Skip to main content

Gwobr i adict gynt sy'n helpu eraill

Dyddiad

Gwobr i adict gynt sy'n helpu eraill

Mae tad i ddau a gafodd ei fywyd wedi ei ddinistrio gan gyffuriau wedi derbyn gwobr arbennig oddi wrth bennaeth heddlu.

Ar ôl defnyddio cyffuriau am dri degawd, mae John Redican, 47 oed, bellach wedi trawsnewid ei fywyd, ac nid yw wedi defnyddio cyffuriau ers bron i ddwy flynedd ac erbyn hyn mae’n chwarae ei ran i helpu eraill i gadw’n glir o gyffuriau.

Derbyniodd y Wobr Adfer yn y Gymuned yng Ngwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon.

Roedd John, sy’n dod yn wreiddiol o Fanceinion, wedi llwyddo i adfer ac ailadeiladu ei berthynas gyda’i anwyliaid diolch i Gymuned Adfer Gogledd Cymru sydd wedi ei lleoli ym Mangor.

Mae’r elusen yn cynnig rhaglen therapiwtig yn ogystal â chyfleusterau llety sy’n seiliedig ar ymwrthod ar gyfer hyd at 20 o bobl. Cafodd ei gwaith unigryw ei wobrwyo wrth i’r ymddiriedolwr James Deakin dderbyn y Wobr Cefnogi Adfer.

Dywedodd Arfon Jones: “Mae'r rhain yn enghreifftiau gwych o bobl sydd wedi byw gyda phroblemau bod yn gaeth ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy’n dioddef oherwydd cyffuriau.

Mae’n ysbrydoliaeth gweld bod rhywun fel John Redican bellach yn rhydd ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau am 30 mlynedd, ac erbyn hyn yn helpu eraill ar y llwybr i adferiad.

Y bobl yma sydd â phrofiad o fywyd fel arfer yw'r bobl orau i gefnogi eraill, oherwydd maen nhw wedi byw trwy’r problemau lle mae angen i’r gweddill ohonom ddysgu am y problemau.”

Dywedodd John, sydd â dwy ferch, Naomi, 16 oed, a Savannah, 3 oed, fod cyffuriau wedi cymryd rheolaeth o’i fywyd, ei ddinistrio, a’i adael yn ystyried hunanladdiad cyn iddo chwilio am help yng ngogledd Cymru nôl ym Medi 2016.

Dywedodd: “Dechreuais gymryd cyffuriau 30 mlynedd yn ôl. Am y 15 mlynedd gyntaf nid oedd yn broblem, roeddwn ni’n cymryd nhw pan roeddwn i’n cymdeithasu.

Ond roedd y caethiwed wedi sleifio i fyny arnaf a dechreuodd y cyffuriau fy atal rhag gweithio. Roeddwn yn gweithio fel sgaffaldiwr ac mi wnaeth pethau droi’n beryglus.

Collais lawer o swyddi. Roedd y cyffuriau wedi dod yn bwysig i mi. Roeddwn eu hangen nhw yn fwy nag oeddwn eu heisiau nhw.

Mi wnaeth y cyffuriau gymryd rheolaeth o fy mywyd a’i ddinistrio. Doedd hyd yn oed cael plant ddim yn ddigon. Mi wnaeth fy merch hynaf fy nghau i allan o’i bywyd. Mae cyffuriau yn cael y fath yna o afael arnoch."

Ychwanegodd: “Amffetaminau oedd fy mhrif gyffuriau, ond roeddwn wedi cyrraedd y pwynt lle roeddwn yn aros yn Llundain ac yn defnyddio GHB, ecstasi hylif a meth crisial.

Mi ges i gyfnod ar hwnna ac roeddwn yn methu cofio popeth roeddwn yn ei wneud. Dihunais unwaith ac roedd clwyf enfawr ar fy mhen.

Roedd y cyffuriau wedi cymryd rheolaeth o fy mywyd a chollais bopeth. Doedd gen i ddim byd ar ôl ac roeddwn yn gwybod mai digon oedd digon.

Penderfynais symud o Fanceinion i ogledd Cymru a chefais fy rhoi mewn cyswllt gyda James yng Nghymuned Adfer Gogledd Cymru.

Gofynnodd ef am fy stori ac o fewn pythefnos roeddwn wedi symud i mewn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n credu y byddai'r lle union yr un peth a’r llefydd eraill roeddwn wedi symud iddynt yn y gorffennol i geisio adfer fy hun.

Ond nid ‘rehab’ ydi o, ond hwb adfer. Nid ydynt yn dweud wrthych beth i wneud. Chi sy’n adeiladu’r seiliau ar gyfer eich adferiad eich hun ac ers i mi fod yma mae wedi newid fy mywyd.

