Dyddiad
Mae Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu trawsryweddol a ddioddefodd wawd a sarhad annifyr pan oedd yn tyfu i fyny yn annog pob dioddefwr trosedd casineb i ddod ymlaen.
Yn ôl Connor Freel, 24 oed, sydd wedi ei leoli yn yr Wyddgrug, mae’n hollbwysig nad yw pobl yn dioddef yn dawel ond yn adrodd am unrhyw gamdriniaeth i’r heddlu.
Rhoddodd SCCH Freel ei gefnogaeth lwyr i Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb a lansiwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
Caiff pobl eu herlid a’u cam-drin oherwydd eu tueddfryd rhywiol, hunaniaeth rhyw, hil, crefydd, anabledd, siâp corff, oedran neu amryw o nodweddion personol eraill.
Mae Mr Jones eisiau rhoi sylw i’r mater hwn sy’n achos diflastod ofnadwy i ddioddefwyr.
Daeth yr apêl yn sgil datgelu cynnydd o 27 y cant yn nifer yr adroddiadau o droseddau casineb yng ngogledd Cymru dros y 12 mis diwethaf.
Cododd nifer yr achosion a adroddwyd i Heddlu Gogledd Cymru o 358 i 455, gyda digwyddiadau yn ymwneud â hil a chrefydd yn amlwg yn y ffigurau hynny.
Un o’r prif resymau am y cynnydd, yn ôl Mr Jones, yw bod gan bobl bellach fwy o hyder y bydd eu sefyllfa yn cael ei gymryd o ddifrif, ond mae am weld hyd yn oed mwy o ddioddefwyr yn cysylltu â’r heddlu neu’r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy.
Ategwyd y teimlad gan Swyddog Freel a siaradodd yn deimladwy am ei siwrnai bersonol a’r gamdriniaeth a ddioddefodd ar hyd y ffordd mewn fideo a ariannwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd er mwyn lledaenu’r neges am droseddau casineb.
Ymhlith y bobl eraill a gymerodd ran yn y fideo y mae Maria Smith, gweithiwr prosiect 47 oed sy’n byw yn sir Conwy, a ddioddefodd llawer o sarhad hiliol trwy gyfrwng negeseuon testun gan ddynes nad oedd hi prin yn ei hadnabod.
Dywedodd Swyddog Freel: “Cefais fy ngeni’n ferch ond o’m hatgofion cynharaf a chyn i mi hyd yn oed ddechrau siarad roeddwn i’n gwybod mai bachgen oeddwn i yn y corff anghywir. Dywedais wrth fy rhieni pan oeddwn i’n blentyn bach fy mod i’n fachgen.
Ond er hynny, cefais fy magu fel merch a dechreuais drawsnewid i ddyn pan oeddwn tua 15 oed. Mi wnes i fynd at fy rhieni ac esbonio wrthyn nhw sut oeddwn i’n teimlo ac roedden nhw’n gefnogol dros ben. Mewn gwirionedd, roedden nhw’n gwybod ac wedi bod yn aros i mi ddweud wrthyn nhw.”
Y camau cyntaf i’r Swyddog Freel eu cymryd oedd torri ei wallt a dechrau gwisgo dillad gwrywaidd.
“Mi wnes i newid fy enw i Connor a theimlais yn rhydd. Doeddwn i ddim yn actio mwyach a doeddwn i ddim yn ceisio ffitio i ryw fath o focs nad oeddwn i’n perthyn iddo.
Ond doedd hi ddim yn hir cyn i’r problemau ddechrau. Roeddwn yn y chweched dosbarth a gan nad oedd fy nghyd-fyfyrwyr yn gwybod ai dyn neu dynes oeddwn i, mi wnaethon nhw daro allan yn fy erbyn.
Un diwrnod, wrth i mi gerdded adref, mi wnaeth rhywun weiddi’n sarhaus ac afiach arnaf o ffenestr car. Mi wnes i droi rownd a chael fy nharo yn fy wyneb gan garreg. Wnes i ddim ymateb nac adrodd amdano ac roedd gen i andros o lygad ddu am rai wythnosau wedi hynny.”
Ychwanegodd: “Ar ôl blwyddyn doeddwn i ddim yn gallu dioddef mwy. Byddwn yn cerdded ar hyd coridor yr ysgol ac heb unrhyw rybudd mi fyddai rhywun yn taro cefn fy mhen a galw enwau arnaf. Felly, mi wnes i adael y chweched dosbarth a dechrau yn y coleg yn lle hynny.
