Skip to main content

Gweinidog a CHTh Gogledd Cymru yn ymweld â Bangor i weld sut mae mynd i'r afael a cham-drin geiriol yn y sector manwerthu

Dyddiad

Dyddiad
OPCC

Ar 27 Awst, ymwelodd Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant AS, ac Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â siop Boots ar y Stryd Fawr ym Mangor er mwyn dysgu mwy am y mesurau sydd mewn lle i sicrhau bod staff manwerthu yn cael eu diogelu rhag cam-drin geiriol a chorfforol. Digwyddodd yr ymweliad flwyddyn ar ôl lansio Cynllun Gweithredu Manwerthu Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys camau i fynd i'r afael a cham-drin gweithwyr mewn siopau.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf o Arolwg Troseddau BRC 2024, bu dros 475,000 o ddigwyddiadau treisgar yn erbyn gweithwyr ym maes manwerthu yn ystod 2022-23 ar draws y DU. Golyga hyn 1,300 digwyddiad y dydd, a oedd yn gynnydd o fwy na 850 y dydd yn 2021-22 a bron i dair gwaith yn fwy na'r ffigwr cyn y pandemig o 450 yn ystod 2019-2020. Dim ond 36% o ddigwyddiadau o drais a cham-drin a gafodd eu riportio i'r heddlu gan fanwerthwyr.

Mae Boots wedi bod yng nghanolfan siopa Bangor am ddegawdau, wrth ymyl canolfannau siopa Menai a Deiniol. Mae Bangor wedi gweld newid mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil newid mewn arferion siopa a achoswyd gan y pandemig. Serch hynny mae ymroddiad cadarn ymysg y gymuned leol, perchnogion busnes ac awdurdodau lleol i weld y ganolfan siopa yn adfywio, ac iddi fod yn le dymunol i siopwyr a staff manwerthu fel ei gilydd.

Yn ystod eu hymweliad â'r siop, cyfarfu Mr Sargeant a Mr Dunbobbin â Rheolwr Boots Bangor sef Fiona Evans a'i thîm, yn cynnwys cydweithwyr o'r adran ddiogelwch. Buont yn trafod y math o gam-drin mae staff yn ei ddioddef yn y siop ac yn y fferyllfa; sut mae mynd i'r afael a'r problemau; y gefnogaeth maent yn ei dderbyn gan sefydliad Boots yn ehangach a dangoswyd eu defnydd o gamerâu corff a system rhybuddio ddiwifr ar gyfer digwyddiadau bygythiol.  Bu trafodaeth bositif ymysg pawb am ffyrdd i wella'r problemau hyn drwy weithio mewn partneriaeth ac archwilio ffyrdd o greu amgylchedd mwy diogel i staff a chwsmeriaid.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Roedd yn bleser cwrdd â'r Gweinidog yn Boots ym Mangor a chlywed mwy am ymroddiad cadarn Llywodraeth Cymru i daclo cam-drin a thrais tuag at staff manwerthu. Rwyf yn cefnogi ymgyrch ShopKind yn frwd er mwyn taclo trais a cham-drin yn erbyn gweithwyr mewn siopau ac rwyf yn cydnabod pwysigrwydd rôl undebau llafur fel Usdaw yn cefnogi diogelwch gwell i bobl sy'n gweithio mewn siopau. Roedd atal troseddau ym maes manwerthu yn rhan allweddol o fy maniffesto pan gefais fy ail-ethol fis Mai eleni. 

“Mae gan staff manwerthu'r hawl i weithio a theimlo'n ddiogel ac mae gan berchnogion busnesau'r hawl i wybod bod yr heddlu yna iddynt os yw'r gwaethaf yn digwydd. Dw i'n gwybod bod y farn hon yn cael ei rhannu gan Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman a'i swyddogion. Gobeithio y bydd Llywodraeth newydd y DU yn symud ymlaen gyda chyfraith newydd a fydd yn gwneud ymosod ar weithwyr siopau yn drosedd ar ei ben ei hun ac rwyf yn edrych ymlaen at bartneriaeth agos yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn lleihau trais tuag at weithwyr siopau wrth i'w cynllun arloesol gael effaith pellach."

Dywedodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant: “Rydym yn poeni'n arw am y nifer o droseddau manwerthu sy'n digwydd, nid yn unig mae'n niweidiol i'r sector, ond mae'n cael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch gweithwyr mewn siopau. Mae'r gweithgaredd troseddol hwn yn creu ofn ac ansicrwydd i gwsmeriaid a'r gymuned ehangach - mae taclo hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch y cymunedau hyn, ac mae'n ffocws allweddol yn ein hymgyrch ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru,  Comisiynwyr a'r diwydiant manwerthu.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu ar eu hymroddiad i wneud ymosod ar weithiwr mewn siop yn drosedd benodol yng Nghymru a Lloegr ac i adeiladu ar ein Cynllun Gweithredu ar Fanwerthu, sy'n cynnwys ein huchelgais i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar gyfer y sector manwerthu sy'n cyflawni ar gyfer cymunedau, busnesau a gweithwyr.

“Mae rhain yn gamau positif tuag at sicrhau amgylchedd mwy diogel i bawb sy'n ymwneud â'r sector manwerthu."

Lansiwyd cynllun Gweithredu ar gyfer Manwerthu Llywodraeth Cymru ‘Cydweithio Er Budd Manwerthu', flwyddyn yn ôl gan ymrwymo'r llywodraeth i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throsedd yng Nghymru i fynd i'r afael â cham-drin geiriol a chorfforol ar weithwyr siopau.  Canolbwynt y cynllun yw gwella rhagolygon yn y sector manwerthu a'r rhai sy'n gweithio ynddo.

Cynllun gweithredu penodol yw gweithio gyda'r sector manwerthu a rhanddeiliaid eraill fel yr heddlu, Ardaloedd Gwella Busnes a chynghorau lleol i sefydlu mwy o bartneriaethau a mentrau ym maes atal troseddau. Mae'r cynllun hefyd yn hyrwyddo ymgyrchoedd i atal troseddau manwerthu drwy godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a busnesau llai.