Mae wedi rhoi gwaith llawn amser i mi fel cydlynydd camddefnyddio sylweddau ac rwyf yn gwneud gwaith gwirfoddol.

Mae gennych y dealltwriaeth yna. Gallwch ddweud wrth bobl nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Rwyf wedi bod yn eu sefyllfa nhw. Rwyf wedi colli popeth a bron â cholli fy mywyd.”

Mae John, sydd bellach wedi graddio o’r prif dŷ i un o unedau ‘symud ymlaen’ yr elusen, wedi cael ei ethol fel cadeirydd Fforwm Gwasanaethau Defnyddwyr Gogledd Cymru fel ei fod yn medru cyflwyno’r neges o wellhad i eraill.

Mae ei stori ysbrydoledig wedi arwain iddo ennill gwobr, ac ar ben hynny mae wedi medru datblygu perthynas gyda’i ferched.

Meddai John: “Roeddwn ychydig yn ofnus i weld pawb yn y seremoni wobrwyo. Yn amlwg roeddwn yn falch iawn ac wedi fy synnu fy mod wedi ennill gwobr.

Ond mae’r wobr ar gyfer pawb sydd wedi fy helpu oherwydd dydach chi ddim yn medru ei wneud ar ben eich hun.

Erbyn hyn rwy’n gweld Savannah bob cwpl o wythnosau ac rwy’n siarad efo Naomi bob dydd.

Mi fydd hi’n dod i aros efo mi am wythnos cyn bo hir sy’n wych oherwydd ar un adeg fyddai hi ddim hyd yn oed fy nghydnabod ar y stryd.

Fy nau ffrind gorau yw fy nghynbartneriaid. Roedd yna adeg pan roeddent yn fy nghasáu ond rwy’n adeiladu pontydd.

Rŵan rwyf mewn perthynas gyda merch wych sy’n gwybod popeth amdanaf a dydi hi ddim yn cwestiynu unrhyw beth.

Mi wnes i ddod i ogledd Cymru fel llyfr agored ar ôl i bopeth arall roeddwn wedi trio fethu.

Mae’r siwrne yma wedi dysgu i mi fod gennyf adferiad bellach ac mae’n amser i mi ei roi nôl i bobl arall.

Mae mynd â’ch plant i’r parc neu fynd allan am bryd o fwyd fel teulu, dyna beth yw fy nghyffur rŵan. Does dim angen unrhyw beth arall.”

Roedd James Deakin, sydd hefyd wedi bod yn gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau am 15 mlynedd, wedi lansio Cymuned Adfer Gogledd Cymru gyda grŵp o ffrindiau nôl yn 2015.

Dywedodd: “Rydym yn darparu hwb adfer mynediad agored ar gyfer gwella o gamddefnyddio sylweddau a gallwn gael hyd at 80 person ar un adeg ar y rhaglen. Mae tua 60% o’r bobl rydym yn gweithio gyda hwynt yn gwella yn yr hir dymor.

Yn draddodiadol does neb yn gwneud hyn fel ni. Gall bobl dalu am yr elfen breswyl drwy fudd-dal tai felly does byth rhestr aros na rhwystrau fel chwilio am gyllid.

Roedd y prosiect wedi ei gynllunio i lenwi bwlch. Roedd rhaid i ni ddarparu darpariaeth unigryw er mwyn sicrhau cyllid oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r tîm i gyd yn unigolion sydd wedi bod trwy broblemau gyda chyffuriau. Mae hynny’n ffordd awtomatig o uniaethu ac maen nhw’n gosod patrwm o ymddygiad positif.

Fel pobl sy’n gaeth rydym yn hoffi teimlo’n flin dros ein hunain a meddwl ‘nad oes neb arall yn gwybod fy stori’. Rwy’n dweud wrthynt am eistedd lawr a chlywed fod fy stori i yn eithaf tebyg i’w stori nhw.

Symudais i ogledd Cymru 20 mlynedd yn ôl. Roeddwn wedi mynd mewn i lawer o drwbl gydag alcohol a chyffuriau felly symudais yma i ddechrau eto.

Roeddwn yn ffodus, doeddwn i ddim angen triniaeth ffurfiol. Unwaith i mi gael fy hun yn lân i wnes i weithio fel cogydd.

Ond yr unig beth rwyf wedi ei nabod trwy fy holl fywyd yw cyffuriau a throseddu. Y rhain yw fy mhobl i ac roeddwn ni eisiau eu helpu.”


Pennawd: Gwobrau CHaTh 18: Yn y llun yn rhoi’r Wobr Adfer yn y Gymuned Adfer Gogledd Cymru o Fangor, y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones gydag, o’r chwith i’r dde, yr Is-Gomisiynydd Ann Griffith, Stephanie Jones, Marc Yates, James Deakin, Dave Murray, John Redican, enillydd y Wobr Cefnogi Adferiad, a Kevin Morris.