Mi ges i swydd yn McDonalds er mwyn talu am fy astudiaethau. Mi wnaeth rhywun ddarganfod fy mod yn drawsryweddol a dechrau gyrru i’r lle bwyta bron bob dydd yn gweiddi sarhad a galw enwau arnaf tra’r oeddwn yn gweini.
Mi wnes i adrodd am y digwyddiadau hyn ac fe wnaeth yr heddlu ddelio efo’r peth. Ond roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy a bron yn credu mai fy mai i oedd hyn i gyd er mod i’n gwybod go iawn nad oedd hynny’n wir.
Mi wnes i fynd ymlaen i astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam a chwblhau fy nhraethawd ar droseddau casineb trawsryweddol.
“Rwyf am fynd yn ôl i’r brifysgol a gwneud PhD mewn troseddau casineb trawsryweddol gyda’r bwriad o ddod yn ddarlithydd.”
Yn ôl Swyddog Freel, mae ei gydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn hynod gefnogol ers iddo ymuno â’r gwasanaeth.
Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn rhyfeddol, mae pawb wedi bod yn wych. Does gen i ddim problem efo’r cyhoedd gan fy mod rŵan yn edrych yn gwbl wrywaidd.
Mae hormonau wedi rhoi gwallt wyneb i mi ac rwyf wedi cael dwy lawdriniaeth ar fy mrest. Erbyn hyn mae gen i siâp corff gwrywaidd a does neb yn amau fy mod wedi fy ngeni’n fenywaidd.
Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth. Rwy’n mynd i ysgolion ac yn siarad efo myfyrwyr am droseddau casineb a’r gymuned LGBT. Mae fy rhieni a’m dau frawd yn gwbl gefnogol.
Rydw i bellach wedi dyweddïo ac yn bwriadu priodi ac ni all bywyd fod yn well. Os yw fy mhrofiad yn gallu helpu eraill mae hynny’n wych, dyna sy’n fy ngyrru ymlaen.
Dyna pam wnes i gytuno i ddod ymlaen ac ymddangos yn y fideo am droseddau casineb yng ngogledd Cymru a dweud fy stori yn gyhoeddus.”
Dywedodd y Comisiynydd: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd troseddau casineb o ddifrif ac mae unrhyw un sydd am roi gwybod am drosedd ond nad yw’n dymuno mynd at yr heddlu bob amser yn gallu troi at y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy.
Rwy’n falch bod rhai dioddefwyr troseddau casineb wedi cael y cryfder i ddod ymlaen ac adrodd eu stori. Maen nhw wedi gwneud hynny yn y gobaith y bydd yn annog dioddefwyr eraill i siarad allan ac i beidio â dioddef yn dawel.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru bob amser yn ymchwilio i gwynion mewn ffordd sensitif ac rwy’n benderfynol o wneud yn siwr ein bod yn taclo’r troseddwyr. Rhaid i ni ddileu’r troseddau hyn gan fod dioddefwyr di-ri yn dioddef yn dawel.”
Mae Rich Ward yn swyddog cefnogi dioddefwyr troseddau casineb sydd wedi’i leoli ym Mhencadlys rhanbarthol Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy.
Dywedodd: “Rydym wedi cael troseddau casineb sy’n mynd o geisio lladd i sarhad geiriol - ac mae cyfryngau cymdeithasol yn broblem gynyddol. Gall arwain at bob math o broblemau gan gynnwys problemau iechyd meddwl, ynysu cymdeithasol, ac iselder a hyd yn oed pobl sy’n encilio’n llwyr o gymdeithas.
Rydym am i bobl adrodd am droseddau casineb a dweud wrthym beth sydd wedi digwydd. Peidiwch â dioddef yn ddistaw, cysylltwch â’r heddlu neu’r Uned Cefnogi Dioddefwyr a cheisiwch gael help. Ac os ydych chi’n dyst i droseddau casineb, byddwch yn barod i roi gwybod amdanynt a rhoi gwybod i ni beth wnaethoch ei weld.
Mae troseddau casineb yn difetha a dinistrio bywydau. Maent yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni, fel cymdeithas, eu stopio. Mae angen i ddioddefwyr wybod bod cymorth ar gael ac y byddant yn cael eu cefnogi.”
I wybod mwy am Ganolfan Cefnogi Dioddefwyr Gogledd Cymru ewch i www.victimhelpcentrenorthwales.org.uk.