Skip to main content

Heddlu'n gwyllt-io ar ôl cipio gwobr ecolegol nodedig

Dyddiad

110321 PCC ECO-1

Mae hen safle ffatri wedi cael ei drawsnewid yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt sydd wedi ennill gwobrau yn dilyn agor gorsaf heddlu fwyaf modern Cymru.

Mae cyfleuster newydd Ardal Reoli a Dalfa Rhanbarth y Dwyrain Heddlu Gogledd Cymru ar Ystâd Ddiwydiannol Llai wedi ennill canmoliaeth amgylcheddol mawr am y ffordd sensitif y cafodd ei ddatblygu.

Lle’r arferai ffatri electroneg Sharp enfawr sefyll yn agos at Brif Lofa Llai, mae gloÿnnod byw prin, rhywogaethau adar a gwas y neidr yn hofran ac mae planhigion a blodau yn blodeuo ymhlith y pyllau brwyn.

Mae wedi arwain at Ganmoliaeth Arbennig i’r safle yng Ngwobrau’r Sefydliad Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol Siartredig am agwedd y datblygiad tuag at ecoleg a’r amgylchedd ym Mhencadlys Rhanbarth y Dwyrain a chyfleuster y ddalfa yn Llai.

Cafodd y gydnabyddiaeth ei chroesawu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a fu’n gyfrifol am gau hen Bencadlys Heddlu Wrecsam a chodi’r cyfleuster newydd gwerth £18 miliwn a chreu gorsaf heddlu newydd yng nghanol y dref yn Wrecsam.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn Arolygydd Heddlu: “Rwy’n gredwr cadarn yn yr angen i fabwysiadu technegau adeiladu mwy gwyrdd er mwyn helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a hefyd i ddarparu amgylchedd gweithio modern, eco-gyfeillgar a dymunol i’n staff.

“Fe’m cynghorwyd er mwyn gwella bioamrywiaeth ei bod hi’n well peidio â chludo cannoedd o dunelli o uwchbridd yma, felly mi wnes i gymryd y penderfyniad hwnnw gyda’r canlyniad bod gennym bellach amrediad llawer cyfoethocach a mwy amrywiol o flodau, planhigion a chreaduriaid ar y safle.

“Felly, rydw i wrth fy modd bod y Pencadlys Rhanbarthol newydd wedi cael ei gydnabod a’r ffordd y mae'r safle wedi datblygu ers iddo gael ei ddefnyddio.

“Rydym wedi gweithio’n agos gydag Anna Pretious, Rheolwr Cadwraeth Amgylcheddol ac Ynni’r Heddlu, y datblygwyr, a’n harbenigwyr amgylcheddol, Eco-Scope, er mwyn gwneud ecoleg y safle yn flaenoriaeth allweddol - mae hyd yn oed ceir yr heddlu yn cael eu golchi gyda dŵr sydd wedi’i ailgylchu.”

Mae'r thema werdd yn parhau y tu mewn i’r adeilad hefyd gyda phyllau draenio a thirlunio gan greu amgylchedd perffaith ar gyfer ystod o fflora a ffawna gyda phaneli solar a chynaeafu dŵr glaw ar y to, siafftiau golau haul yn darparu golau naturiol i'r celloedd a goleuadau LED drwyddi draw.

Mae'r rhan fwyaf o'r dodrefn wedi cael ei ailgylchu o fanc yn Llundain, Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug ac o'r hen Bencadlys yn Wrecsam, mae llawer ohono wedi'i ailwampio ar y safle gan gwmni Orangebox o dde Cymru, tra bod seddi a byrddau allanol wedi dod o Gynnyrch Coed Meifod yn Ninbych.

Mae bywyd gwyllt a phlanhigion yn cynnwys glöyn byw anghyffredin, y gwibiwr llwyd, tegeirianau gwyllt ac un enghraifft o blanhigyn tegeirian caldrist, a gafodd ei achub gan Ecolegydd y Cynllun Rheoli, Dr Richard Birch, yn llythrennol o dan fwced cloddiwr JCB.

Dywedodd Dr Birch, sydd bellach gydag Eco-Scope wedi bod ymwneud â’r safle ers 2013, ymhell cyn i’r gwaith ddechrau ar y Pencadlys Rhanbarthol newydd: “Cefais sgwrs gyda’r Comisiynydd a’i gynghori y byddai’n well ac yn rhatach peidio â defnyddio uwchbridd ac roeddwn wrth fy modd pan gytunodd â mi.

“Fedrwn i ddim coelio fy nghlustiau pan glywais i hynny oherwydd mae hwn i gyd yn hen dir diwydiannol gyda hen domen rwbel o’r pwll glo ac mae’n lle gwych i fywyd gwyllt.

“Os ydych chi'n arllwys tunnell o uwchbridd yma yna mi gewch chi laswellt yn drech na phopeth arall ond yma mae gennych chi amrywiaeth mor gyfoethog o fflora a ffawna a'r peth gorau y gallwch ei wneud yw cael llawer o dir i fyny ac i lawr er mwyn creu cynefinoedd gwahanol.

“Mae’n haeddu bod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig pe bai ond  am y boblogaeth gwas y neidr. Mae 11 rhywogaeth ohonyn nhw yma, chwe math gwahanol o degeirian ac mae hefyd yn un o ddim ond tri lle yng ngogledd Cymru lle cewch chi hyd i blanhigyn prin Llysiau’r Gwaed.”

Mi wnaeth Bio-Blitz a gynhaliwyd yn 2019  adnabod 240 o rywogaethau gwahanol ar y safle ac yn ogystal â gweision y neidr mae'r rhain yn cynnwys 18 o loÿnnod byw, 21 gwyfyn, sawl math o wenyn, gwenyn meirch a phryfed milwrol a 150 o blanhigion sy’n blodeuo.

Mae gan yr adeilad 8,680 metr sgwâr, a adeiladwyd gan y contractwyr blaenllaw Galliford Try, swyddfeydd a chyfleusterau ar gyfer 248 o heddweision a staff gan gynnwys 32 o gelloedd, cyfleusterau ffreutur, a dau gampfa yn ogystal ag ystafelloedd loceri a garejys.

Mae ganddo arae solar 80 cilowat ar y to, cynaeafu dŵr glaw ar gyfer golchi 85 o gerbydau heddlu bob wythnos, a goleuadau clyfar i arbed ynni ac eisoes mae'r adeilad yn dangos bod ei ddefnydd ynni 50 y cant yn is na'r adeiladau hŷn cyfatebol.

Dywedodd Anna Pretious: “Fel heddlu rydym wedi bod yn cymryd bywyd gwyllt a bioamrywiaeth o ddifrif ers 20 mlynedd ac yma mi wnaethon ni gynnal arolygon cynefin a daearegol gan Dr Birch a ddangosodd fod clytwaith o gynefinoedd yma sydd wedi cael eu gwarchod yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu.

“Ers blynyddoedd bellach mae cadwraeth bywyd gwyllt wedi bod yn rhan annatod o'n meddylfryd.”