Skip to main content

Heddlu yn rhybuddio trigolion Gogledd Cymru ar ôl cynnydd troseddau twyll crypto

Dyddiad

Dyddiad

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn rhybuddio trigolion y rhanbarth i fod yn wyliadwrus, ar ôl gweld cynnydd troseddau’n ymwneud ag arian crypto a sgamiau yn yr ardal dros y misoedd diwethaf, efo aelodau’r cyhoedd yn dioddef ac yn colli arian i dwyllwyr.

Mae arian crypto wedi dod yn fwy  adnabyddus dros y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft, dan yr enw Bitcoin. Mae’n fath o arian digidol sy’n gweithredu ar-lein, ond nid oes ganddo gefnogaeth banc na benthyciwr, fel  Banc  Lloegr. Mae pobl yn cyfnewid eu harian efo deliwr arian crypto am docynnau rhithwir maent yn gallu eu gwario ar gynnyrch a gwasanaethau.

Tra bod rhai buddsoddiadau arian crypto yn rhai gwirioneddol, ‘dydy rhai ddim, ac mae’r Cwnstabl Jason Knowles o Dîm Troseddau Seibr Heddlu Gogledd Cymru yn credu ei fod wedi gweld tua £6 miliwn o golled ymysg yr achosion mae o wedi eu harchwilio ers ymuno efo’r tîm.

Yn ôl Cwnstabl Knowles, mae buddsoddiadau mewn arian crypto yn aml yn cael eu cyflawni gan ddioddefwyr sydd eisiau cynyddu eu gwir werth. Efallai wnawn nhw chwilio am dermau fel “sut i fuddsoddi arian”, sy’n eu harwain  at wefan ffug lle mae nhw’n rhoi eu manylion cyswllt. Fel arfer, o fewn 24 awr neu lai, mae rhywun yn cysylltu efo nhw drwy Whatsapp, neu’n fwy  aml drwy apiau neges amgryptio fel Telegram / Signal, er mwyn trafod cyfleodd buddsoddi ffug.

Mae cyfrifon banc trydydd parti ffug yn aml yn cael eu sefydlu ar y we gan y dioddefwyr, sy’n caniatáu’r symudiad rhwydd o arian crypto, unwaith maen nhw wedi’u buddsoddi ag arian o fanciau confensiynol. Mae twyllwyr yn rhoi gwybodaeth i’r dioddefwyr am ba asedau i’w prynu a lle i’w hanfon. Mae’r dioddefwyr yn cael mynediad i wefannau buddsoddiad ffug. Maen nhw fel arfer yn rhai  ffug, ac mae’n golygu bod y dioddefwyr wedi anfon eu hasedau crypto at y twyllwyr, gan lenwi eu cyfrifon banc nhw.

Mi fydd dioddefwyr yn aml yn cael negeseuon sy’n rhoi pwysau arnyn nhw gan y twyllwyr, i brynu mwy a mwy o crypto a’i anfon at eu cyfrifon ffug. Mi wnaiff y dioddefwyr dderbyn negeseuon yn eu rhybuddio eu bod am golli eu harian, a risg posib i faint yr elw. Efallai caiff y dioddefwr gyfle i gymryd arian o’r cyfrif, ond swm bach o arian sy’n cael ei anfon gan y twyllwr, er mwyn profi i’r dioddefwr eu bod yn medru  tynnu’r  arian allan. Mae hyn er mwyn tawelu meddwl y dioddefwr ac i annog buddsoddiad pellach.

Unwaith mae’r dioddefwr yn sylwi eu bod wedi gwneud camgymeriad, mae’r twyllwr yn stopio cysylltu efo’r dioddefwr, ac yn aml mi wnaiff gysylltu efo’r dioddefwr yn hwyrach ymlaen, yn smalio eu bod yn helpu i adfer eu harian, ac wedi darganfod bod eu buddsoddiadau wedi’u dal mewn cyfeiriad waled Blockchain; ‘dydy hyn heb ddigwydd, ac mae’n sgam arall.

