw i mewn yn ystod y cyfnod clo.

“Fodd bynnag, roeddem yn falch iawn o ailgychwyn ein gwasanaeth galw heibio dydd Mercher yn y Rhyl ym mis Medi lle gall merched alw heibio heb apwyntiad.”

I gysylltu â Chanolfan Merched Gogledd Cymru ac i gael cefnogaeth ewch i https://northwaleswomenscentre.com/ neu ffoniwch 01745-339331.