Skip to main content

Heddlu cudd i gadw llygad ar fariau yn Wrecsam a Sir y Fflint i gadw menywod a merched yn ddiogel

Dyddiad

Heddlu cudd i gadw llygad ar fariau yn Wrecsam a Sir y Fflint i gadw menywod a merched yn ddiogel

Bydd swyddogion heddlu cudd yn cymysgu â phobl allan i ddathlu gyda’r nos yn yr wythnosau cyn y Nadolig er mwyn cadw menywod a merched yn ddiogel.

Cyhoeddwyd y cynllun newydd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, sydd wedi sicrhau £202,000 yn ychwanegol mewn cyllid i lansio’r cynllun yng nghanol tref Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae’r cynllun yn rhan o’r ymgyrch Diogelwch Merched gyda’r Nos, a dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Bydd y tîm yn cynnwys pedwar swyddog mewn lifrai, dau swyddog yn eu dillad eu hunain a rhingyll, gydag o leiaf un o’r swyddogion heddlu yn ferch.

Eu gwaith fydd adnabod menywod a merched sy’n agored i niwed ac unrhyw ddarpar droseddwyr fel y gallan nhw gymryd camau ataliol.

Os ydyn nhw wedi cael gormod i’w yfed, bydd y swyddogion yn sicrhau bod menywod a merched yng nghwmni rhywun cyfrifol fel eu bod nhw’n cyrraedd adref yn ddiogel.

Bydd darpar droseddwyr yn cael eu stopio a’u chwilio am unrhyw sylweddau y gellid eu defnyddio i sbeicio diodydd ac analluogi dioddefwyr.

Bydd cynllun marsial tacsi yn cael ei sefydlu gydag wyth aelod o staff drws cofrestredig ar ddyletswydd mewn safleoedd tacsi ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr coleg a phrifysgol.

Yn ogystal, bydd cwmni cyfryngau yn cael ei gyflogi i greu pecyn dysgu i ddynion a bechgyn er mwyn cynyddu dealltwriaeth am ymosod rhywiol, gan roi’r cyfrifoldeb yn sgwâr ar y troseddwyr.

Fel rhan o’r ymgyrch bydd ffilm fer yn cael ei chynhyrchu a bydd pecyn hyfforddi ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid hefyd.

Daw’r cyllid ychwanegol yn fuan ar ôl cais llwyddiannus arall fis diwethaf gan dîm Mr Dunbobbin, ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i sicrhau £390,000 i leihau nifer y troseddau sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched yn Wrecsam.

Yn gynharach eleni llwyddodd i gael £500,000 ychwanegol i ariannu ymgyrch uwch dechnoleg ar fannau troseddau problemus ym Mae Colwyn a Bangor.

Cafodd yr ymgyrch newydd i amddiffyn menwyod a merched gyda’r nos ei arloesi gan Heddlu Northumbria ddwy flynedd yn ôl.

Mae’n golygu, wrth i’r tymor partïon gychwyn yn Wrecsam a Sir y Fflint, y bydd swyddogion heddlu yn cadw llygad barcud am arwyddion o drafferth ac ar bobl agored i niwed.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Bu nifer pryderus o ymosodiadau rhywiol dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi denu sylw’r cyfryngau gan arwain at gynnydd mewn  tensiynau cymunedol ac effeithio ar hyder menywod a merched pan maen nhw allan ar eu pennau eu hunain.

“Rydym hefyd yn ymwybodol y gallai pobl sy’n ceisio cyrraedd adref ar ôl noson allan ei chael hi’n anoddach nag arfer dod o hyd i dacsis oherwydd prinder gyrwyr a allai olygu bod yn rhaid iddyn nhw aros yn hirach neu gael eu temtio i geisio gwneud eu ffordd adref ar eu pennau eu hunain.

“Rydym yn benderfynol yng ngogledd Cymru i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl a chadw ein strydoedd yn ddiogel ar yr adeg brysuraf o’r flwyddyn i’r economi nos.

“Rydym eisiau i bobl allu mwynhau eu hunain yn gall ac yn fwy na dim i gyrraedd adref yn ddiogel ac rydym yn credu y gall rhoi pâr o lygaid ychwanegol ar y strydoedd wneud gwahaniaeth.

“Rydym hefyd yn credu bod y ffaith y bydd ein swyddogion yn eu dillad eu hunain yn golygu y byddan nhw’n gallu ymdoddi i’r cefndir fel nad yw unrhyw un sydd â bwriad drwg yn gwybod ein bod yn gwylio.”

Yn 2019 profodd y cynllun peilot gan Heddlu Northumbria ar strydoedd a thafarndai a chlybiau Newcastle-upon-Tyne, un o brif ddinasoedd partïon y Deyrnas Unedig, yn llwyddiant mawr.

Fe’i treialwyd i dargedu troseddwyr ymosodol a nododd yr heddlu ostyngiad o 30 y cant mewn trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol difrifol yng nghanol y ddinas a chael canmoliaeth gan yr elusen Rape Crisis a goroeswyr troseddau rhywiol difrifol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Wykes, a arweiniodd y cynllun yn Newcastle: “Fel gydag unrhyw gynllun unigryw rydym wedi gorfod ei brofi a gyda’r ffigurau rydym yn eu gweld byddwn yn awgrymu ei bod yn ffordd effeithiol o weithredu.”

Ychwanegodd Mr Dunbobbin: “Mae yna nifer o resymau y gall unigolyn ddod yn agored i niwed, gan gynnwys gormod o alcohol, mynd ar goll, neu gael ei wahanu oddi wrth ffrindiau.

“Bydd ein swyddogion yno ar y strydoedd a byddan nhw’n cadw llygad am yr arwyddion nodweddiadol o fod yn agored i niwed a hefyd am y math o droseddwyr a allai fod yn chwilio am gyfle i fanteisio ar rywun.

“Mi fyddan nhw ar y strydoedd ac yn barod i gamu i mewn i gadw pobl yn ddiogel.”