Skip to main content

Gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am eu gwasanaeth i'r gymuned

Dyddiad

Police Volunteer Cadets from the event

Cafodd ymdrechion nifer o ddinasyddion ymroddedig eu cydnabod mewn noson wobrwyo arbennig yng ngwesty St George yn Llandudno ar nos Fercher 1 Mehefin. Mewn Noson Wobrwyo cydnabu Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wasanaeth gwirfoddolwyr sydd wedi bod wrthi am dair blynedd neu fwy. Roedd y noson hefyd yn gyfle i gydnabod nifer o bobl ifanc ymroddedig a oedd ar fin dod i ddiwedd eu cyfnod fel cadetiaid gwirfoddol gyda'r Heddlu.

Roedd y noson yn arbennig gan fod 1 Mehefin yn nodi dechrau Wythnos Gwirfoddoli Cenedlaethol, dathliad blynyddol o’r cyfraniad y mae miliynau o bobl yn gwneud ar draws y DU drwy wirfoddoli. Yn y blynyddoedd diwethaf mae cyfleoedd i wirfoddoli o fewn Heddlu Gogledd Cymru wedi cynyddu, gyda  swyddi fel cydlynydd mosg a Chefnogaeth Staff LHDTQ+ yn ogystal â llawer o wirfoddolwyr seibr droseddau a swyddi caplaniaeth.

Yn ogystal â gwirfoddolwyr Heddlu Gogledd Cymru, cafodd grŵp allweddol arall ei gydnabod sef Gwirfoddolwyr y Ddalfa, sy'n cael ei drefnu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Unigolion yw'r rhain heb unrhyw gysylltiad â’r gwasanaeth cyfiawnder troseddol sy'n rhoi eu hamser hamdden i ymweld a siarad â phobl yn y ddalfa, i sicrhau eu bod yn cael eu trin gyda pharch, yn deg ac yn unol â'r gyfraith.

Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch a llongyfarch yr holl wirfoddolwyr a enillodd wobrau am eu gwasanaeth. Rydym yn gwerthfawrogi gwirfoddolwyr, yn gwirfoddoli drwy fenter Beicio Diogel, Caplaniaeth, Cynllun Gwarchod Ceffylau neu fel Ymwelwyr y Ddalfa.

“Gall gwên gyfeillgar a sgwrs wneud gwahaniaeth mawr i rywun sydd wedi ei ddal mewn cell yn y Ddalfa. Nid yw'r unigolyn yn gweld person mewn iwnifform ond person cyfeillgar sydd yno gyda'r unig bwrpas i sicrhau eu lles.  Mae ein gwirfoddolwyr i gyd yn enghreifftiau o bobl sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhopeth maent yn gwneud." 

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jon Bowcott o Heddlu Gogledd Cymru:  “Mae gan wirfoddolwyr sgiliau rhagorol a phrofiad ac yn defnyddio'r rhain i gefnogi ein staff a'n swyddogion ar draws yr heddlu, gan gymryd amser allan o'u bywydau prysur i roi yn ôl. Rydym yn gwerthfawrogi popeth y mae gwirfoddolwyr yn gwneud i Heddlu Gogledd Cymru ac maent yn ein helpu yn fawr yn ein gweledigaeth i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU."

Dywedodd Poppy Hadfield-Jones, Cydlynydd Dinasyddion Mewn Plismona: "Mae ein gwirfoddolwyr yn cefnogi ein cymunedau lleol, swyddogion a staff o fewn Heddlu Gogledd Cymru ac yn cynnig dycnwch pan mae adnoddau'r heddlu o dan bwysau.  Rwyf yn falch o amrywiaeth ein gwirfoddolwyr a'r cyfle sydd ar agor iddynt, ac rwyf am eu diolch am eu gwasanaeth. Credaf ein bod yn cynnig cefnogaeth, datblygiad rôl, iechyd a lles, dyfarniadau a chydnabyddiaethau a chyngor ac arweiniad. Mae pawb yn elwa drwy wirfoddolwyr."

Yr unigolion a gafodd gydnabyddiaeth am wirfoddoli oedd:

Arsylwyr Beicio Diogel: Bob Walker, Barry K. Dunn, Robin Trangmar, Philip Chesters, Andrew Stubbs, Darrel Crowther, Kevin Shenton, Marc Harper.

Arweinwyr Cynorthwyol y Cadetiaid: John Morris, Jacob Evans.

Prif Caplan: Gerald Williams.

Cydlynydd Chwilio ac Achub: David Roberts-Simcock.

Cydlynydd Cynllun Gwarchod Ceffylau: Helen Lacey.

Ymwelwyr Dalfa Annibynnol: Hilda Atkinson, Victoria Cooper, John Dolan, Isabel Hargreaves, Marie Jones, Peter Kenealy, Sharon Mazzarella, Bethan Wrench.

Rhoddodd Arweinydd Dinasyddion Mewn Plismona, Chris Perkins wobrau i nifer o Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu a wnaeth gwblhau eu hyfforddiant yn y digwyddiad: Dominik Azurza, William Brown, Bethan Evans, Samuel Griffiths, Magda Matysiak, Jacob Riddle, Logan Rowley

Dywedodd Chris Perkins “Credaf fod pob person ifanc yn haeddu'r cyfle i ffynnu beth bynnag yw eu cefndir. Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu'n grŵp amrywiol o bobl ifanc 13-18 oed, sydd â dyhead ar y cyd i gynorthwyo eu cymunedau lleol a magu dealltwriaeth ymarferol o blismona, gan ddatblygu eu sgiliau arwain drwy gyflawni prosiectau heriol yn eu cymunedau."