Skip to main content

Gwobr i wraig o ogledd Cymru sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth plant

Dyddiad

Gwobr i wraig o ogledd Cymru sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth plant

Mae gweithiwr elusen hynod brofiadol sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gadw plant sy’n agored i niwed yn ddiogel rhag masnachu ac ymelwa wedi cael ei chydnabod gan bennaeth plismona gogledd Cymru.

Mae Sian Humphreys, sy’n gweithio i Barnardo’s fel Eiriolwr Annibynnol ar Fasnachu Plant yng Nghymru, wedi ennill teitl Hyrwyddwr Ymladd Caethwasiaeth yng Ngwobrau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Mae’r ffaith bod bron i 40 y cant o’r holl achosion a gofnodwyd yng Nghymru yn dod o’r gogledd, sydd â’r nifer uchaf o atgyfeiriadau at Eiriolwr Annibynnol Masnachu Plant (ICTA) yr elusen lles plant Barnardo’s o holl ranbarthau heddlu Cymru, yn dystiolaeth o’i llwyddiant yn codi ymwybyddiaeth o’r broblem.

Cafodd y tlws ei gyflwyno gan y Comisiynydd Arfon Jones mewn seremoni arbennig yng Ngwesty’r Celtic Royal, yng Nghaernarfon, pan dalodd deyrnged i’r gwaith hanfodol y mae Sian yn ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth agos â Thîm Caethwasiaeth Fodern Heddlu Gogledd Cymru.

Maent yn delio â phlant sydd mewn perygl o gael eu masnachu neu sydd eisoes wedi cael eu symud i mewn ac allan o’r rhanbarth a Chymru gyfan am resymau sy’n cynnwys camfanteisio rhywiol, llafur gorfodol, gweithio ar ffermydd canabis neu werthu cyffuriau.

Dywedodd Arfon Jones: “Mae Gogledd Cymru yn un o bedair ardal heddlu yn y DU sydd ag uned caethwasiaeth fodern ac mae Sian a Barnardo’s yn rhan allweddol o hynny ac maent yn cydweithio’n agos i ddiogelu plant.

Maent yn blant i rieni sydd wedi cael eu hecsbloetio neu wedi cael eu hecsbloetio eu hunain - dim ond dwy oed oedd y plentyn ieuengaf i ni ei ddiogelu.

Mae caethwasiaeth fodern yn un o’r troseddau mwyaf difrifol a niweidiol ac yn rhy aml mae’n llithro o dan y radar ond mae ei ddioddefwyr ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a dyna pam yr wyf wedi’i wneud yn un o’m blaenoriaethau plismona.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu 124 o atgyfeiriadau i’r gwasanaeth Eiriolwr Annibynnol Masnachu Plant yng Nghymru ac mae 49 wedi dod o ogledd Cymru sy’n dangos maint y broblem yma a phwysigrwydd gwaith Siân.”

Mae Sian yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r plant hynny i’w cadw’n ddiogel ac atal ailfasnachu, yn ogystal â galluogi i’w lleisiau gael eu clywed fel y gall asiantaethau eraill ddarparu’r cymorth gorau posibl iddynt.

Mae ei harbenigedd yn helpu i atal plant sydd wedi cael eu masnachu rhag cael eu colli trwy roi cefnogaeth i weithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth mewn perthynas â chynlluniau ymyrraeth diogelwch.

Mae Cymru yn un o’r safleoedd cynnar a ddewiswyd gan y Swyddfa Gartref i ddarparu cymorth i blant sydd mewn perygl, neu sy’n wynebu risg, o gael eu masnachu.

Mae masnachu plant yn golygu symud plant at ddibenion camfanteisio arnynt, ac mae enghreifftiau’n cynnwys gweithio mewn bariau ewinedd, ceginau a bwytai am ychydig neu ddim arian neu gael eu gorfodi i droseddu fel gweithio ar ffermydd canabis.

Mae llawer mwy o enghreifftiau lle mae plant yn cael eu gorfodi a’u paratoi i gael eu hecsbloetio.

Mae’n digwydd yng Nghymru ac rydym yn gweld hyn. Rwyf wedi cefnogi plant o Albania, Pacistan, Fietnam a Romania i enwi ond rhai gwledydd. Rwyf hefyd yn cefnogi llawer o blant o Brydain, sy’n cael eu masnachu o fewn y DU, felly i fod yn glir, gall plant gael eu masnachu o unrhyw le ar gyfer unrhyw fath o gamfanteisio.

Fy rôl yw cerdded ar y daith gyda nhw, gan eu cefnogi trwy systemau gweinyddol cymhleth fel mewnfudo, cyfiawnder troseddol a gwasanaethau cymdeithasol, gan sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed.

Gall fod yn heriol. Mae’r camfanteisio yn achosi trawma sylweddol sy’n cymryd amser a chefnogaeth i’w oresgyn, ond mae’n waith gwerth chweil.

Mae’n wych ennill gwobr ond mae llawer ohono i’w briodoli i’r partneriaethau cadarnhaol a ddatblygwyd yma ac mae’n helpu bod rhywun fel y Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi rhoi’r mater ar ei agenda.”

Mae gwaith Sian i godi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol wedi arwain at fwy o atgyfeiriadau a nifer cynyddol o blant yn cael eu diogelu.

O’r pedwar maes cyfredol sydd ag Eiriolwr Annibynnol Masnachu Plant - Cymru, Manceinion Fwyaf, Hampshire ac Ynys Wth - Sian sydd wedi cyflwyno’r nifer mwyaf atgyfeiriadau, sef cyfanswm o 88 hyd yma i blant 18 oed ac iau.

Mae pob un o’r safleoedd mabwysiadu Eiriolwr Annibynnol Masnachu Plant, Cymru, Manceinion Fwyaf, Hampshire ac Ynys Wyth wedi gweld llawer iawn o atgyfeiriadau ac mae hyn yn parhau ac ychwanegdd Sian: “Mae’n bwysig nodi bod caethwasiaeth fodern a masnachu plant yn aml yn bethau sydd wedi’u cuddio dan yr wyneb.

Drwy weithio gyda’n partneriaid, rydym yn gweld rhai canlyniadau llwyddiannus i blant. Mae nifer yr atgyfeiriadau yn gadarnhaol ond dim ond cyfran fechan o nifer y plant sy’n cael eu hecsbloetio yw hyn. Mae llawer ohono’n gudd ac rydym angen i’r gymuned fod ar ei gwyliadwriaeth.

Rwy’n gwneud llawer o waith a hyfforddiant gydag ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant sy’n agored i niwed er mwyn cefnogi a gwella sgiliau.

Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn ymwybodol o’r mater. Rydym yn targedu lleoedd gyda phosteri er mwyn annog pobl i feddwl am yr hyn sy’n digwydd yn y cymunedau.

Rydym am iddynt holi a yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn ac yna i rannu eu pryderon. Mae arnom angen i bawb weithio efo’i gilydd.”

Fel rhan o’i rôl, mae Sian hefyd wedi helpu i gyflwyno cyfarfod newydd – Ar Goll wedi’u Masnachu a’i Hecsbloetio (MET) yn Sir y Fflint a Wrecsam, sy’n rhoi gwybodaeth i asiantaethau sydd wedi eu galluogi i addasu eu prosesau a’u hymyriadau gyda phobl ifanc wrth i faterion gael eu hanabod yn llawer cynharach.