Skip to main content

Holi pobl am eu barn ar wasanaethau 101 a 999

Dyddiad

Gofynnir i drigolion Gogledd Cymru gymryd ychydig funudau i ddweud wrth benaethiaid yr heddlu am eu profiadau o wasanaethau 101 a 999, yn ogystal â'u dymuniadau ar ddulliau cyswllt yn y dyfodol.

Agorodd Arolwg Cyswllt yr Heddlu ar Mai 16 ac mae’n rhedeg tan hanner nos ddydd Sul, Mehefin 26.

Gofynnir cyfres o gwestiynau i gyfranogwyr sy’n profi eu dealltwriaeth o systemau adrodd brys a di-argyfwng, yn ogystal â ffyrdd newydd o gysylltu â’r heddlu, fel gwe-sgwrs, ffurflenni ar-lein a negeseuon dros gyfryngau cymdeithasol.

Bydd yr arolwg, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yn helpu i hysbysu heddluoedd, y Swyddfa Gartref a chomisiynwyr lleol am unrhyw heriau sy’n ymwneud ag adrodd i’r heddlu a chynorthwyo i lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Andy Dunbobbin: "Mae riportio i 101 a 999 yn parhau i fod yn faes busnes heriol i heddluoedd. Rhaid deall anghenion pobl sy'n cysylltu a rhaid i heddluoedd flaenoriaethu'r rhai mwyaf anghenus. Mae hyn yn golygu nad ymatebir weithiau i gyswllt am eitemau arferol mor gyflym ag y byddai pobl yn dymuno. Hefyd, gall technoleg newydd a ddefnyddir gan rai heddluoedd gyflymu ymatebion a chynnig ffyrdd newydd o gyfathrebu â phobl nad ydynt efallai'n gyfforddus yn defnyddio dulliau traddodiadol. Fel llais pobl Gogledd Cymru ym maes plismona, rwy'n awyddus iawn i ddeall yn well farn y cyhoedd ar y materion hyn ac ochr yn ochr â'm cyd-Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd, rwy'n annog cymaint o bobl â phosibl i ymateb i'r arolwg."