Dywedodd y Cwnstabl Jason Knowles, yr Arweinydd Crypto ar yr Uned Troseddau Economaidd, Heddlu Gogledd Cymru: “Yn ddiweddar, ‘dwi wedi gweld cynnydd mewn troseddau twyll yn ymwneud ag arian crypto yng Ngogledd Cymru, a ‘dwi’n annog pobl i fod yn wyliadwrus, ac i gadw ei hunain yn ddiogel rhag twyllwyr sydd ar ôl eu harian, ac eisiau cymryd mantais o’r diddordeb  mewn buddsoddi. Buaswn i’n dweud wrth drigolion Gogledd Cymru, peidiwch â buddsoddi beth nad ‘dach chi’n fodlon ei golli, gwnewch eich ymchwil eich hun, ac ail-wiriwch bob dim.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Mae gwneud buddsoddiadau  mewn arian crypto yn gallu ymddangos fel ffordd ddiddorol ac arloesol o wneud pres. Ond dylai pobl fod yn ymwybodol bod twyllwyr, sy’n disgwyl i’ch sgamio, ymysg y masnachwyr gwirioneddol. Fel CHTh Gogledd Cymru, un o fy mlaenoriaethau allweddol ydy  cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau a sicrhau nad oes troseddau yn digwydd . Efo fy nghefndir yn TG, ‘dwi’n ymwybodol o beryglon y byd ar-lein, yn enwedig ar ran twyll cyllidol. ‘Dwi’n gofyn bod pawb yn dilyn cyngor Heddlu Gogledd Cymru, ac eu bod yn buddsoddi yn ddiogel ac yn hyderus.”

Dau achos o ddioddefwyr yng Ngogledd Cymru

Yn 2022, mi riportiodd dioddefwr, 78 oed, golled o dros £346,000 o ganlyniad sgam buddsoddiad arian crypto, oedd wedi digwydd dros flwyddyn gyfan. ‘Roedd y dioddefwr eisiau buddsoddi eu cynilion a chael y mwyaf posib yn ôl arnyn nhw. Mi welon nhw hysbyseb ar Facebook efo arbenigwr cyllid a buddsoddiad cydnabyddiedig, yn cynghori y dylai nhw brynu arian crypto, Bitcoin yn benodol. Mi roddodd y dioddefwr eu manylion cyswllt, ac ‘roedd cyswllt buan oddi wrth y twyllwr, drwy apiau neges amgryptio. Yn nesaf, mi gafodd y dioddefwr  ei annog i sefydlu cyfrif banc trydydd parti ar y we, a chyfrifon cyfnewid arian crypto, gan rannu  basbort, trwydded yrru a llun efo’r twyllwr, a sefydlodd y cyfrifon iddo. Mi wnaeth y twyllwr annog y dioddefwr i symud arian o’i fanc i’r cyfrifon trydydd parti, oedd rwan dan reolaeth y twyllwr. Mi ffoniodd y banc y dioddefwr i gwestiynu’r trafodion anarferol yma, ond ‘roedd y twyllwr wedi paratoi sgript ar gyfer y dioddefwr, er mwyn lleihau amheuon y banc. Mi drosglwyddwyd cronfa’r dioddefwr i arian crypto, ac yna’i anfon ymlaen at gyfeiriadau waled amrywiol. Mi gafodd rhywfaint o’r arian ei adennill, ond ddim y cwbl.

Yn 2024, mi riportiodd dioddefwr, 24 oed, golled o £8,000 ar ôl gweld fideo o Syr Keir Starmer  ar eu ffrwd newyddion ar eu ffôn, yn  annog i fuddsoddi mewn arian crypto. ‘Doedd y dioddefwr ddim wedi sylwi ar y pryd mai fideo AI ffugiad dwfn oedd o. Mi fuddsoddodd y dioddefwr  ei arian ar ôl i dwyllwr  ei annog i wneud hynny drwy ap neges amgryptio, efo’r twyllwr yn smalio bod yn gynghorydd buddsoddiad. Mi  drosglwyddodd y dioddefwr  ei arian yn arian crypto, a’i anfon i gyfrif arall. Mae’r heddlu wedi canfod i ble’r aeth yr arian; mi gafodd ei anfon i gyfnewidfa arian crypto ym Malta, ac ‘does dim modd o’i  gael yn ôl.

Am ragor o wybodaeth am dwyll arian crypto a sut i gadw’n ddiogel, ewch i: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/Twyll/twyll/twyll-ar-lein-seiberdroseddu/seiberdroseddu/