Skip to main content

Gweithdy am ddiogelwch ffyrdd yn ymweld ag ysgolion

Dyddiad

Denbigh Eirias

Bu Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym ymweld ag Ysgol Eirias ym Mae Colwyn ar 21 Mehefin i ddysgu mwy am sut mae arian wedi ei atafaelu oddi wrth droseddwyr yn ariannu prosiect sy'n anelu at wneud ein pobl ifanc yn fwy diogel ar y ffyrdd. Roedd CHTh yno yn dyst i berfformiad gan Weithdy Dinbych ar ddiogelwch ar y ffyrdd i bobl ifanc yn yr ysgol. Mi wnaeth yr ymweliad alluogi'r Comisiynydd i ddysgu mwy am weithgareddau Gweithdy Dinbych, i gwrdd â'r tîm a phobl ifanc sy'n rhan o'r peth ac i weld sut mae'r arian wedi cael ei fuddsoddi a sut mae'n ymgysylltu myfyrwyr.

Mae Gweithdy Dinbych, elusen celfyddydau cymunedol sy'n hyrwyddo datblygiad personol a chymunedol, addysg a newid positif, wedi derbyn £5,000 gan PACT Eich Cymuned, Eich Dewis i helpu ariannu prosiect 'It Can Happen To You' ac i gyflwyno gweithdai perfformio mewn ysgolion ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Sicrhawyd yr arian cyn y pandemig, ond dim ond nawr mae Gweithdy Dinbych wedi gallu cynnal y perfformiadau yn dilyn y pandemig.  Y mis hwn, yn ychwanegol i Ysgol Eirias maent yn ymweld ag Ysgol John Bright, Coleg Dewi Sant, Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Morgan Llwyd.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth y Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru (PACT), sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae dros £400,000 wedi'i roi i achosion haeddiannol ac mae llawer ohono wedi'i adennill drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr, gyda'r gweddill yn dod o Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae Gweithdy Dinbych wedi ei sefydlu yn HWB yn Ninbych ac maent yn gweithio gyda phanel iechyd yn cynnwys pobl ifanc o 10-17 oed, o nifer o gefndiroedd gwahano. Gofynnwyd iddynt beth ddylid ei wneud am bobl ifanc yn colli eu bywydau ar y ffordd. Roedd eu hymateb y glir - gweithdai mewn ysgolion sy'n pwysleisio peryglon anwybyddu diogelwch ffyrdd a'r effaith ar fywyd teuluol. Ysgrifennodd Gweithdy Dinbych y sgript wreiddiol mewn ymgynghoriad â swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru yn pwysleisio'r 5 Angheuol.

Mae'r gweithdai perfformiad rhyngweithiol yn cael ei gyflwyno gan ddau actor/hwylusydd profiadol ac wedi ei anelu at ddisgyblion blwyddyn 12/13. Mae ein sesiynau'n canolbwyntio ar y swyddog heddlu cyntaf i gyrraedd y fan a'r lle ac effaith aruthrol colli mab ar fam.  Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu hysgwyd gan y darn y maent newydd ei weld. Mae wedyn yn help i ffurfio atgof gweledol o faint o fywydau sy'n cael eu heffeithio gan ddigwyddiad fel hwn ar y ffordd.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae gwella diogelwch ar y ffyrdd yn rhan allweddol o fy nghynllun fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd ac mae prosiectau fel "It can happen to you' gan Weithdy Dinbych yn cael effaith mawr yn rhannu neges o ddiogelwch gydag ein pobl ifanc. Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn enghraifft dda o sut mae arian yn cael ei gymryd oddi wrth ddrwgweithredwyr ar draws Gogledd Cymru, yn ein hysgolion neu yn y gymuned ehangach. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn fenter bwerus gan Weithdy Dinbych a fydd yn helpu addysgu pobl a, gobeithio yn achub bywydau yn y broses."

Dywedodd Tracy Jones, Cyfarwyddwr, Gweithdy Dinbych: “Rydym wedi gweld yr effaith y mae'r prosiect hwn wedi cael ar ein pobl ifanc. Maent wedi eu hysgwyd gan bortread pwerus o fam yn galaru a swyddog heddlu yn gweld dros eu hunain yr effaith ofnadwy y mae penderfyniadau gyrru yn eu cael a'r effaith ehangach ar deuluoedd.  Roedd perfformiad Chris yn benodol yn ddirdynnol ac yn gadael cynulleidfaoedd yn gegrwth. Os gallwch gadw un person yn ddiogel ar y ffyrdd a'u gwneud nhw i feddwl ddwywaith cyn eu bod yn ateb neges destun neu gael eu tarfu y tu ôl i'r olwyn yna mae un teulu yn llai yn cael eu harbed rhag effaith andwyol gwrthdrawiad traffig."

“Ein nod yw sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais a rhoi'r hyder a hunan-barch i gredu bod eu hanghenion a'u dymuniadau yn gallu cael eu gweithredu arnynt. Rydym yn edrych ymlaen at fynd â'r neges i ysgolion ar draws yr ardal ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis.

Dywedodd Sean Gavin, Pennaeth y 6ed Dosbarth yn Ysgol Eirias: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Weithdy Dinbych am ddarparu’r perfformiad hwn i’n disgyblion 6ed Dosbarth. Mae llawer yn dysgu gyrru ar hyn o bryd neu newydd basio eu prawf. Rydym yn anelu i gynorthwyo ein holl fyfyrwyr ddod yn aelodau gweithredol a chyfrifol o’u cymuned. Bydd y perfformiad hwn a oedd ag argraff fawr yn sicr yn rhoi rhywbeth iddynt gnoi cil arno wrth gadw eu hunain, eu cyfoedion a’u cymunedau’n ddiogel.”

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Daw rhan o'r cyllid ar gyfer y prosiect Eich Cymuned, Eich Dewis o enillion troseddu ac mae'n iawn bod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a'i roi yn ôl i fentrau cymunedol fel y prosiect 'Gweithdy Dinbych'.

"Mae hyn yn helpu i droi arian drwg yn arian da ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd pobl leol sy'n adnabod ac yn deall eu problemau lleol a sut i'w datrys.  Mae plismona yn rhan o'r gymuned, ac mae'r gymuned yn rhan o blismona, a chynlluniau fel Eich Cymuned, Eich Dewis yn ffordd bositif o adeiladu ymddiriedaeth mewn plismona."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae'r dyfarniadau ariannu hyn yn bwysig gan eu bod yn cefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru, yn union fel yr un yma gan Weithdy Dinbych, a'r cymunedau eu hunain sy'n penderfynu ble orau y gellir gwario'r arian. Bydd y prosiect yn mynd â neges bwysig iawn i ysgolion a gobeithiwn y bydd hyn yn cadw ein pobl ifanc yn fwy diogel pan fyddant allan ar y ffordd."

Am fwy o wybodaeth ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru ewch at https://www.northwales-pcc.gov.uk/en/home.aspx ac am fwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Y Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru ewch at https://www.pactnorthwales.co.uk/